Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adroddiad parcio blynyddol 2021 i 2022

Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.

Mae ein hadroddiad parcio blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.

Gorfodaeth parcio

Mae gorfodi cyfyngiadau parcio yn ein helpu i fynd i'r afael ag unrhyw barcio anghyfreithlon ac anystyriol yn y ddinas.

Yn dibynnu ar y math o dramgwydd, mae gwahanol ddirwyon parcio ar waith:

  • £70 am dramgwyddau lefel uwch, neu,
  • £50 ar gyfer tramgwyddau lefel is.

Os byddwch yn talu Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brydlon, bydd y tâl yn gostwng gan 50%. Os byddwch yn anwybyddu HTC, bydd y tâl yn cynyddu.

Rhwng 2021 a 2022 fe wnaethom gyhoeddi 75,574 o HTCau parcio

Rhwng 2021 a 2022, y pum tramgwydd parcio mwyaf cyffredin oedd: 

CodTramgwyddHTCau a gyflwynwydLefel Cosb
12Parcio mewn mannau parcio i breswylwyr heb drwydded, neu heb arddangos trwydded yn glir.18,754Uwch - £70
01Parcio ar linellau melyn a strydoedd cyfyngedig.11,802Uwch - £70
02Parcio mewn ardal gyda chyfyngiadau llwytho.4,620Uwch - £70
06Parcio mewn man talu ac aros heb docyn, neu'r tocyn heb ei arddangos yn glir.4,517Uwch - £70
27Parcio wrth ymyl cwrbyn cyrbau isel.4,475Uwch - £70


Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.

Gorfodi lonydd bysus a thraffig yn symud

Rydym yn gorfodi cyfyngiadau mewn lonydd bysus i leihau oedi a gwneud teithio ar fysiau yn fwy effeithlon. Mae hyn yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu traffig i lifo'n haws o amgylch y ddinas.

Rydym yn cyhoeddi HTCau i yrwyr sy'n mynd yn groes i rai cyfyngiadau traffig symudol, fel:

  • troadau gwaharddedig
  • mynediad cyfyngedig, a
  • chyffyrdd sgwâr.

Dim ond drwy CCTV y gellir gorfodi tramgwyddau lonydd bysus a thraffig symudol.

Y gosb am bob tramgwydd lôn fysus a thraffig sy'n symud yw £70. Bydd hyn yn gostwng i £35 os ydych yn talu'r gosb o fewn 21 diwrnod.

Rhwng 2021 a 2022 cyhoeddwyd y canlynol:

  • 48,410 HTC lonydd bysus, a
  • 58,457 HTC traffig symudol.

Rhwng 2021 a 2022, y pum tramgwydd lonydd bysus a thraffig symudol oedd: 

CodTramgwyddHTCau a gyflwynwyd
34Bod mewn lôn fysus.33,803
33WDefnyddio llwybr wedi'i gyfyngu i gerbydau penodol14,468
50RTroi i'r dde lle na chaniateir troi i'r dde.13015
51Methu â chydymffurfio â chyfyngiad dim mynediad.10460
50LTroi i'r chwith lle na chaniateir troi i'r chwith.5745


Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.

Heriau, sylwadau ac apeliadau

Os yw gyrwyr yn derbyn HTC ond nad ydynt yn credu y dylent dalu'r ddirwy, dylent ysgrifennu atom i esbonio pam. Byddwn yn ystyried y rhesymau y maent wedi'u rhoi ac yn penderfynu a ddylem ganslo'r HTC.

Heriau anffurfiol

Gallwch wneud her anffurfiol i'n penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r HTC gael ei roi i chi.

Sylwadau ffurfiol

Gallwch wneud sylwadau'n ffurfiol os cyflwynwyd Hysbysiad i Berchennog i chi, neu os ydych wedi derbyn HTC drwy'r post.

Rhwng 2021 a 2022, nifer yr heriau anffurfiol a ffurfiol a gawsom oedd:

MathWedi dod i lawCanran y HTCau a gafodd eu canslo*Canran y HTCau a orfodwyd
Anffurfiol11,11459%41%
Ffurfiol18,91273%27%

*nid yw hyn bob amser yn golygu bod gorfodi wedi cael ei atal, gan y gallai HTC newydd fod wedi'i gyfeirio at rywun arall. Er enghraifft, os cafodd y cerbyd ei logi gan rywun arall.

Os gwrthodwn eich sylwadau ffurfiol, mae gennych hawl i apelio i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Rhwng 2021 a 2022 nifer yr achosion a aeth at y dyfarnwr oedd: 

 Tramgwydd parcioTramgwydd lonydd bysusTramgwydd traffig sy'n symud
Cyfanswm Apeliadau773585
Enillwyd gan y Cyngor492059
Collwyd gan y Cyngor281526


Gallwch ddarllen mwy am heriau anffurfiol a sylwadau ffurfiol yma.

Bathodynnau glas

Mae bathodynnau glas yn rhoi manteision parcio i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae nifer o fannau parcio bathodyn glas pwrpasol yn y ddinas. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan yrwyr anabl am fan bathodyn glas y tu allan i'w cartref.

Rhwng 2021 a 2022, fe wnaethom gyflwyno 79 o fannau anabl newydd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun bathodyn glas yma.

Gorfodi bathodynnau glas

Mae camddefnyddio bathodyn glas yn drosedd. Rydym yn gorfodi camddefnydd bathodynnau glas i sicrhau nad yw gyrwyr sy'n cam-drin y cynllun yn amharu ar bobl anabl.

Rhwng 2021 a 2022 nifer y bathodynnau glas a wiriwyd gan arolygwyr oedd:

GorfodiSwm
Gwirio bathodynnau glas3,081
Nifer y bathodynnau glas a atafaelwyd76
Achosion a aeth i'r llys36
Rhybudd i droseddwyr34
Dirwy ar gyfartaledd£409.31


Y lleoliadau lle roedd y lefelau uchaf o gamddefnyddio bathodynnau glas oedd:

  • Ffordd Churchill,
  • Lôn Windsor, a
  • Plas Windsor.

Y tri phrif fath o gamddefnyddio bathodynnau oedd:

  • Defnyddio bathodyn glas pan nad oedd deiliad y bathodyn yn bresennol.
  • Bathodynnau wedi dod i ben.
  • Bathodynnau'n cael eu defnyddio ar ôl i ddeiliad y bathodyn farw.

 

Trwyddedau

Rydym yn defnyddio cynlluniau parcio trwyddedau mewn ardaloedd lle mae galw mawr am barcio. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod digon o lefydd parcio i breswylwyr.

Rydym hefyd yn cyhoeddi trwyddedau mynediad ar gyfer rhai cyfyngiadau traffig sy'n symud, fel Strydoedd Ysgol. Gallwch ddarllen mwy am ein Cynllun Strydoedd Ysgol yma.

Rhwng 2021 a 2022 y nifer a'r mathau o drwyddedau a gyhoeddwyd gennym oedd:

Math o drwyddedTrwyddedau a gyflwynwyd
Preswylydd25,006
Ymwelydd13,056
Stryd Ysgol329
BusnesDd/B
Meddyg39
Gofalwr562
Contractwr18

 

Talu ac aros

Rydym yn gweithredu parcio talu ac aros mewn meysydd parcio ac ar strydoedd ar hyd a lled y ddinas.

Rhwng 2021 a 2022, nifer y tocynnau a werthwyd a'r incwm a gynhyrchwyd ganddynt oedd:

LleoliadTocynnau a werthwydIncwm
Ar y stryd836,717£3,089,648
Meysydd parcio953,001£799,951
Cyfanswm1,789,718£3,889,599


Mae ein peiriannau talu yn derbyn cardiau ac arian parod. Gallwch hefyd dalu am barcio drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth MiPermit.

Rhwng 2021 a 2022, y dulliau talu oedd:

Dull TaluCanran y taliadau a gymerwyd
Cerdyn32%
Arian parod11%
MiPermit15%
Arosiadau am ddim42%

 

Clampio a symud

Rhaid i bob cerbyd a gofrestrir yn y DU gael ei drethu'n gywir os yw'n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Byddwn yn clampio ac yn symud cerbydau nad ydynt wedi eu trethu'n gywir.

Rhwng 2021 a 2022 nifer y cerbydau a gafodd eu clampio neu eu hatafaelu oedd:

Camau gweithreduNifer y cerbydau
Clampio768
Atafaelu197


O'r 768 o gerbydau a gafodd eu clampio:

  • Cafodd 66% eu rhyddhau,
  • Cafodd 26% eu hatafael, a
  • Cafodd clampiau 8% o gerbydau eu dwyn.

O'r 93 o gerbydau a gafodd eu hatafael:

  • Cafwyd gwared â 150, a
  • Cafodd 47 eu rhyddhau.

Cafwyd hyd i'r nifer uchaf o gerbydau heb eu trethu yn:

  • Y Rhath
  • Cathays
  • Glan-yr-Afon

 

Defynyddio incwm

Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:

  • prosiectau priffyrdd a ffyrdd
  • gwella'r amgylchedd, a
  • gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Rhwng 2021 a 2022, ein hincwm parcio oedd:

Sut y cynhyrchwyd yr incwmSwm
Parcio ar y stryd£3,130,000
Meysydd parcio£808,000
Trwyddedau£441,000
HTCau Parcio£1,903,000
HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud£3,502,000
Arall*£30,000
Cyfanswm incwm£9,814,000

*er enghraifft:

  • ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
  • ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
  • gwasanaethau parcio eraill.
  • Rhwng 2021 a 2022, ein gwariant oedd:
Ein gwariantSwm
Costau gweithredu£776,000
Gwasanaethau Gorfodi£6,279,000
Cyfanswm gwariant£7,055,000


Rhwng 2021 a 2022, gwarged ein hincwm parcio oedd: 

GwargedSwm
Gwarged gweithredol£2,759,000
Cronfa Galedi Llywodraeth Leol£983,000
Cyfanswm gwarged£3,742,000
Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd£6,293,000
Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn£2,551,000