Mae gan rieni a gofalwyr yr hawl gyfreithiol i apelio yn erbyn ein penderfyniad i wrthod lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis. Mae'r apeliadau hyn yn cael eu clywed gan banel annibynnol o 3 unigolyn.
Mae pob ysgol gymunedol yng Nghaerdydd yn cael eu gwasanaethu gan y Panel Apeliadau Ysgolion Annibynnol.
Rydym yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â'r panel ar hyn o bryd.
Beth mae'r paneli apeliadau yn ei wneud?
Mae paneli apeliadau derbyniadau addysg yn clywed tystiolaeth a gwneud penderfyniadau am apeliadau gan rieni neu warcheidwaid sy'n dymuno herio penderfyniad i beidio â derbyn plentyn i'r ysgol o'u dewis. Bydd y panel yn ystyried:
- y polisïau derbyn i ysgolion perthnasol ac a ydynt wedi'u cymhwyso'n gyfreithlon, ac
- achos y rhieni dros dderbyn eu plentyn i ysgol a ffefrir.
Mae paneli adolygiadau annibynnol gwaharddiadau yn ystyried apeliadau gan rieni neu ofalwyr y mae eu plant wedi cael eu gwahardd yn barhaol o ysgol. Bydd y panel yn:
- ystyried penderfyniad corff llywodraethu i gefnogi gwaharddiad parhaol, a
- phenderfynu a ddylid cytuno ar eu penderfyniad ai peidio.
Aelodau'r Panel
Mae'r paneli'n cynnwys arbenigwyr addysg ac aelodau anarbenigol. Mae angen 3 aelod panel ar gyfer pob gwrandawiad apêl.
Ar gyfer apeliadau derbyniadau addysg, mae'r panel yn cynnwys:
- 1 aelod o staff, a
- 2 aelod anarbenigol.
Ar gyfer apeliadau gwaharddiadau parhaol mae'r panel yn cynnwys:
- 1 ymarferydd addysg, ac
- 1 llywodraethwr ysgol ac
- 1 aelod anarbenigol.
Bydd gan bob panel glerc cyfreithiol i gynghori ar bob mater cyfreithiol a bydd rhywun yn cymryd nodiadau i gofnodi'r trafodion.
Y rôl a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch
Fel aelod o'r panel, byddwch yn:
- Darllen gwaith papur a sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir ar gyfer pob apêl.
- Deall polisïau a deddfwriaeth berthnasol (rhoddir hyfforddiant).
- Meddu ar sgiliau gwrando a chyfathrebu da.
- Gweithio gyda gonestrwydd a thegwch.
- Gallu ymarfer barn gadarn a gwneud penderfyniad rhesymegol da.
- Ymwybodol o faterion cydraddoldeb.
- Dibynadwy ar ddiwrnodau gwrandawiad apêl.
- Gallu gweithio gydag aelodau eraill o'r panel apeliadau.
Byddwch yn cael hyfforddiant llawn.
Mae aelodau'r panel yn darparu gwasanaeth gwirfoddol pwysig. Gallant hawlio treuliau, fel teithio, wrth fynychu apeliadau a hyfforddiant.
Fel arfer, cynhelir apeliadau wyneb-yn-wyneb yng nghanol Caerdydd. Bydd lluniaeth ar gael. Mae rhai apeliadau'n cael eu clywed o bell.
Mae apeliadau'n cael eu clywed drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o apeliadau'n cael eu clywed rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf. Maent yn digwydd yn ystod y dydd, fel arfer rhwng 10am a 4pm.
Os hoffech ddysgu mwy am ddod yn aelod panel, e-bostiwch ni. Byddwn yn anfon ffurflen gais atoch.
E-bost: [email protected]
