Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Beth i'w wneud os nad yw peiriant talu ac arddangos yn gweithio

Os nad yw peiriant yn gweithio, byddwn yn rheoli'r broblem o bell ac yn ei hatgyweirio cyn gynted â phosibl.

Bydd angen i chi dalu o hyd gan ddefnyddio dull arall. Nid yw nam gyda pheiriant yn rheswm dilys dros beidio â thalu. Efallai y byddwch chi'n derbyn dirwy os nad ydych chi'n talu.

Darllenwch fwy am ddirwyon parcio.

Dulliau eraill o dalu

Gallwch ddefnyddio MiPermit i dalu am barcio:


Talu ar-lein

Defnyddiwch borthol ar-lein neu ap ffôn symudol MiPermit.

Darllenwch fwy am dalu ar-lein.


Talu dros y ffôn

Ffoniwch MiPermit ar 0333 123 6006. Bydd angen i chi roi'r rhif lleoliad ar y peiriant talu ac arddangos agosaf.

Darllenwch fwy am dalu dros y ffôn.


Talu trwy neges destun

Anfonwch neges destun 'PARK' a rhif cofrestru eich cerbyd i 61600. Bydd MiPermit yn eich ffonio yn ôl i drefnu eich taliad.

Darllenwch fwy am dalu trwy neges destun.

Ad-daliadau

Os oedd problem gyda'ch taliad ac rydych yn meddwl bod y tâl wedi'i godi ddwywaith arnoch, rhowch dystiolaeth o hyn i [email protected].

Os ydych wedi derbyn tocyn trafodiad di-rym, dylech chi aros 14 diwrnod i'r ad-daliad gael ei brosesu'n awtomatig cyn cysylltu â ni.