Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynllun parcio'r ddinas

Mae'r cynllun parcio newydd yn cyflwyno system symlach a thecach sydd:

  • yn helpu preswylwyr i barcio'n agosach at eu cartrefi.
  • yn lleihau traffig ac
  • yn cefnogi aer glanach.

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r cynllun parcio newydd, fodd bynnag, bydd angen i ni ymgynghori â'r cyhoedd yn fwy ar wahanol rannau o'r cynllun. Gellid gwneud newidiadau i'r cynllun yn seiliedig ar yr adborth a gawn yn ystod yr ymgynghoriadau.

Gallwch weld penderfyniad y Cabinet (rhif 4 ar yr agenda).

Pam mae angen i ni newid y cynllun parcio

Nid yw strategaeth parcio 2016 bellach yn bodloni anghenion ein dinas sy'n tyfu. Mae parcio am ddim i gymudwyr mewn ardaloedd preswyl wedi ei gwneud hi'n anodd i bobl leol a busnesau ddod o hyd i le.

Mae'r cynllun newydd yn rhoi trigolion yn gyntaf ac yn helpu i reoli'r galw'n decach.

 

Prif bwyntiau'r cynllun newydd

Mae 6 phrif bwynt y cynllun newydd.

3 ardal rheoli parcio

Rhennir Caerdydd yn 3 ardal rheoli parcio:

  • Canol y ddinas a'r ganolfan ddinesig
  • Ardal fewnol
  • Ardal allanol

Bydd gan bob ardal gyfyngiadau parcio wedi'u teilwra sy'n bodloni anghenion lleol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr barcio ger eu cartrefi.
 

Cyflwyno parthau rheoli parcio (PRhPau)

Bydd parcio ar y stryd yn cael ei reoli trwy barthau rheoli parcio. Bydd yr oriau gweithredu a'r rheolau yn cael eu cynllunio i flaenoriaethu:

  • preswylwyr,
  • deiliaid bathodyn glas,
  • gwasanaethau hanfodol, a
  • busnesau lleol.
     

Newidiadau i drwyddedau

Bydd trwyddedau ar gael ar gyfer:

  • preswylwyr,
  • myfyrwyr,
  • busnesau,
  • gofalwyr, a
  • safleoedd cymunedol.

Os yw'ch cerbyd dros 2.4 tunnell, bydd eich trwydded parcio ar y stryd i breswylwyr yn costio mwy. Ni fydd cerbydau dros 3.5 tunnell yn gymwys i gael trwyddedau.

Er nad yw trwyddedau'n gwarantu lle y tu allan i'ch eiddo, bydd y cynllun yn gwella faint o barcio sydd ar gael i breswylwyr a busnesau lleol ac yn lleihau parcio gan gymudwyr.
 

Newidiadau parcio ymwelwyr

Bydd preswylwyr yn gallu cael trwyddedau ymwelwyr dyddiol. Bydd trwyddedau fesul awr yn dal i fod ar gael er hyblygrwydd.

I atal camddefnydd, bydd terfyn ar faint o drwyddedau ymwelwyr y gellir eu defnyddio.

Mae'r lwfans trwydded ymwelwyr hefyd yn cael ei leihau ar gyfer eiddo myfyrwyr.
 

Cymorth i grwpiau sy'n agored i niwed

Mae'r cynllun yn blaenoriaethu deiliaid bathodyn glas. Bydd trwyddedau newydd hefyd ar gyfer gofalwyr proffesiynol a di-dâl i wneud yn siŵr bod y rhai sydd angen parcio fwyaf yn cael eu cefnogi.
 

Dull hyblyg, dan arweiniad y gymuned

Bydd cyfyngiadau parcio yn yr ardal allanol yn cael eu gosod trwy ymgynghori â chymunedau lleol. Mae hyn yn gwneud yn siŵr y byddant yn bodloni anghenion lleol.

 

Trwyddedau fydd ar gael yn y cynllun newydd

  • Trwyddedau preswylwyr ac ymwelwyr
  • Trwyddedau cymunedolAr gyfer safleoedd cymunedol, megis mannau addoli, neuaddau cymunedol a gorsafoedd gwasanaethau brys.
  • Trwyddedau gofalwr a gweithwyr gofalAr gyfer preswylwyr anabl sydd angen ymweliadau dyddiol gan ofalwyr.
  • Trwyddedau addysgolAr gyfer staff addysgu mewn ysgolion a gynhelir.
  • Trwyddedau defnyddwyr hanfodol Ar gyfer sefydliadau gofal cartref, ac adrannau cyngor a GIG sy'n darparu gofal yn y gymuned.
  • Trwyddedau cerbydau anableddAr gyfer pobl sydd â cherbydau i bobl anabl sydd wedi'u heithrio rhag treth.

Nid yw rhai o'r trwyddedau hyn ar gael ar hyn o bryd. Os oes gennych drwydded ddilys, nid oes angen i chi wneud cais o'r newydd ar hyn o bryd.

Bydd angen i ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddynt ddod ar gael a gwneud unrhyw newidiadau.

 

Ymgynghoriad ac adborth

Fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus o 16 Hydref i 2 Rhagfyr 2024. Cawsom dros 6,000 o ymatebion.

Gwnaethom sawl newid i'r cynllun yn seiliedig ar eich adborth, gan gynnwys:

  • Lleihau'r ardaloedd rheoli parcio o 4 i 3. Bydd ardal Bae Caerdydd bellach yn cael ei chynnwys yn yr ardal allanol.
  • Addasu oriau gweithredu yn yr ardal allanol.
  • Cynyddu cymhwysedd ar gyfer trwyddedau gweithwyr gofal.
  • Adolygu ffiniau'r ardal fewnol i gefnogi busnesau.

 

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i weithredu'r cynllun

Byddwn yn cyflwyno'r cynllun mewn 3 cham dros 10 mlynedd:

  • Tymor byr - hyd at 3 blynedd
  • Tymor canolig - 3 i 6 blynedd
  • Tymor hir - 6 i 10 mlynedd

Bydd pob ardal yn mynd trwy ymgynghoriad lleol ac yn dilyn y broses gyfreithiol Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT).

 

Yr ardaloedd y byddwn yn eu blaenoriaethu gyntaf

Bydd ardaloedd canol y ddinas gyda pharcio cyfyngedig yn cael eu blaenoriaethu:

  • Cathays
  • Plasnewydd
  • Glan-yr-afon
  • Adamsdown
  • Grangetown