Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Rhoi gwybod am broblem parcio

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am orfodi rhai cyfyngiadau parcio penodol. Gorfodir tramgwyddau parcio eraill gan Heddlu De Cymru. I adrodd problem parcio i'r heddlu, ffoniwch 101.

Rhowch wybod i ni os yw'r broblem parcio yn ymwneud ag un o'r canlynol:

  • cerbyd sy'n rhwystro eich dreif eich hun (efallai eich bod am wneud cais am farciau H-Bar)
  • parcio mewn lle i bobl anabl
  • parcio mewn man llwytho
  • parcio ar linell felen
  • rhwystro man parcio penodol i feddyg
  • rhwystro cwrbyn isel i gerddwyr
  • talu ac arddangos
  • parcio preswylwyr
  • parcio amser cyfyngedig
  • man parcio clwb ceir y ddinas
  • cerbydau wedi'i gadael

Rhowch gymaint o fanylion â phosibl.

Problem parcio o flaen eich tramwyfa neu garej

I helpu i atal parcio anystyriol o flaen eich tramwyfa neu garej efallai eich bod am wneud cais am farciau diogelu mynediad, neu farciau H-Bar.

Llinellau gwynion yw'r rhain a gaiff eu gosod ar y ffordd ac sy'n hawdd eu hadnabod er mwyn helpu i atal gyrwyr rhag parcio a chreu rhwystr.

Mae tâl a thelerau ac amodau yn berthnasol.