Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Tramgwyddau

Mae Hysbysiadau Tâl Cosb (dirwy barcio) yn cael eu cyflwyno i gerbydau sy'n cyflawni troseddau parcio neu draffig symudol. 

Os cewch Hysbysiad Tâl Cosb​​, rhaid i chi benderfynu p'un a ydych am dalu neu apelio.

Isod ceir rhestr o rai o'r troseddau hyn a'u hystyron i'ch helpu i osgoi cael dirwy.

Dirwy Parcio

01 - Llinellau melyn dwbl - Parcio mewn stryd cyfyngedig yn ystod oriau penodol

  • Dim aros ar unrhyw adeg
  • Cewch stopio pan fydd teithwyr yn mynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond ni ddylid gadael y cerbyd yno.
  • Gallwch lwytho a dadlwytho os yw'n gwbl amlwg mai dyna sy'n digwydd.
  • Gall deiliaid bathodynnau glas barcio am hyd at dair awr heb ddychwelyd am awr gyda bathodyn glas dilys wedi'i ddangos yn glir a chloc amser wedi'i osod yn gywir. (cyfeiriwch at y llyfryn)
  • Dim angen arwydd ar gyfer y cyfyngiad.
  • Mae'r llinellau melyn hefyd yn berthnasol i'r palmant, y briffordd neu'r llain ymyl.

Llinellau melyn sengl

  • Yn ystod oriau gweithredu fel y nodir ar y plât amser, mae'r marciau hyn yr un fath â llinellau melyn dwbl.​
  • Y tu allan i'r oriau hyn, nid yw'r cyfyngiad llinell felyn yn berthnasol.​

02 / 02J - Wedi Parcio ar Gyfyngiad Llwytho - Wedi parcio neu'n llwytho/dadlwytho ar stryd cyfyngedig pan fo cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho ar waith

Cyfyngiadau llwytho  

  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Mae llinellau melyn (ticiau) ar y cwrbyn neu ar ymyl y lôn gerbydau'n nodi bod cyfyngiad llwytho ar waith.
  • Mae tic sengl ar y cwrbyn yn golygu dim llwytho rhwng yr oriau a nodir ar y plât amser (plât gwyn - gall yr amseroedd amrywio a rhaid gwirio'r plât amser). 
  • Mae dau dic melyn ar y cwrbyn yn golygu na chaniateir llwytho neu ddadlwytho ar unrhyw adeg.
  • Gall cerbydau stopio wrth i deithwyr fynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond ni chânt aros ac mae'n rhaid i'r gyrrwr beidio â dod allan o'r cerbyd. 
  • Ni all deiliaid bathodynnau glas barcio ar gyfyngiad llwytho.​
  • Gellid gorfodi'r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai'n cael ei anfon drwy'r post yn lle. 

05 - Parcio ar ôl i'r amswer y talwyd amdano ddod i ben

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio'n hirach na'r amser a nodir ar y tocyn, neu'n hirach na'r amser y talwyd amdano ar MiPermit.

11 - Parcio heb dalu'r tâl parcio

  • Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio heb arddangos tocyn dilys neu heb wneud taliad MiPermit.
  • Rhaid arddangos tocynnau Talu ac Arddangos yn glir ar y panel deialau.
  • Rhaid i docynnau fod wedi'u gosod y ffordd gywir yn dangos manylion cofrestru cywir y cerbyd.
  • Rhaid i daliadau a wneir ar MiPermit gynnwys manylion cywir y cerbyd a'r lleoliad parcio er mwyn cael eu hystyried yn ddilys.

12 - Parcio mewn Man Parcio Preswylwyr heb drwydded - Wedi parcio mewn man parcio i breswylwyr neu ddefnydd a rennir heb arddangos yn glir un ai trwydded neu docyn, neu docyn talu ac arddangos ar gyfer y lleoliad hwnnw

  • Ni chewch barcio mewn man parcio i breswylwyr pan fydd yn weithredol heb docyn dilys sydd wedi'i arddangos yn glir. Bydd yr oriau y mae'n weithredol wedi'i nodi'n glir ar yr arwydd cyfagos.
  • Yng Nghaerdydd, gall deiliaid bathodynnau glas barcio am hyd at dair awr heb ddychwelyd am awr gyda bathodyn glas dilys wedi'i ddangos yn glir a chloc amser wedi'i osod yn gywir.​
  • Gallwch barcio at ddibenion llwytho a dadlwytho. Rhaid i lwytho a dadlwytho parhaus ddigwydd a rhaid i swyddog weld hyn yn digwydd. Yna, rhaid symud y Cerbyd i fan parcio nad yw'n gyfyngedig. 

16 - Wedi parcio mewn man trwydded heb arddangos trwydded ddilys

  • Ni chewch barcio mewn man parcio trwydded pan fydd yn weithredol heb arddangos trwydded ddilys ar gyfer y lleoliad hwnnw, neu efallai y bydd ar gyfer cerbydau penodol yn unig (h.y. Doctoriaid, Clwb Ceir). Bydd yr oriau y mae'n weithredol wedi'i nodi'n glir ar yr arwydd cyfagos.
  • Does dim eithriad i ddeiliaid bathodynnau glas yn y mannau parcio hyn.

19 - Parcio mewn Man Parcio i Breswylwyr gyda Thrwydded annilys

Mae angen i chi arddangos trwydded dilys yn glir wrth barcio mewn man parcio i breswylwyr. 

Ystyrir y drwydded yn annilys a chyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw:

  • ​y drwydded wedi dod i ben.
  • y cerbyd wedi parcio ar stryd sydd â thrwydded ar gyfer lleoliad arall.
  • y drwydded wedi'i gorchuddio a does dim modd gweld holl fanylion y drwydded.
  • rhif cofrestru'r cerbyd yn wahanol i'r rhif cofrestru ar y drwydded. 

21 - Dychwelyd i fan parcio aros cyfyngedig o fewn amseroedd penodol - Wedi ail barcio yn yr un man neu barth parcio o fewn awr o adael (neu amser penodol arall)

  • Mae'r wybodaeth 'dim dychwelyd' ar yr arwydd. Golyga hyn na chewch ddychwelyd i'r man parcio aros cyfyngedig o fewn yr amser a nodir. Bydd swyddogion gorfodaeth parcio'n cadw cofnod o'r holl gerbydau sydd wedi parcio mewn mannau parcio aros cyfyngedig i sicrhau nad ydynt yn gor-aros na'n dychwelyd i'r man parcio o fewn yr amserlen benodol. 
  • Gall deiliaid bathodynnau glas barcio'n hirach na'r amseroedd a nodir ar yr arwyddion gyda bathodyn glas dilys wedi'i arddangos yn glir, oni bai bod yr arwyddion yn nodi fel arall ond pan fydd y cerbyd wedi symud mae'r rheol dim dychwelyd yn berthnasol. 

23 - Wedi parcio mewn man neu ardal barcio nad yw wedi'i ddynodi ar gyfer y dosbarth cerbyd hwnnw

Os yw arwydd yn nodi mai dim ond math penodol o gerbyd all barcio yn y man parcio hwnnw yn ystod yr amseroedd sydd ar yr arwydd:

  • Man Llwytho Cerbydau Nwyddau - Dim ond cerbydau sydd wedi'u haddasu'n barhaol ar gyfer cario nwyddau/eitemau gaiff ddefnyddio'r man hwnnw.
  • Man Bysus - Dim ond cerbyd gydag o leiaf 9 o seddi i deithwyr gaiff barcio yma.
  • Man Beiciau Modur - Dim ond beiciau modur gaiff barcio yn y mannau parcio hyn. 

24 - Heb barcio'n gywir o fewn marciau'r man neu le parcio

  • Wrth barcio mewn man, lle neu faes parcio rhaid i chi sicrhau bod eich cerbyd yn gyfan gwbl o fewn y man parcio wedi'i farcio neu leoedd parcio dilys.

25 - Wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho 

Mannau llwytho

  • Mannau gwyn wedi'u marcio â'r geiriau 'llwytho yn unig' neu 'man llwytho'. 
  • Gall y mannau hyn fod wedi'u cyfyngu i fathau penodol o gerbydau, megis cerbydau nwyddau.
  • Os nad oes amseroedd wedi'u nodi, mae'r man parcio'n weithredol bob amser.
  • Dim ond o'r mannau parcio hyn y cewch lwytho a dadlwytho, ac ar ôl gorffen bydd angen i chi symud eich cerbyd o'r man llwytho.  Mae'n bosibl y bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno os nad yw swyddog yn gweld unrhyw lwytho neu ddadlwytho'n digwydd.

26 - Cerbyd wedi'i  barcio mwy na 50cm o ymyl y lôn gerbydau heb fod y tu mewn i fan parcio dynodedig

  • Does dim angen amser goruchwylio, a bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno pan fydd cerbyd wedi'i barcio yn y lôn gerbydau a phan bo'r cerbyd yn ei gyfanrwydd yn fwy na 50cm i ffwrdd o'r cwrbyn. Mae hyn yn cynnwys parcio dwbl. 

27 - Wedi parcio gyferbyn â​ throedffordd isel

  • Does dim angen amser goruchwylio. 
  • Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb pan fydd cerbyd wedi'i barcio un ai'n rhannol neu'n llawn ar draws gwrbyn isel.
  • Gall parcio ger cwrbyn isel ac ati achosi anghyfleustra sylweddol a rhoi defnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed mewn perygl. Gall parcio gyferbyn â chwrbyn isel ger mynediad at eiddo fod yn niwsans sylweddol i yrwyr sy'n ceisio mynd i mewn neu adael yr eiddo. 
  • Mae'r Cod Priffyrdd yn dweud wrth yrwyr "peidiwch â stopio neu barcio... lle mae'r cwrbyn wedi'i wneud yn is i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd pŵer, neu lle byddai'n rhwystro defnydd beicwyr o gyfleusterau beiciau... oni bai pan fo'n rhaid gwneud hynny oherwydd traffig sefydlog". 

28 - Wedi parcio ar ran o'r lôn gerbydau a godwyd i gyrraedd lefel y droedffordd, y trac beiciau neu'r llain ymyl

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno pan fydd cerbyd wedi'i barcio ar y ffordd lle mae'r lôn gerbydau wedi codi i lefel y lôn gerbydau / llain ymyl cyfagos.

30 - Parcio'n hirach na'r hyn a ganiateir

Mannau aros cyfyngedig  

  • Yn amlwg oherwydd marciau'r man parcio a'r arwyddion sy'n nodi'r uchafswm o amser y cewch barcio yn y man parcio hwnnw. Does dim cyfyngiad amser i ddeiliaid bathodynnau glas oni bai bod yr arwydd yn nodi'n wahanol.
  • Mae'r wybodaeth 'dim dychwelyd' ar yr arwydd. Golyga hyn na chewch ddychwelyd i'r man parcio aros cyfyngedig o fewn yr amser a nodir. Bydd swyddogion gorfodaeth parcio'n cadw cofnod o'r holl gerbydau sydd wedi parcio mewn mannau parcio aros cyfyngedig, gan gynnwys ardaloedd talu ac arddangos, i sicrhau nad ydynt yn gor-aros na'n dychwelyd i'r man parcio o fewn yr amserlen benodol. 
  • Mae'r eithriadau'n berthnasol dim ond i ddeiliaid trwyddedau preswylwyr penodol gyda thrwydded ddilys ar gyfer ardaloedd parcio aros cyfyngedig.

40 - Parcio mewn man parcio dynodedig i berson anabl heb ddangos yn glir bathodyn person anabl dilys

  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn. 
  • Ni chewch barcio mewn mannau parcio ar gyfer defnyddwyr penodol megis deiliaid bathodynnau glas, oni bai bod gennych hawl i wneud hynny.
  • Pan fyddwch yn parcio mewn man parcio i ddeiliaid bathodynnau glas yn unig, rhaid arddangos bathodyn glas yn gywir ac yn glir bob amser.  

45 / 45J - Wedi parcio mewn safle tacsis

Safleoedd tacsi

  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Ni ddylech barcio mewn safle tacsis pan fydd ar waith. Bydd yr oriau y mae'n weithredol wedi'i nodi'n glir ar yr arwyddion cyfagos. Os nad oes amser ar yr arwyddion bydd y safle tacsis ar waith bob tro. 
  • Mae hyn ond yn berthnasol ar gyfer cerbydau hacni, nid cerbydau llogi preifat, ac mae'n rhaid i'r gyrrwr aros yn y cerbyd a bod ar gael i'w logi.
  • Gellid gorfodi'r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai'n cael ei anfon drwy'r post yn lle hynny.

47 / 47J - Wedi stopio ar safle bws neu ar arhosfan cyfyngedig

  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Ni chaniateir i unrhyw gerbyd stopio ar safle bws / arhosfan oni bai am Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus neu Gerbydau Hacni fel y'i diffinnir gan ddeddfwriaeth.
  • Rhaid i fysus ddefnyddio arosfannau bysus i adael i deithwyr adael y bws neu ddod ar y bws yn unig. Fodd bynnag, gallent barcio am gyfnod hirach i gynnal amserlen neu i newid gyrrwr.
  • Gall Cerbyd Hacni stopio dim ond am yr amser sydd ei angen i godi neu ollwng teithwyr. Ni all cerbydau llogi preifat stopio. ​
  • Gellid gorfodi'r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai'n cael ei anfon drwy'r post yn lle hynny.​

48 / 48J - Wedi stopio mewn ardal gyfyngedig y tu allan i ysgol

Marciau igam-ogam melyn

  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Pan fyddwch y tu allan i ysgolion, mae'r marciau hyn yn nodi'r rhan o'r ffordd lle na ddylech stopio, ddim hyd yn oed i godi neu ollwng plant neu deithwyr eraill.
  • Os oes arwydd ar i fyny, bydd cyfyngiad hanfodol o ran stopio yn ystod yr amseroedd a nodir. ​
  • Darperir y marciau hyn y tu allan i ysgolion i sicrhau y gall plant weld a chael eu gweld yn glir wrth groesi'r ffordd.
  • Gellir gorfodi'r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai'n cael ei anfon drwy'r post yn lle hynny.​
  • Mae'n dal i fod yn berthnasol yn ystod gwyliau'r haf oni bai y nodir fel arall. 

99 - Wedi stopio ar groesfan i gerddwyr a/neu fan croesi a nodir gan linellau igam-ogam

Llinellau igam-ogam ar groesfan i gerddwyr

  • Does dim angen amser penodol er mwyn gorfodi ar y tramgwydd hwn.
  • Ni chewch barcio na stopio ar groesfan i gerddwyr neu yn yr ardal sydd â marciau igam-ogam. Gosodir y marciau hyn yn benodol i gynnal diogelwch cerddwyr. 
  • Gall yr heddlu gyflwyno dirwyon a dyfarnu pwyntiau cosb.​
  • Gellid gorfodi'r cyfyngiad hwn gyda chamera felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen a byddai'n cael ei anfon drwy'r post yn lle hynn.

73 - Wedi parcio heb dalu'r costau parcio

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno is yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio heb dalu'r hyn sydd angen ei dalu i barcio drwy brynu tocyn neu dalu ar MiPermit.
  • Rhaid arddangos tocynnau Talu ac Arddangos yn glir ar y panel deialau.
  • Rhaid i docynnau fod wedi'u gosod y ffordd gywir yn dangos manylion cofrestru cywir y cerbyd. ​
  • Rhaid i daliadau a wneir ar MiPermit gynnwys manylion cywir y cerbyd a'r lleoliad parcio er mwyn cael eu hystyried yn ddilys.​

81 - Wedi parcio mewn ardal gyfyngedig mewn maes parcio 

  • Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd wedi parcio mewn ardal gyfyngedig o faes parcio, er enghraifft mewn ardal wedi'i marcio. 

82 - Wedi parcio ar ôl i'r amser y talwyd amdano ddod i ben

  • Bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei gyflwyno os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio'n hirach na'r amser a nodir ar y tocyn, neu'n hirach na'r amser y talwyd amdano ar MiPermit.​

83 - Wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys neu daleb neu gloc parcio.

  • Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd wedi parcio mewn man parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos dilys. Rhaid i'r tocyn gael ei arddangos ar y panel gyda'r ochr gywir wedi'i arddangos a rhif cofrestru'r cerbyd yn llawn.

85 - Wedi parcio mewn man trwydded heb arddangos trwydded ddilys

  • Ni chewch barcio mewn man parcio trwydded heb drwydded ar gyfer y lle hwnnw. (h.y. Trwyddedau Busnes) 

86 - Wedi parcio y tu hwnt i farciau'r man parcio

  • Wrth barcio mewn man, lle neu faes parcio rhaid i chi sicrhau bod eich cerbyd yn gwbl o fewn y man parcio wedi'i farcio neu leoedd parcio dilys

87 - Parcio mewn man parcio dynodedig i berson anabl heb ddangos yn glir bathodyn person anably dilys

  • Does dim angen amser goruchwylio ar swyddogion gorfodaeth barcio ar gyfer y tramgwydd hwn. 
  • Ni chewch barcio mewn mannau parcio ar gyfer defnyddwyr penodol megis deiliaid bathodynnau glas, oni bai bod gennych hawl i wneud hynny.​
  • Pan fyddwch yn parcio mewn man parcio i ddeiliaid bathodynnau glas yn unig, rhaid arddangos bathodyn glas yn gywir ac yn glir bob amser.

 

Dirwy Traffig sy'n Symud

31 - Mynd i mewn a stopio mewn cyffordd blwch heb ganiatâd 

  • Ni ddylech fynd i mewn i flwch melyn oni bai bod eich allanfa'n glir.
  • Cewch fynd i mewn i'r bocs ac aros pan fyddwch eisiau troi i'r dde, ond does dim modd i chi wneud hynny oherwydd traffig yn dod y ffordd arall, neu gan gerbydau eraill sydd hefyd eisiau troi i'r dde.
  • Mae cyffyrdd sgwâr ffordd gylchol wedi'u marcio ar y lôn gerbydau gyda llinellau croes melyn ac mewn cylchfannau â signalau, ni ddylech fynd i mewn i'r bocs oni bai y gallwch ei groesi'n llwyr heb stopio.​
  • Gorfodir blychau melyn â chamera a byddech yn derbyn yr hysbysiad tâl cosb drwy'r post.

34 - Gyrru mewn lôn fysus

  • Ni chewch yrru na stopio mewn lôn fysus pan fydd ar waith. Nid yw'n berthnasol i rai cerbydau, megis beics a thacsis. Nodir y rhain ar yr arwyddion. 
  • Gallwch stopio i adael teithwyr fynd i mewn neu allan o'ch cerbyd.
  • Caniateir i chi groesi lôn fysus i fynd i mewn i ffordd ymyl ond nid teithio ar hyd y lôn fysus i wneud hynny. 
  • Gorfodir hyn â chamera a byddech yn derbyn yr hysbysiad tâl cosb drwy'r post.
  • Mae'n rhaid i gerbydau fod ag o leiaf 9 o seddi teithwyr i fod yn fws. 

50 (D Ch neu P) - Cyflawni troad a waherddir

Dim tro pedol, dim troi i'r chwith, dim troi i'r dde.

  • Ni chewch berfformio'r symudiad a ddangosir ar yr arwydd.
  • Gorfodir hyn â chamera a byddech yn derbyn yr hysbysiad tâl cosb drwy'r post.​
  • Gall cerbyd ag awdurdod gyflawni troad anghyfreithlon os yw yn y dosbarth sydd â chaniatâd i wneud hynny. Bydd y mathau o gerbydau gaiff gyflawni troad sydd fel arall yn anghyfreithlon wastad wedi'u nodi ar arwyddion ychwanegol (h.y. Heblaw am Fysus).

51 - Methu â chydymffurfio ag arwydd dim mynediad

  • Ni chewch basio'r arwyddion hyn.  ​
  • Gall cerbydau ag awdurdod basio'r arwyddion hyn os ydynt mewn dosbarth â chaniatâd i wneud hynny, bydd mathau'r cerbydau sydd â chaniatâd i fynd i mewn wedi'u dangos ar arwyddion ychwanegol (h.y. Heblaw am Fysus).