Mae gan blant hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Byddant yn aros yn yr ysgol feithrin tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed pan fyddant yn dechrau'r dosbarth derbyn yn yr ysgol.
Mewngofnodwch i'r system derbyn i ysgolion
Gallwch weld dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch:
Os ydych chi wedi methu dyddiad y cais
Os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau i wneud cais am le i ddechrau ym mis Medi 2026, cwblhewch gais hwyr.
Cwblhewch y ffurflen gais hwyr
Addysg Gymraeg
Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref.
Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi, teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol, teuluoedd o Gymru a'r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.
Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.
Gwelwch ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg.
Y Broses ymgeisio
Plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 (i ddechrau yn nhymor yr Hydref 2026)
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 26 Ionawr 2026 | Mae'r broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ym mis Medi 2026 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor. |
| 23 Chwefror 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
| Chwefror, Mawrth ac Ebrill 2026 | Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 6 Mai 2026 | Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig. |
| 20 Mai 2026 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| O 21 Mai 2026 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Mehefin 2026 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Medi 2026 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. |
Plant a anwyd rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023 (i ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2027)
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 1 Mehefin 2026 | Proses gwneud cais am leoedd meithrin yn ystod Gwanwyn a Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor. |
| 29 Mehefin 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
| Gorffennaf i Medi 2026 | Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 5 Hydref 2026 | Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig. |
| Hydref 2026 | Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu. |
| 19 Hydref 2026 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| Hydref 2026 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Tachwedd 2026 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Tymor y gwanwyn 2027 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. |
Plant a anwyd rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024 (i ddechrau yn nhymor yr Haf 2027)
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 1 Mehefin 2026 | Proses gwneud cais am leoedd meithrin yn ystod Gwanwyn a Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor. |
| 29 Mehefin 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
| Gorffennaf i Medi 2026 | Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 8 Ionawr 2027 | Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig. |
| Ionawr 2027 | Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu. |
| 22 Ionawr 2027 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| Ionawr 2027 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Chwefror 2027 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Tymor yr haf 2027 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. |
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.
