Gwiriwch y terfynau amser derbyn i ysgolion diweddaraf, a dewch o hyd i'r holl ddyddiadau sydd eu hangen arnoch fel nad ydych yn methu unrhyw ddyddiadau cau ar gyfer lleoedd ysgol eleni.
Dyddiadau derbyniadau ysgol feithrin
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 26 Ionawr 2026 | Mae'r broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ymmis Medi 2026 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor. |
| 26 Chwefror 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
| Chwefror, Mawrth ac Ebrill 2026 | Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 6 Mai 2026 | Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig. |
| 20 Mai 2026 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| O 21 Mai 2026 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Mehefin 2026 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Medi 2026 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. |
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 1 Mehefin 2026 | Proses gwneud cais am leoedd meithrin yn ystod Gwanwyn a Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor. |
| 29 Mehefin 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
| Gorffennaf i Medi 2026 | Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 5 Hydref 20256 | Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig. |
| Hydref 2026 | Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu. |
| 19 Hydref 2026 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| Hydref 2026 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Tachwedd 2026 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Tymor y gwanwyn 2027 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. |
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 1 Mehefin 2026 | Mae'r broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ymGwanwyn i Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor. |
| 29 Mehefin 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
| Gorffennaf i Medi 2026 | Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 8 Ionawr 2027 | Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig. |
| Ionawr 2027 | Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu. |
| 22 Ionawr 2027 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| Ionawr 2027 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Chwefror 2027 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Tymor yr haf 2027 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. |
Dyddiadau derbyn i ysgol gynradd
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 10 Tachwedd 2025 | Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2026 yn cychwyn. |
| 12 Ionawr 2026 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hwyr. |
| Chwefror i Ebrill 2026 | Caiff ffurflenni eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 16 Ebrill 2026 | Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch, neu os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post. Nodwch mai dim ond ar ôl 10am ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
| 30 Ebrill 2026 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| O 1 Mai 2026 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Mehefin 2026 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. |
| Medi 2026 | Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser. |
Dyddiadau derbyn i ysgolion uwchradd
| Dyddiad | Cam yn y broses ymgeisio |
|---|---|
| 22 Medi 2025 | Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2026 yn cychwyn. |
| 17 Tachwedd 2025 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hwyr. |
| Rhagfyr 2025 i Chwefror 2026 | Caiff ffurflenni eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni. |
| 2 Mawrth 2026 | Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch, neu os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post. Nodwch mai dim ond ar ôl 10am ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
| 16 Mawrth 2026 | Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
| O 16 Mawrth 2026 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu. |
| Mai 2026 | Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. Safleoedd Rhestr Aros ar gael. |
| Medi 2026 | Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd. |
Ceisiadau hwyr
Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno'ch cais ar amser i wella eich siawns o gael lle yn yr ysgol o'ch dewis.
Os ydych wedi methu'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol, cwblhewch gais hwyr. Darganfod mwy am geisiadau hwyr.
