Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Cam 1 - ardal canol y ddinas (coridor Heol Casnewydd)

Rydym yn datblygu Cam 1 coridor trafnidiaeth gynaliadwy Caerdydd i Gasnewydd (coridor Heol Casnewydd) sy'n rhan o gynnig ehangach cynllun coridor Heol Casnewydd. 

O Heol y Gogledd, mae llwybr arfaethedig cam 1 yn dilyn:

  • Boulevard de Nantes,
  • Stuttgarter Strasse,
  • Plas Dumfries, a
  • Heol Casnewydd.

Gallwch weld lluniadau symlach o gam 1 (PDF, 1 MB)​. Bydd y llwybr hwn yn cysylltu â llwybrau beicio eraill yn y dyfodol.​

Mae'r cynigion yn cynnwys: 

  • gwell safleoedd bws a seilwaith bysiau,
  • beicffordd barhaol newydd i ddisodli'r feicffordd dros dro bresennol, 
  • gwell croesfannau a chyfleusterau i gerddwyr, a 
  • newidiadau i'r briffordd a threfn lonydd.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgysylltu ynghylch Cam 1 ac rydym yn dymuno clywed eich barn. 

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Rydym eisiau adborth ar bob agwedd ar y cynigion. 

I'ch helpu i'w ddychmygu, rydym wedi creu fideo 3D o'r awyr. 

​Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mhecyn ymgysylltu Cam 1 (PDF, 4 MB). ​Gweler fersiwn hygyrch testun yn unig y pecyn ymgysylltu Cam 1 (PDF, 264 KB)​.

Prif agweddau'r cynnig

Dysgwch fwy am brif agweddau'r cynnig. Efallai y bydd rhai adrannau o Gam 1 yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach.

Mae'r rhestr hon yn grynodeb o nodweddion cam 1. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y pecyn ymgysylltu.

Cyffordd Heol y Gogledd â Boulevard de Nantes

  • Bydd cysylltiad beicio newydd yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol Boulevard de Nantes. 
  • Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu.
  • Bydd cyfnodedd goleuadau traffig yn cael ei newid.
  • Bydd cysylltiad beicffordd newydd yn cael ei wneud ar y llwybr a rennir presennol ar ochr ddwyreiniol Heol y Gogledd sy'n arwain at Heol y Coleg.

Cyffordd Ffordd y Brenin i Boulevard de Nantes

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol Boulevard de Nantes a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Bydd Ffordd y Brenin yn cau i draffig rhwng Boulevard de Nantes a Heol y Brodyr Llwydion. 
  • Bydd tanffordd (isffordd) Boulevard de Nantes yn cael ei llenwi a bydd croesfan newydd yn cael ei chyflwyno ar Boulevard de Nantes sy'n wastad â'r ffordd. 

Man agored Ffordd y Brenin

  • Ar ôl cael gwared â'r danffordd, bydd cyfle i greu man agored cyhoeddus newydd.
  • Bydd cynlluniau yn cael eu datblygu ac ymgysylltir yn eu cylch yn ddiweddarach.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen 11 o'r pecyn ymgysylltu.

Cyffordd Boulevard de Nantes, Plas y Parc a Stuttgarter Strasse

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Bydd croesfannau yn cael eu newid. 
  • Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu. 

Cyffordd Cilgant Eglwys Andreas a Stuttgarter Strasse

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Bydd y gyffordd yn cau i gerbydau i wneud lle ar gyfer cyswllt beicio ac i wella diogelwch. 

Cyffordd Lôn Eglwys Andreas a Stuttgarter Strasse

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Bydd goleuadau traffig yn cael eu cyflwyno i helpu i atal gwrthdaro rhwng cerbydau a beicwyr. 

Plas Dumfries

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ddwyreiniol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Ceir gwared â safleoedd bws na fydd yn cael eu defnyddio mwyach o'r ochr ddwyreiniol. Bydd safleoedd bws ar yr ochr orllewinol yn cael eu diweddaru. 

Cyffordd Rhodfa'r Orsaf a Heol Casnewydd

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Bydd y gyffordd yn cael ei gwella. Bydd llwybr beicio Rhodfa'r Orsaf yn cysylltu â'r llwybr beicio parhaol newydd.

Cyffordd Heol Fitzalan a Heol Casnewydd 

  • Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro. 
  • Bydd y gyffordd yn cael ei gwella. 

Cyffordd Heol Casnewydd, Llwyn y Gorllewin a Phlas Fitzalan

  • Bydd newidiadau yn cael eu gwneud i'r gyffordd i hwyluso'r feicffordd ar yr ochr ogleddol. 
  • Bydd croesfannau yn cael eu newid. 
  • Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu. ​

 

Agweddau eraill y gellir eu cyflwyno yn ddiweddarach

Er ein bod yn ymgysylltu ynghylch Cam 1 yn gyffredinol, byddwn yn gweithredu rhai adrannau yn ddiweddarach. Mae hyn er mwyn lleihau'r effaith ar y rhwydwaith.
  
Bydd y llwybr beicio parhaol newydd yn cysylltu â'r llwybr beicio dros dro presennol am gyfnod dros dro.

Dysgwch fwy am agweddau eraill y cynnig.

Heol Casnewydd (rhwng Llwyn y Gorllewin a Heol y Pedair Llwyfen)

  • Bydd y llwybr beicio yn aros ar yr ochr ogleddol ac yn cael ei wneud yn barhaol.
  • Bydd seilwaith bysiau yn cael ei wella.
  • Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu. 

Llwyn y Dwyrain a Phlas Howard

  • Bydd mynediad i Heol Casnewydd yn cau i gerbydau.
  • Bydd croesfan twcan newydd yn cael ei chyflwyno gyda chyswllt i Feicffordd 6.

Cyffordd Heol y Plwca, Heol Casnewydd a Heol Glossop

  • Bydd aliniad y gyffordd yn cael ei wella.
  • Bydd cyfleusterau croesi yn cael eu gwella. 
  • Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu. 

Cyffordd Coedlan Wordsworth a Heol Casnewydd

  • Bydd y trefniant troi 'chwith mewn, chwith allan' i gerbydau yn cael ei adolygu i wella diogelwch ar y gyffordd. 

Oxford Lane

  • Bydd y system unffordd yn cael ei hadolygu fel rhan o drefniadau mynediad Coedlan Wordsworth.

Cyffordd Piercefield Place a Heol Casnewydd

  • Bydd y gyffordd yn cael ei chau i gerbydau. 
  • Bydd hidlydd moddol yn cael ei gyflwyno. Mae hwn yn ddyluniad ffordd sy'n cyfyngu mynediad i fathau penodol o gerbydau. Er enghraifft, yn caniatáu beiciau ond nid ceir. 
  • Bydd y rhan hon yn cysylltu â Cham 2 coridor Heol Casnewydd. 

Dim ond os oes arian ar gael y byddwn yn gallu cyflawni'r cam hwn, a gan ystyried prosiectau eraill a allai fod yn cael eu cyflawni ar y rhwydwaith trafnidiaeth. 

Darllenwch y pecyn ymgysylltu i gael rhagor o wybodaeth.​

​Adroddiad Ymgysylltu

Fe wnaethom ymgysylltu â'r cyhoedd rhwng 4 Gorffennaf a 17 Awst 2025.

Mae'r adroddiad ymgysylltu yn dangos yr adborth a gawsom ac yn darparu rhestr o sylwadau, safbwyntiau neu bryderon a godwyd.

O ganlyniad yr arolwg a'r adborth a gawsom, rydym wedi dod i'r casgliad bod angen gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, felly byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun hwn.

Y prif bwyntiau a adlewyrchwyd yn yr adborth oedd:

  • Pryderon diogelwch ar gyffyrdd a rhyngweithiadau rhwng defnyddwyr. Nod y cynllun yw mynd i'r afael â hyn trwy welliannau dylunio mwy diogel, cynhwysol ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio bysus.
  • Angen integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth yn well (ar gyfer cysylltedd beicio, seilwaith bysus, a cherddwyr). Rydym yn gwella seilwaith, cynlluniau, ac integreiddiad y rhwydwaith yn gyffredinol trwy gynigion. Nod y rhain yw gwneud teithio yn fwy hygyrch a dibynadwy trwy gefnogi cerdded, olwyno a beicio mwy diogel, tra'n helpu bysus i fod yn fwy dibynadwy.
  • Pryderon ynghylch tagfeydd, ailgyfeirio traffig, ac effeithiau mynediad. Rydym yn mynd i'r afael â'r rhain trwy fodelu traffig rhwydwaith cyfan ac asesiad parhaus. Er mwyn lleihau effeithiau ymhellach, rydym yn defnyddio dull dylunio iteraidd.  Mae hyn yn golygu ein bod yn datblygu ac yn gwella'r dyluniad dros amser.  Gwneir hyn ochr yn ochr â gwell arwyddion dynodi llwybrau, arwyddion cyffredinol, a chyfathrebiadau rheoli digwyddiadau i gefnogi llif traffig a chyfeirio cerddwyr.

Gallwch weld y cynllun diwygiedig, ein camau gweithredu a'r camau nesaf, yn yr adroddiad ymgysylltu llawn (PDF, 4 MB).