Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymgynghoriad ar drefniadau derbyn i ysgolion

Mae'n rhaid i ni adolygu ein trefniadau derbyn i ysgolion bob blwyddyn.

Rydym yn cynnig newidiadau i'r adrannau canlynol o'r Polisi Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2027 i 2028:

  • 1.5 Plant ag ADY sydd â CDU (Cynllun Datblygu Unigol
    Mae peth o'r testun wedi'i ddiwygio er eglurder
  • 1.8 Protocol Mynediad Teg
    Mae peth o'r testun wedi'i ddiwygio er eglurder
  • 1.9 Trefniadau Derbyn i Ysgolion Cydlynol
    Mae'r testun wedi'i ddiwygio mewn perthynas â rheoliadau Llywodraeth Cymru 2024 sy'n gofyn am Gynllun Derbyniadau Cydlynol. Mae'r rhestr o ysgolion sy'n cymryd rhan wedi'i diwygio
  • 2.1 Sut I Wneud Cais
    Mae paragraff wedi'i ychwanegu mewn perthynas â'r gofyniad am gynnig ffurfiol o le ysgol i'w wneud cyn y gall plentyn fynychu ysgol
  • 2.4 Ceisiadau Ar Amser (a ystyrir yn ystod y 'cylch derbyn arferol')
    Dyddiadau wedi'u diweddaru ar gyfer 2027 i 2028
  • 2.5 Ceisiadau Hwyr (a ystyrir y tu allan i'r 'cylch derbyn arferol')
    Dyddiadau wedi'u diweddaru ar gyfer 2027 i 2028
  • 3.1 Meini prawf gordanysgrifio
    Dyddiadau wedi'u diweddaru ar gyfer 2027 i 2028
  • 4.5 Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg
    Mae paragraff wedi'i ychwanegu sy'n egluro dalgylch yr ysgol
  • 4.6 Ysgol Gynradd Groes-wen
    Mae gwybodaeth am Ysgol Gynradd Groes-wen wedi ei diweddaru ar gyfer 2027 i 2028

Cytunodd y Cabinet ar drefniadau Derbyn i Ysgolion 2027 i 2028 ar 19 Mawrth 2026.

Gallwch weld y:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion:

E-bost: [email protected]

Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion
Ystafell 463, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Ymgynghoriad cynllun derbyniadau cydlynol

Ar 28 Mehefin 2024 cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn i Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.

Yn unol â'r rheoliadau hyn, mae'n rhaid i Gyngor Caerdydd gael cynllun derbyniadau cydlynol ar waith ar gyfer blwyddyn academaidd 2027 i 2028. Bydd y cynllun yn nodi'r prosesau derbyniadau cydlynol ar gyfer pob ysgol gynradd ac uwchradd prif ffrwd a gynhelir yng Nghaerdydd.

Fe wnaethom ymgynghori ar y cynllun drafft rhwng 8 Hydref a 4 Tachwedd 2024.

Gallwch weld cynllun derbyniadau cydlynol 2027 i 2028 (PDF, 211 KB).

Amrywio Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2026 i 2027 Wedi'u Pennu

Yn dilyn ymgynghoriad rhwng 3 Rhagfyr 2024 a 17 Ionawr 2025, cafodd Trefniadau Derbyn i Ysgolion Caerdydd 2026 i 2027 eu pennu ar 20 Mawrth 2025. Yn ddiweddarach, cafodd y Cyngor wybod am gamgymeriad yn ei drefniadau yn ymwneud ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg.

Rhoddodd y trefniadau blaenorol a bennwyd gan Gorff Llywodraethu'r ysgol flaenoriaeth i ddysgwyr sy'n byw yng nghymuned Pentref Llaneirwg. Roedd ffiniau'r ardal hon yn wahanol i'r dalgylch a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd.

Cafodd yr ardal a bennwyd gan y Corff Llywodraethu ei chynnwys yn ei drefniadau derbyn am nifer o flynyddoedd ac roedd ffin yr ardal hon yn wahanol i'r ffin a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.

Cyfeiriodd y Cyngor amrywiad i'r trefniadau derbyn at Weinidogion Cymru i'w benderfynu. Daeth Gweinidogion Cymru i'r casgliad y gallai Cyngor Caerdydd wneud yr amrywiad heb eu mewnbwn.

Cytunodd y Cabinet ar yr amrywiad i drefniadau 2026 i 227 ar 19 Mawrth 2026. Mae'r trefniadau'n cynnwys dalgylch ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, sef Cymuned Pentref Llaneirwg.