Mae mannau parcio i bobl anabl yn helpu deiliaid bathodynnau glas i barcio'n agosach at gartref.
Gallwch wneud cais am fan parcio i bobl anabl dim ond os:
- oes gennych chi neu rywun sy'n byw gyda chi anabledd parhaol ac yn ddeiliad bathodyn glas.
- mae cerbyd a gyrrwr wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad, ac
- nad oes cyfleusterau parcio oddi ar y stryd, fel dreif neu safle caled.
I wneud cais, rhaid i ddeiliad y bathodyn glas hefyd:
- fod yn 65 oed neu'n hŷn,
- yn cael elfen symudedd cyfradd uwch y Taliad Annibyniaeth Bersonol (os o dan 65 oed),
- yn derbyn y Tâl Atodol Symudedd Pensiwn Rhyfel, neu
- fod ag amgylchiadau eithriadol eraill.
Gallai enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol fod yn anawsterau ymddygiad neu ddysgu sy'n golygu na ellir gadael person yn ddiogel heb oruchwyliaeth wrth drosglwyddo rhwng y cartref a'r car, neu fod angen cymorth mecanyddol. Er enghraifft:
- cadair Olwyn
- caliperau,
- prostheteg,
- offer codi arbennig, neu
- gyflenwad ocsigen.
Dogfennau gofynnol
Yn eich cais, bydd angen i chi ddarparu copi neu ddelwedd glir o'r ddogfen Cofrestru Cerbyd V5C (llyfr log) neu Atodlen Motability yr RSA.
Os byddwch yn dweud wrthym yn eich cais eich bod yn cael elfen symudedd cyfradd uwch y Taliad Annibyniaeth Bersonol, bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o hyn.
Gwneud gais am fan parcio i bobl anabl
Gwneud gais am fan parcio i bobl anabl
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais?
Byddwn yn asesu eich cais. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am hyn.
Pan fyddwn yn derbyn cais, byddwn yn ystyried:
- ydy meini prawf y cais (gan gynnwys unrhyw dystiolaeth angenrheidiol) wedi'u bodloni,
- a fyddai'r cynigion yn effeithio ar lif traffig, diogelwch neu lefelau llygredd aer.
- a oes cyllid ar gael, ac
- a ellir gosod y man parcio'n unol â rheoliadau traffig.
Byddwn hefyd yn ymweld â'r lleoliad i weld pa mor brysur yw'r ffordd o ran parcio. Os bydd lle ar gael o fewn 25 metr i'ch cartref ar adeg yr arolygon, ni fyddwn fel arfer yn derbyn eich cais.
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth yw canlyniad eich cais.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael y man parcio?
Er ein bod yn ceisio delio â phob cais cyn gynted â phosibl, gall y broses gymryd hyd at 18 mis. Mae'n cynnwys ymgynghori â gwahanol gyrff a gwneud gorchymyn rheoleiddio traffig.
Byddwn bob amser yn ceisio lleoli'r man parcio o flaen eich cartref, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl.
Os na allwn wneud hyn, byddwn yn cysylltu â chi i awgrymu lleoliad arall.
Pwy fydd yn gallu parcio yn y man parcio?
Gall man parcio i bobl anabl gael ei ddefnyddio gan unrhyw un sy'n arddangos bathodyn glas dilys.
Beth os nad oes angen y man parcio hwn mwyach?
Os nad oes angen eich man parcio arnoch mwyach, cysylltwch â ni a dyfynnu eich cyfeirnod. Bydd angen ymgynghoriad cyhoeddus ar y broses o gael gwared ar fan parcio a gorchymyn rheoleiddio traffig.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os oes unrhyw gwestiynau gennych cyn gwneud cais:
Ffôn: 029 2087 2088
