Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn defnyddio'r data personol rydyn ni'n ei gasglu gennych pan fyddwch chi'n ein ffonio neu'n ein he-bostio a phan fyddwch chi'n mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Mae'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolydd Data at ddibenion y data sy'n cael ei gasglu. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn casglu'r data canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad
- Cod Post
- Rhifau Ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Ieithoedd a siaredir
- Gwybodaeth am eich teulu, eich dibynyddion neu eich amgylchiadau personol
Mae hyn yn cael ei gasglu at ddibenion eich cynorthwyo gyda'ch cyngor lles a'ch ymholiad am galedi ariannol.
Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, fel aelodau'r teulu neu ddibynyddion, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.
Mae cyfraith Diogelu Data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Fel sy'n ofynnol gan:
Ddeddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol - Gofynion gwybodaeth a chyngor cyn contract CONC 8.3.7
Byddwn hefyd yn prosesu'r data Categori Arbennig canlynol:
- Data Iechyd Corfforol a Meddyliol
Caiff hyn ei gasglu at ddibenion gwirio eich cymhwysedd am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol ac i sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch ar gyfer eich apwyntiad.
Mae Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn prosesu categori arbennig dan Erthygl 9(2): (g) Rhesymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol) dan Atodlen 1 amod 6: Cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal.
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych chi'n rhoi'r rhan fwyaf o'r data rydym yn ei gasglu yn uniongyrchol i'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data yn yr achosion canlynol:
- Mynychu cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'n cynghorwyr
- Gwneud ymholiad dros y ffôn
- E-bostio eich ymholiad atom
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn casglu'ch data er mwyn:
- cysylltu â chi
- asesu cymhwysedd ar gyfer ein gwasanaethau gan gynnwys cyfrifo budd-daliadau a'u rhoi i chi.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Cyngor ar Bopeth trwy eu system Refernet. Rydym yn defnyddio'r system hon i'ch atgyfeirio.
Sut rydym yn storio eich data?
Mae'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn storio eich data yn ddiogel ar system Civica Contact Manager sy'n cael ei rheoli gan gyfrinair a dim ond y Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol sy'n cael mynediad i'r cofnodion hynny.
Bydd y Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol yn cadw cofnod o'ch atgyfeiriad hyd at 3 mis. Unwaith y bydd y cyfnod amser hwn wedi dod i ben, bydd eich data yn cael ei anonymeiddio ar system Civica Contact Manager.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i ofyn i'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol am gopïau o'ch data personol.
Yr hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn i'r Gwasanaethau Cynghori -Atgyfeirio Arbenigol gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i'r Gwasanaeth Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i'r Gwasanaeth Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Mae gennych hawl i ofyn i'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu
Mae gennych hawl i wrthwynebu i'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data
Mae gennych hawl i ofyn i'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: [email protected]
Neu ysgrifennwch atom:
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae'n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae'r Tîm Arian a Chynghori adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 20 Mai 2025.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd y Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol neu'r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost yn [email protected] neu drwy'r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gwyno neu os ydych yn teimlo nad yw'r Gwasanaethau Cynghori - Atgyfeirio Arbenigol wedi mynd i'r afael yn briodol â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio 0303 123 1113.
