Toggle menu

Uwchraddio'r wefan

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hysbysiad preifatrwydd oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth

Rhannu Data Personol gan Gyngor Caerdydd, o ran Oedolion sy'n derbyn Cymorth a Gofal

Pam rydyn ni'n darparu'r hysbysiad hwn ar eich cyfer

Mae angen i Gyngor Caerdydd gael eich data personol er mwyn gallu cyflawni rhai tasgau penodol yn ymwneud ag Oedolion sy'n derbyn Gofal a Chymorth, yn unol â'r hyn sydd er budd i'r cyhoedd.

Nod yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data amdanoch sydd gennym, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau chi o ran eich data a'r camau sydd ar waith i'w ddiogelu.

Pa ddata personol sydd gennym a sut rydyn ni'n ei gael

Yn ystod ein hymwneud â chi, rydym yn casglu amrywiol ddarnau o wybodaeth amdanoch;

  • enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • eich anghenion a'ch amgylchiadau
  • barn gweithwyr proffesiynol
  • staff sy'n rhoi cymorth i chi
  • pryd a ble cyfarfu'r staff â chi
  • am beth yr oedd y cyfarfodydd a'r hyn ddigwyddodd ynddyn nhw
  • gwybodaeth y mae eich gofalwr/pobl eraill sy'n eich adnabod wedi ei rhoi i ni
  • gwybodaeth wedi ei rhoi gan wasanaethau eraill fu'n gweithio gyda chi, e.e. Gweithwyr iechyd a gofal ac asiantaethau gwirfoddol

Sut byddwn yn defnyddio'ch data personol

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau:

  • bod gan y staff sy'n rhoi cymorth i chi wybodaeth gywir, gyfredol er mwyn eu helpu i benderfynu ar y cymorth gorau ar eich cyfer chi
  • bod cofnodion cywir ar gael pan fyddwn yn adolygu'r gofal a'r cymorth a dderbyniwch
  • bod unrhyw bryderon yn cael eu hystyried yn briodol os bydd gennych gŵyn
  • mai dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi roi'ch gwybodaeth i ni

Am ba hyd yr ydyn ni'n cadw'ch data personol

Dan ddeddfau diogelu data, dim ond am y cyfnod y bydd ei angen i gwblhau'r dibenion y casglwyd ef yn y lle cyntaf y byddwn yn cadw'ch data personol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gofrestr gadw'r Cyngor.

Rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau

Weithiau, mae'n rhaid i ni rannu gwybodaeth bersonol heb ofyn i'r unigolyn. Gall hyn ddigwydd;

  • ar gyfer gweithdrefnau cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys
  • os oes risg niwed neu gamdriniaeth i chi neu bobl eraill
  • pan na fyddwch, o bosibl, yn gallu cydsynio, oherwydd cyflwr iechyd meddwl neu gorfforol er enghraifft
  • i gynorthwyo'r awdurdodau i atal/datrys troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu treth

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i gadw'r wybodaeth amdanoch yn gyfrinachol ac yn ddiogel. Os bydd angen i ni rannu gwybodaeth amdanoch, byddwn

  • yn dweud wrthych pam bod ei hangen arnom
  • yn gofyn dim ond am yr hyn sydd ei angen arnom, heb gasglu gormod o wybodaeth na gwybodaeth amherthnasol
  • yn ei diogelu ac yn sicrhau na fydd unrhyw un heb hawl i wneud hynny yn cael mynediad iddi
  • yn eich hysbysu os byddwn yn ei rhannu gyda sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwell gwasanaethau i chi, ac a oes gennych hawl gwrthod
  • yn sicrhau na fyddwn yn ei chadw'n hirach nag sydd rhaid

Eich Hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych lawer o hawliau o ran eich data personol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Hawl i gludo data
  • Hawl mynediad
  • Hawl i gywiro
  • Hawl i dileu
  • Hawl i dynnu cydsyniad yn ei ôl
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Hawl i wrthwynebu
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffiliau awtomataidd.

Tynnu Cydsyniad yn ei ôl

Os ydym yn dibynnu ar gydsyniad oddi wrthoch i brosesu'ch data, gallwch wneud cais i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu gyfyngu ar rai elfennau o'r gwaith prosesu neu wrthwynebu iddo gael ei brosesu. Nid yw'r cyngor yn dibynnu ar gydsyniad yn y rhan fwyaf o achosion am fod arno rwymedigaeth gyfreithiol i berfformio rhai tasgau penodol. Er enghraifft, mae prosesu ceisiadau cynllunio, casglu taliadau'r dreth gyngor a thasgau gwaith cymdeithasol wedi eu seilio ar anghenion cyfreithiol, nid ar gydsyniad.

Cysylltu â ni/ y Swyddog Diogelu Data

Mae croeso i chi gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data
Tîm Rheoli Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

[email protected]

Rhagor o wybodaeth I gael rhagor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor.