Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.
Mae ein Hadroddiad Parcio Blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.
Rydyn ni'n gweithio ar adroddiad llawn 2023 i 2024 a bydd hwn ar gael cyn gynted â phosibl.
Defynyddio incwm
Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:
- prosiectau priffyrdd a ffyrdd
- gwella'r amgylchedd, a
- gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rhwng 2023 a 2024, ein hincwm parcio oedd:
| Sut y cynhyrchwyd yr incwm | Swm |
|---|---|
| Parcio ar y stryd | £4,486,000 |
| Meysydd parcio | £1,308,000 |
| Trwyddedau | £590,000 |
| HTCau Parcio | £2,480,000 |
| HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud | £5,041,000 |
| Arall* | £117,000 |
| Cyfanswm incwm | £14,022,000 |
*er enghraifft:
- ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
- ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
- gwasanaethau parcio eraill.
Rhwng 2023 a 2024, ein gwariant oedd:
| Ein gwariant | Swm |
|---|---|
| Costau gweithredu | £747,000 |
| Gwasanaethau Gorfodi | £6,428,000 |
| Cyfanswm gwariant | £7,175,000 |
Rhwng 2023 a 2024, gwarged ein hincwm parcio oedd:
| Gwarged | Swm |
|---|---|
| Cyfanswm gwarged | £6,847,000 |
| Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd | £6,905,000 |
| Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn | -£58,000 |
