Rydym yn gwella Ffordd y Brenin fel rhan o Gam 1A coridor trafnidiaeth gynaliadwy Caerdydd i Gasnewydd. Mae coridor Heol Casnewydd yn rhan o gynnig cynllun coridor ehangach.
Mae'r llwybr ehangach yn mynd o ganol y ddinas i ffin y sir â Chasnewydd, lle bydd yn ymuno â gwaith Casnewydd ar y coridor cynaliadwy yn y pen draw.
O Heol y Gogledd, mae llwybr Cam 1A yn mynd ar hyd:
- Boulevard de Nantes,
- Stuttgarter Strasse,
- Plas Dumfries, a
- Heol Casnewydd, hyd at gyffordd Llwyn y Gorllewin.
Mae Gwelliannau Tir Cyhoeddus Ffordd y Brenin yn canolbwyntio ar ardal uchaf Ffordd y Brenin, sy'n cynnwys:
- Ffordd y Brenin, rhwng Boulevard de Nantes a Heol y Brodyr Llwydion
- I'r gogledd o Boulevard de Nantes rhwng Rhodfa'r Brenin Edward VII ac isffordd Boulevard De Nantes.
Gallwch wylio'r fideo i ddysgu mwy am y cynigion.
Lleoliad y newidiadau
Mae Ffordd y Brenin yng nghanol Caerdydd, gan gysylltu canol y ddinas a'r ganolfan ddinesig. Mae lleoedd cyfagos yn cynnwys:
- Gerddi'r Brodordy,
- Heol y Brodyr Llwydion, ac
- yr ardal o amgylch Boulevard de Nantes a chamlas gyflenwi'r dociau.
Sylwer, er bod yr ymgysylltiad hwn yn canolbwyntio ar Ffordd y Brenin, disgwylir rhywfaint o waith cysylltiedig fel rhan o gynllun ehangach y coridor. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd ychydig i'r gogledd ac i'r de o'r isffordd bresennol, lle bydd y rampiau a'r grisiau yn cael eu tynnu a'r ardal yn cael ei lefelu a'i gorffen i gyd-fynd â'r cynllun newydd.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
Nod y cynigion yw gwella llwybrau rhwng canol y ddinas a'r ganolfan ddinesig, a gwneud Ffordd y Brenin:
- yn ddiogelach,
- yn wyrddach, ac
- yn fwy croesawgar.
Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:
- Cael gwared ar isffordd Boulevard de Nantes, gan gynnwys y rampiau a'r grisiau.
- Darparu croesfan newydd i gerddwyr a beiciau ar lefel y stryd ar Boulevard de Nantes.
- Cau rhan uchaf Ffordd y Brenin i gerbydau modur (mynediad ar gyfer gwasanaethu neu ddefnyddiau arbennig y cytunwyd arnynt yn unig, fel digwyddiadau bach).
- Gwella'r ardal rhwng Boulevard de Nantes a Heol y Brodyr Llwydion i greu man cyhoeddus newydd.
- Ychwanegu coed, planhigion, seddi a man gwyrdd, gan gynnwys nodweddion draenio cynaliadwy a lleoedd parcio beiciau.
- Symud cerflun yr Ail Ardalydd Bute o Sgwâr Callaghan i safle canolog, a symud Cerflun y Nereid i ofod gwyrdd mwy hygyrch.
- Gwella goleuadau a gwelededd i wneud yn siŵr bod y gofod wedi'i oleuo'n dda, gan helpu pobl i symud o gwmpas yn ddiogel ac yn gyfforddus.
- Creu man hyblyg a rennir a all gefnogi digwyddiadau bach, marchnadoedd a gweithgarwch cymdeithasol.
- Darparu llwybr i gerddwyr trwy Erddi'r Brodordy rhwng Heol y Gogledd a Ffordd y Brenin, gyda rampiau hygyrch ac arwyneb newydd.
- Cynnal mynediad i feiciau, yn bennaf ar gyfer cyrraedd lle parcio beiciau, yn hytrach nag annog beicio cyflym drwy'r ardal.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig ym mhecyn ymgysylltu Gwelliannau i Dir Cyhoeddus Ffordd y Brenin (PDF, 3 MB).
Gallwch weld hefyd:
- fersiwn hygyrch testun yn uni o'r pecyn ymgysylltu (PDF, 281 KB),
- version print mawr o'r pecyn ymgysylltu (PDF, 281 KB), a
- fersiwn symlach o'r pecyn ymgysylltu (PDF, 328 KB).
Pam rydyn ni'n gwneud hyn
Mae angen gwneud newidiadau i'r coridor a'r llwybr beicio o amgylch Boulevard de Nantes, gan gynnwys cael gwared ar yr isffordd. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni:
- Gwella hygyrchedd a diogelwch i bobl sy'n cerdded ac yn beicio
- Lleihau blaenoriaeth a phresenoldeb traffig yn Ffordd y Brenin
- Darparu cysylltiadau gwell rhwng cyrchfannau allweddol yng nghanol y ddinas a'r ardal ddinesig
- Adnewyddu ardal y mae'n anodd symud o'i chwmpas a chael gwared ar rwystr rhwng dwy ardal
- Darparu lle sy'n dathlu hanes yr ardal tra'n cynnig manteision lles.
Dweud eich dweud
Ar hyn o bryd rydym yn gofyn am adborth ar bob rhan o'r cynnig a hoffem glywed eich barn.
Gallwch rannu eich barn ar y cynigion drwy gwblhau'r arolwg.
Bydd yr arolwg yn cau ar 5 Gorffennaf 2026.
