Gellir ystyried bod cerbyd wedi'i adael os yw yn yr awyr agored neu ar y briffordd ac:
- nid oes ceidwad cofrestredig ganddo, neu
- mae wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol, wedi'i losgi o'r tu mewn, wedi'i fandaleiddio, wedi'i dreulio'n llwyr neu heb fod yn addas i fynd ar y ffordd fawr, neu
- mae darnau hanfodol ar goll, er enghraifft, platiau cofrestru.
Sut mae'r Cyngor yn delio gyda cherbydau wedi'u gadael
Mae'n drosedd i adael unrhyw gerbyd yn anghyfreithlon yn yr awyr agored neu ar y briffordd. Mae'r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth i symud cerbydau wedi'u gadael dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Pan fo rhywun yn rhoi gwybod am gerbyd fel un sydd wedi'i adael mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y gwneir pob ymdrech i gysylltu â pherchennog cyfreithiol y cerbyd. Mae hyn i gadarnhau bod y cerbyd wedi'i adael. Ni ellir gwneud trefniadau i symud neu waredu'r cerbyd nes y ceir gwybod am hyn.
Byddwn yn ceisio cysylltu â'r perchennog cofrestredig diwethaf trwy anfon llythyr yn gofyn iddo gysylltu â ni. Os na fydd y perchennog yn cysylltu â ni, gallwn symud y cerbyd ar ôl 7 diwrnod. Os hawlir cerbyd gan y perchennog cofrestredig, nid oes hawl gan y Cyngor i symud y cerbyd ac ni chymerir camau pellach.
Dylid adrodd am bob cerbyd heb dreth, neu gerbyd sydd wedi'i barcio ar ffordd gyhoeddus gyda Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS), yma yn lle hynny.
Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
Os ydych yn credu bod cerbyd wedi'i adael, yn achosi perygl neu broblem o ran diogelwch, rhowch y manylion canlynol fel y gallwn ymchwilio:
- Yr union leoliad (e.e. gyferbyn rhif 36 Heol yr Ysgol)
- Marc Cofrestru Cerbyd (os oes gan y cerbyd blatiau cofrestru)
- Gwneuthuriad, lliw, Model y Cerbyd (os yw'n hysbys)
- Cyflwr (e.e. ffenestr wedi torri neu crafiadau)
- Perchennog y tir (os yw'n hysbys)
Lle na ddarperir yr wybodaeth hon, mae'n bosibl na fydd modd i'r Cyngor nodi'r cerbyd cywir a chymryd y camau gweithredu angenrheidiol.
