Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut i apelio hysbysiad i berchennog

Gelwir apêl ar y cam hwn yn her anffurfiol hefyd. Byddwn yn ystyried unrhyw her anffurfiol yn erbyn dirwy barcio o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y tramgwydd. Os bydd her anffurfiol yn dod i law ar ôl 28 diwrnod, efallai na chaiff ei hystyried.

Peidiwch â thalu os ydych eisiau herio'r HTC. Rydym yn ystyried taliad yn gydnabyddiaeth o atebolrwydd ac os byddwch yn talu, efallai na fyddwn yn ystyried eich llythyr herio. Ni fydd y ddirwy yn cynyddu tra'n bod ni'n ystyried eich llythyr herio.

Ar ôl i ni dderbyn eich her, byddwn yn atal yr achos dros dro tra bod swyddog achos yn ei hystyried. Byddwn yn anfon penderfyniad atoch yn dilyn hyn.

Gallwch herio HTC ar-lein.

Ni allwn ddatrys problemau dros y ffôn neu'n wyneb yn wyneb.

Caiff unrhyw wybodaeth a roddir ei phrosesu yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gall yr awdurdod neu gyrff perthnasol eraill ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion gorfodi, canfod twyll neu at unrhyw ddibenion cysylltiedig eraill fel y caniateir gan y gyfraith.

Os gwrthodwn eich her anffurfiol a'ch bod am apelio yn ffurfiol o hyd

Y cam nesaf yw aros am Hysbysiad i Berchennog. Fel perchennog cofrestredig neu huriwr y cerbyd, bydd y ddogfen gyfreithiol hon yn eich galluogi i wneud apêl ffurfiol (sylwadau).

Os byddwch yn dewis aros am Hysbysiad i Berchennog, ni fyddwch yn gallu talu'r ddirwy ar y gyfradd ostyngedig sy'n cael ei chynnig i chi am 14 diwrnod mwyach.