Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgolion sydd ar gau i gerbydau yn ystod yr amseroedd gollwng a chasglu prysuraf.
Mae hyn er mwyn helpu plant i gael mynediad i'r ysgol yn ddiogel, hyrwyddo teithio llesol a lleihau llygredd aer.
Dim ond cerbydau â thrwydded Stryd Ysgol ddilys y caniateir iddynt fynd i Stryd Ysgol yn ystod yr amseroedd cyfyngedig.
Lleoliadau Strydoedd Ysgol
Mae yna lawer o strydoedd ysgol yng Nghaerdydd, ac mae gan bob un ei chyfeirnod lleoliad ei hun:
Ardal Strydoedd Ysgol SS
Ysgol | Ffyrdd yr Effeithir Arnynt | Amseroedd Cyfyngedig | Cyfeirnod yr Ardal |
|---|---|---|---|
Ysgol Gynradd Creigiau | Tregarth Close | 8:30am i 9:30am | SS1 |
Ysgol Gynradd Glan yr Afon | Clos Browning | 8:30am i 9:30am | SS2 |
Ysgol Gynradd Fairoak | Pentyrch Street | 8:30am i 9:30am | SS3 |
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville | Lôn Heol Casnewydd | 8:00am i 9:30am | SS4 |
Ysgol Gynradd Bryn Hafod | Blagdon Close | 8:30m i 9:30am | SS5 |
Ysgol Gynradd Willowbrook | Bulrush Close | 8:30am i 9:30am | SS6 |
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr | Coedlan Wordsworth | 8:30am i 9:15am | SS7 |
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert | Heol Letton | 8:30am i 9:30am | SS8 |
Ysgol Gynradd Lakeside | Ontario Way | 8:30am i 9:30am | SS9 |
Parth Strydoedd Ysgol SZ
| Ysgol | Ffyrdd yr Effeithir Arnynt | Amseroedd Cyfyngedig | Cyf. Parth |
|---|---|---|---|
| Ysgol Gynradd Melin Gruffydd | Glan Y Nant Road Glan Y Nant Terrace Davis's Terrace | 8:30am i 9:15am 2:45pm i 3:45pm | SZ1 |
| Ysgol Gynradd Pencaerau | Cyntwell Avenue | 8:30am i 9:15am 2:45pm i 3:45pm | SZ2 |
| Peter Lea Primary School | Carter Place | 8:30am i 9:15am 2:45pm i 3:45pm | SZ3 |
| Llandaff City Church in Wales Primary School | Hendre Close | 8:30am i 9:15am 2:45pm i 3:45pm | SZ4 |
| Lansdowne Primary School | Norfolk Street Surrey Street | 8:30am i 9:15am 2:30pm i 3:15pm | SZ5 |
| Ysgol Gynradd Coed y Gof | Bramble Close Lime Grove | 8:30am i 9:30am 2:30pm i 3:30pm | SZ6 |
| Rhiwbina Primary School | Lon Y Dail Lon Ganol Lon Ucha | 8:30am i 9:15am 3pm i 3:45pm | SZ8 |
| Bryn Y Deryn PRU, Ysgol Gynradd Pwll Coch, a Fitzalan High School | Lawrenny Avenue Sudcroft Street | 8:15am i 9:15am 2:30pm i 3:45pm | SZ9 |
Ardal Strydoedd Ysgol SA
Ysgol | Ffyrdd yr Effeithir Arnynt | Amseroedd Cyfyngedig | Cyfeirnod yr Ardal |
|---|---|---|---|
Ysgol Gynradd Kitchener | Railway Terrace | 8:15am i 9:15am | SA2 |
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul | Stryd Bromsgrove | 8:30am i 9:15am | SA3 |
Trwyddedau stryd ysgol
Gallech fod yn gymwys i wneud cais am drwydded mynediad Stryd Ysgol am ddim ar-lein. Gan eu bod nhw'n ddigidol, ni fydd angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.
Mae trwyddedau Stryd Ysgol yn ddilys am 1 flwyddyn o ddyddiad derbyn y cais.
Telerau ac amodau'n berthnasol.
Ein nod yw adolygu pob cais o fewn 7 diwrnod gwaith
Cofiwch nad trwyddedau parcio yw trwyddedau Stryd Ysgol, ac wrth barcio, rhaid cadw at yr holl gyfyngiadau a allai fod ar waith.
Trwyddedau i Breswylwyr Strydoedd Ysgol
Trwyddedau Blynyddol
Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded Stryd Ysgol os ydych yn byw mewn Stryd Ysgol a bod eich cerbyd wedi'i gofrestru neu'n cael ei gadw yn eich cyfeiriad.
I wneud cais, bydd angen eich cyfeirnod Treth Gyngor arnoch, a chopi o un o'r canlynol:
- Tystysgrif Cofrestru Cerbyd y DU (Llyfr log V5c)
- Cytundeb Prydlesu, Cyllido neu Rentu
- Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability)
- Cerbydau Cwmni: mae'n rhaid i chi ddarparu llythyr pennawd cwmni o fewn 28 diwrnod i'ch cais i gadarnhau pob un o'r canlynol: eich bod chi'n gyflogai/gyfarwyddwr, eich bod wedi'ch awdurdodi i yrru'r cerbyd, eich bod yn cadw'r cerbyd dros nos yn eich cyfeiriad, rhif cofrestru eich cerbyd ac enw a swydd y person sy'n llofnodi'r llythyr.
Os na allwch ddarparu cyfeirnod Treth Gyngor bydd angen i chi lawrlwytho ein ffurflen gais (PDF), a darparu prawf o'ch cyfeiriad. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i chi gael trwyddedau. Yna dylid anfon y ffurflen wedi'i chwblhau at [email protected].
Ni fydd angen trwydded Stryd Ysgol arnoch os oes gan eich cerbyd e-drwydded preswyl ddigidol. Nid yw trwyddedau parcio ymwelwyr preswyl yn berthnasol i Strydoedd Ysgol.
Tocynnau Ymwelwyr Brys
Mae gan breswylwyr yr opsiwn i gael hyd at 30 tocyn diwrnod fesul blwyddyn academaidd ar gyfer ymwelwyr sydd angen mynediad mewn argyfwng (megis os oes angen i blymwr fynychu gollyngiad dŵr).
Mae un tocyn yn rhoi mynediad am ddiwrnod llawn i un cerbyd.
Er nad oes terfyn ar nifer y tocynnau brys y gellir eu defnyddio ar unrhyw un adeg, ni ellir eu trosglwyddo o gerbyd i gerbyd.
Pan fydd eich ymwelydd yn cyrraedd, gallwch roi pàs brys am ddiwrnod ar waith drwy'r opsiwn "Gweithredu Trwydded Ymwelwyr" ar eich cyfrif MiPermit.
Trwyddedau Stryd Ysgol Bathodynnau Glas a Gofalwyr
Deiliaid Bathodyn Glas
Gallwch wneud cais am drwydded eithrio Stryd Ysgol os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas ac os ydych:
- Yn ddisgybl ysgol sydd mewn Stryd Ysgol
- Yn riant neu warcheidwad plentyn sy'n mynychu ysgol ar Stryd Ysgol
- Aelod o staff ysgol sydd mewn Stryd Ysgol
- Preswylydd Stryd Ysgol ac nad ydych yn berchen ar eich cerbyd eich hun
Bydd angen i chi uwchlwytho prawf o Fathodyn Glas dilys a phrawf eich bod yn bodloni un o'r meini prawf uchod.
Nid oes rhaid i chi fod yn yrrwr neu'n berchennog y cerbyd, gan fod trwyddedau Bathodyn Glas yn berthnasol i unrhyw gerbyd. Fodd bynnag, dim ond pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio er budd deiliad y Bathodyn Glas ar adeg mynd i mewn i Stryd Ysgol y mae'r drwydded yn berthnasol, a rhaid i ddeiliad y Bathodyn Glas gael ei Fathodyn Glas gyda nhw bob amser.
Gofalwyr
Gallwch wneud cais am drwydded eithrio gofalwr Stryd Ysgol os ydych yn darparu gofal rheolaidd i breswylydd Stryd Ysgol.
Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un sy'n gofalu am aelod o'r teulu, partner neu ffrind sydd angen help oherwydd salwch, eiddilwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed ac na all ymdopi heb gymorth o ddydd i ddydd.
I wneud cais am drwydded eithrio gofalwr mae'n rhaid i chi gyflwyno prawf o'r ffaith eich bod yn berchen ar neu'n defnyddio'r cerbyd ar y drwydded (fel eich llyfr log V5c neu eich dogfen yswiriant), ac o leiaf un o'r canlynol:
- Prawf o gyflogaeth fel gofalwr iechyd proffesiynol
- Copi o ddogfen sy'n dangos eich bod yn derbyn Lwfans Gofalwr neu fudd-daliadau Credyd Gofalwr; neu,
- Lythyr wedi'i lofnodi gan y preswylydd yn cadarnhau gofynion gofal. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff pob cais ei ystyried ar ei rinweddau ei hun.
Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu enw a chyfeiriad llawn y preswylydd.
Trwyddedau Busnes Stryd Ysgol
Gallwch wneud cais am drwydded Stryd Ysgol os ydych yn berchen ar, yn rhedeg neu'n cael eich cyflogi gan Fangre Busnes, Crefyddol neu Gymunedol sydd ar Stryd Ysgol.
I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu:
- Prawf eich bod yn berchen ar neu'n defnyddio'r cerbyd trwydded (fel eich Llyfr Log V5c neu ddogfennau yswiriant), a;
- Chadarnhad o'r gofyniad am fynediad busnes (prawf perchnogaeth, cerdyn adnabod staff neu lythyr eglurhaol ar bapur pennawd cwmni, wedi ei lofnodi gan berson priodol fel rheolwr)
Gorfodi
Mae'n drosedd mynd i mewn i stryd ysgol weithredol heb drwydded stryd ysgol ddilys. Byddwn yn defnyddio camerâu gorfodi i fonitro Strydoedd Ysgol ac yn cyflwyno dirwyon (Hysbysiadau Tâl Cosb) i droseddwyr.
Y ddirwy am y drosedd hon yw £70, wedi'i gostwng i £35 os caiff ei thalu o fewn 21 diwrnod. Os anwybyddir y ddirwy, bydd y gosb yn cynyddu. Bydd hawl i apelio os credwch na ddylai'r HTC fod wedi cael ei gyhoeddi.
Bydd gorfodi yn digwydd pan fydd ysgolion ar agor.
