Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.
Mae ein hadroddiad parcio blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.
Gorfodaeth parcio
Mae gorfodi cyfyngiadau parcio yn ein helpu i fynd i'r afael ag unrhyw barcio anghyfreithlon ac anystyriol yn y ddinas.
Yn dibynnu ar y math o dramgwydd, mae gwahanol ddirwyon parcio ar waith:
- £70 am dramgwyddau lefel uwch, neu,
- £50 ar gyfer tramgwyddau lefel is.
Os byddwch yn talu Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brydlon, bydd y tâl yn gostwng gan 50%. Os byddwch yn anwybyddu HTC, bydd y tâl yn cynyddu.
Rhwng 2020 a 2021 fe wnaethom gyhoeddi 28,876 o HTCau parcio
Rhwng 2020 a 2021, y pum tramgwydd parcio mwyaf cyffredin oedd:
| Cod | Tramgwydd | HTCau a gyflwynwyd | Lefel Cosb |
|---|---|---|---|
| 12 | Parcio mewn mannau parcio i breswylwyr heb drwydded, neu heb arddangos trwydded yn glir. | 6,790 | Uwch - £70 |
| 01 | Parcio ar linellau melyn a strydoedd cyfyngedig. | 5,384 | Uwch - £70 |
| 40 | Wedi parcio mewn man anabl heb arddangos Bathodyn Glas dilys yn gywir. | 2,295 | Uwch - £70 |
| 27 | Parcio wrth ymyl cwrbyn cyrbau isel. | 2,179 | Uwch - £70 |
| 06 | Parcio mewn man talu ac aros heb docyn, neu'r tocyn heb ei arddangos yn glir. | 2,131 | Uwch - £70 |
Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.
Gorfodi lonydd bysus a thraffig yn symud
Rydym yn gorfodi cyfyngiadau mewn lonydd bysus i leihau oedi a gwneud teithio ar fysiau yn fwy effeithlon. Mae hyn yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu traffig i lifo'n haws o amgylch y ddinas.
Rydym yn cyhoeddi HTCau i yrwyr sy'n mynd yn groes i rai cyfyngiadau traffig symudol, fel:
- troadau gwaharddedig
- mynediad cyfyngedig, a
- chyffyrdd sgwâr.
Dim ond drwy CCTV y gellir gorfodi tramgwyddau lonydd bysus a thraffig symudol.
Y gosb am bob tramgwydd lôn fysus a thraffig sy'n symud yw £70. Bydd hyn yn gostwng i £35 os ydych yn talu'r gosb o fewn 21 diwrnod.
Rhwng 2020 a 2021 cyhoeddwyd y canlynol:
- 21,259 HTC lonydd bysus, a
- 45,086 HTC traffig symudol.
Rhwng 2020 a 2021, y pum tramgwydd lonydd bysus a thraffig symudol oedd:
| Cod | Tramgwydd | HTCau a gyflwynwyd |
|---|---|---|
| 34 | Bod mewn lôn fysus. | 21,259 |
| 50R | Troi i'r dde lle na chaniateir troi i'r dde. | 13,379 |
| 50L | Troi i'r chwith lle na chaniateir troi i'r chwith. | 11,263 |
| 51 | Methu â chydymffurfio â chyfyngiad dim mynediad. | 7,816 |
| 31 | Bod mewn cyffordd sgwâr. | 4463 |
Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.
Heriau, sylwadau ac apeliadau
Os yw gyrwyr yn derbyn HTC ond nad ydynt yn credu y dylent dalu'r ddirwy, dylent ysgrifennu atom i esbonio pam. Byddwn yn ystyried y rhesymau y maent wedi'u rhoi ac yn penderfynu a ddylem ganslo'r HTC.
Heriau anffurfiol
Gallwch wneud her anffurfiol i'n penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r HTC gael ei roi i chi.
Sylwadau ffurfiol
Gallwch wneud sylwadau'n ffurfiol os cyflwynwyd Hysbysiad i Berchennog i chi, neu os ydych wedi derbyn HTC drwy'r post.
Rhwng 2020 a 2021, nifer yr heriau anffurfiol a ffurfiol a gawsom oedd:
| Math | Wedi dod i law | Canran y HTCau a gafodd eu canslo* | Canran y HTCau a orfodwyd |
|---|---|---|---|
| Anffurfiol | 4815 | 44% | 56% |
| Ffurfiol | 12,609 | 65% | 35% |
*nid yw hyn bob amser yn golygu bod gorfodi wedi cael ei atal, gan y gallai HTC newydd fod wedi'i gyfeirio at rywun arall. Er enghraifft, os cafodd y cerbyd ei logi gan rywun arall.
Os gwrthodwn eich sylwadau ffurfiol, mae gennych hawl i apelio i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.
Rhwng 2020 a 2021 nifer yr achosion a aeth at y dyfarnwr oedd:
| Tramgwydd parcio | Tramgwydd lonydd bysus | Tramgwydd traffig sy'n symud | |
|---|---|---|---|
| Cyfanswm Apeliadau | 62 | 44 | 146 |
| Enillwyd gan y Cyngor | 44 | 25 | 110 |
| Collwyd gan y Cyngor | 18 | 19 | 36 |
Gallwch ddarllen mwy am heriau anffurfiol a sylwadau ffurfiol yma.
Bathodynnau glas
Mae bathodynnau glas yn rhoi manteision parcio i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae nifer o fannau parcio bathodyn glas pwrpasol yn y ddinas. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan yrwyr anabl am fan bathodyn glas y tu allan i'w cartref.
Rhwng 2020 a 2021, fe wnaethom gyflwyno 46 o fannau anabl newydd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun bathodyn glas yma.
Gorfodi bathodynnau glas
Mae camddefnyddio bathodyn glas yn drosedd. Rydym yn gorfodi camddefnydd bathodynnau glas i sicrhau nad yw gyrwyr sy'n cam-drin y cynllun yn amharu ar bobl anabl.
Nid oedd unrhyw orfodi yn ystod y rhan fwyaf o 2020 oherwydd y pandemig COVID-19. Ailddechreuodd Ymchwilwyr Twyll Bathodyn Glas eu patrolau ym mis Tachwedd 2020.
Rhwng 2020 a 2021 nifer y bathodynnau glas a wiriwyd gan arolygwyr oedd:
| Gorfodi | Swm |
|---|---|
| Gwirio bathodynnau glas | 389 |
| Nifer y bathodynnau glas a atafaelwyd | 27 |
| Achosion a aeth i'r llys | 21 |
| Rhybudd i droseddwyr | 2 |
| Dirwy i droseddwyr | 2 |
| Dirwy ar gyfartaledd | £428.40 |
Y lleoliadau lle roedd y lefelau uchaf o gamddefnyddio bathodynnau glas oedd:
- Ffordd Churchill,
- Lôn Windsor, a
- Plas Windsor.
Y tri phrif fath o gamddefnyddio bathodynnau oedd:
- Defnyddio bathodyn glas pan nad oedd deiliad y bathodyn yn bresennol.
- Bathodynnau wedi dod i ben.
- Bathodynnau'n cael eu defnyddio ar ôl i ddeiliad y bathodyn farw.
Trwyddedau
Rydym yn defnyddio cynlluniau parcio trwyddedau mewn ardaloedd lle mae galw mawr am barcio. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod digon o lefydd parcio i breswylwyr.
Rydym hefyd yn cyhoeddi trwyddedau mynediad ar gyfer rhai cyfyngiadau traffig sy'n symud, fel Strydoedd Ysgol. Gallwch ddarllen mwy am ein Cynllun Strydoedd Ysgol yma.
Rhwng 2020 a 2021 y nifer a'r mathau o drwyddedau a gyhoeddwyd gennym oedd:
| Math o drwydded | Trwyddedau a gyflwynwyd |
|---|---|
| Preswylydd | 25,100 |
| Ymwelydd | 9,705 |
| Stryd Ysgol | 280 |
| Busnes | Dd/B |
| Meddyg | 44 |
| Gofalwr | 6 |
| Contractwr | Dd/B |
Talu ac aros
Rydym yn gweithredu parcio talu ac aros mewn meysydd parcio ac ar strydoedd ar hyd a lled y ddinas.
Rhwng 2020 a 2021, nifer y tocynnau a werthwyd a'r incwm a gynhyrchwyd ganddynt oedd:
| Lleoliad | Tocynnau a werthwyd | Incwm |
|---|---|---|
| Ar y stryd | 421,301 | £1,343,053 |
| Meysydd parcio | 554,780 | £269,997 |
| Cyfanswm | 976,081 | £1,613,050 |
Mae ein peiriannau talu yn derbyn cardiau ac arian parod. Gallwch hefyd dalu am barcio drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth MiPermit .
Rhwng 2020 a 2021, y dulliau talu oedd:
| Dull Talu | Canran y taliadau a gymerwyd |
|---|---|
| Cerdyn | 28% |
| Arian parod | 12% |
| MiPermit | 9% |
| Arosiadau am ddim | 51% |
Clampio a symud
Rhaid i bob cerbyd a gofrestrir yn y DU gael ei drethu'n gywir os yw'n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Byddwn yn clampio ac yn symud cerbydau nad ydynt wedi eu trethu'n gywir.
Rhwng 2020 a 2021 nifer y cerbydau a gafodd eu clampio neu eu hatafaelu oedd:
| Camau gweithredu | Nifer y cerbydau |
|---|---|
| Clampio | 262 |
| Atafaelu | 93 |
O'r 262 o gerbydau a gafodd eu clampio:
- Cafodd 59% eu rhyddhau,
- Cafodd 35% eu hatafael, a
- Cafodd clampiau 5% o gerbydau eu dwyn.
O'r 93 o gerbydau a gafodd eu hatafael:
- Cafwyd gwared â 76, a
- Cafodd 17 eu rhyddhau.
Cafwyd hyd i'r nifer uchaf o gerbydau heb eu trethu yn:
- Glan-yr-Afon,
- Treganna, a'r
- Grangetown.
Defynyddio incwm
Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:
- prosiectau priffyrdd a ffyrdd
- gwella'r amgylchedd, a
- gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rhwng 2020 a 2021, ein hincwm parcio oedd:
| Sut y cynhyrchwyd yr incwm | Swm |
|---|---|
| Parcio ar y stryd | £1,364,000 |
| Meysydd parcio | £272,000 |
| Trwyddedau | £366,000 |
| HTCau Parcio | £1,003,000 |
| HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud | £2,554,000 |
| Arall* | £23,000 |
| Cyfanswm incwm | £5,582,000 |
*er enghraifft:
- ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
- ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
- gwasanaethau parcio eraill.
- Rhwng 2020 a 2021, ein gwariant oedd:
Rhwng 2020 a 2021, gwarged ein hincwm parcio oedd:
| Ein gwariant | Swm |
|---|---|
| Costau gweithredu | £599,000 |
| Gwasanaethau Gorfodi | £5,481,000 |
| Cyfanswm gwariant | £6,080,000 |
| Gwarged | Swm |
|---|---|
| Gwarged gweithredol | -£498,000 |
| Cronfa Galedi Llywodraeth Leol | £8,920,000 |
| Cynllun cadw swyddi | £147,000 |
| Cyfanswm gwarged | £8,569,000 |
| Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd | £6,147,000 |
| Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn | £2,422,000 |
