Mae Gorfodi Parcio Sifil yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef Rheolydd y Data at ddibenion y data a gesglir. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaeth.
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ymdrin â phob agwedd ar brosesu:
- Hysbysiadau Tâl Cosb
- Trwyddedau (gan gynnwys parcio a mynediad at ffyrdd)
- Bathodynnau Glas i Bobl Anabl
- Rhoi Gwybod am Broblem Parcio
- Cerbydau Heb eu Trethu ac Wedi'u Gadael
Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
Mae Gorfodi Parcio Sifil yn casglu eich data fel y gallwn:
- Gyflawni'r broses gyfreithiol o gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb
- Rhoi Trwydded i chi er mwyn i chi gael mynediad at ardaloedd cyfyngedig neu barcio ynddynt
- Rhoi Bathodyn Glas i Bobl Anabl i chi
- Cyflawni gwaith gorfodi cerbydau sydd heb eu trethu neu sydd wedi'u gadael
- Ymchwilio i broblemau parcio y rhoddwyd gwybod amdanynt
Mae Gorfodi Parcio Sifil yn casglu'r data canlynol:
- Gwybodaeth adnabod bersonol (enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol)
- Gwybodaeth am Gerbydau (Rhifau Cofrestru Cerbydau)
- Tystiolaeth ffotograffig neu fideo o Rif Cofrestru'r Cerbyd a'r lleoliad y mae'r cerbyd wedi'i barcio neu'n teithio yn groes i gyfyngiadau traffig
- Tystiolaeth ddogfennol ategol gan gynnwys bathodyn glas neu wybodaeth trwydded
- Tystiolaeth ddogfennol yn dangos prawf preswylio
- Prawf dogfennol o fod mewn cyflogaeth neu dderbyn budd-daliadau penodol
- Prawf dogfennol bod y cerbyd yn gysylltiedig â deiliad y drwydded
- Prawf dogfennol bod deiliad y drwydded yn gysylltiedig â chyfeiriad y drwydded
- Prawf dogfennol o'r ffaith bod plentyn wedi'i dderbyn i ysgol er mwyn cael mynediad at ardaloedd mynediad/parcio cyfyngedig
- Prawf dogfennol o gytundeb i ymgymryd â gwaith adeiladu a/neu gynnal a chadw ar eiddo preswyl er mwyn cael mynediad at ardaloedd mynediad/parcio cyfyngedig
- Prawf dogfennol o Fathodyn Glas i Bobl Anabl er mwyn cael mynediad at ardaloedd mynediad/parcio cyfyngedig
- Tystiolaeth ddogfennol o brawf adnabod gan gynnwys ffotograffau
- Gwybodaeth Feddygol
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych yn rhoi'n uniongyrchol i Orfodi Parcio Sifil rywfaint o'r data rydym yn ei gasglu. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data yn yr achosion canlynol:
- Cofrestru apêl yn erbyn Hysbysiad Tâl Cosb
- Cysylltu â 'Cysylltu â Chaerdydd'
- Cyflwyno cais am Fathodyn Glas
- Cyflwyno cais am Drwydded
- Rhoi gwybod am gerbyd sydd wedi'i adael neu sydd heb ei drethu, neu broblem parcio
- Cael tocyn parcio talu ac arddangos neu gofrestru arhosiad parcio di-arian-parod
Efallai y bydd Gorfodi Parcio Sifil hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:
- DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau)
- AGPh (Adran Gwaith a Phensiynau)
- MiPermit - Darparwr trwyddedau digidol a pharcio di-arian-parod
- Cyfreithwyr sy'n gweithredu ar eich rhan
- Landlordiaid/Asiant Gosod Tai
- Gwerthiannau ceir preifat (perchnogion cerbydau blaenorol)
- Cwmnïau llogi cerbydau
- Tribiwnlys Cosbau Traffig
- Canolfan Gorfodi Traffig
- Rhwydwaith Atal Twyll Cenedlaethol
- Sefydliad Twyll Cenedlaethol
- Motability
- Systemau Teledu Cylch Cyfyng Siemens/SEA
- Metric - Darparwyr Systemau Talu ac Arddangos
- Celtic Recovery - Darparwr symud a storio cerbydau
- Adran Drafnidiaeth (AD)
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae Gorfodi Parcio Sifil yn casglu eich data fel y gallwn:
- Ymgymryd â'r broses gyfreithiol o gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb i chi, gan gynnwys y broses apelio ac adennill dirwyon sydd heb eu talu
- Rhoi Trwydded i chi er mwyn i chi gael mynediad at ardaloedd cyfyngedig neu barcio ynddynt, gan gynnwys gwirio cymhwysedd a chysylltu â chi os oes angen mwy o wybodaeth
- Rhoi Bathodyn Glas i Bobl Anabl i chi, gan gynnwys gwirio cymhwysedd a chysylltu â chi os oes angen mwy o wybodaeth
- Cyflawni gwaith gorfodi cerbydau sydd heb eu trethu neu sydd wedi'u gadael, gan gynnwys gwirio perchnogaeth cerbyd a chysylltu â chi ynghylch cerbyd sydd heb ei drethu neu sydd wedi'i adael
- Cyflawni gwaith gorfodi Bathodynnau Glas i Bobl Anabl, gan gynnwys gwirio dilysrwydd a pherchnogaeth bathodyn a chysylltu â chi ynghylch defnyddio eich Bathodyn Glas i Bobl Anabl
- Ymchwilio i faterion parcio problemus yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd, gan gynnwys blaenoriaethu patrolau i fynd i'r afael ag ardaloedd problemus
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
O bryd i'w gilydd, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallant ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn mewn perthynas â pharcio a gorfodi parcio sifil. Gallai'r rhain gynnwys:
Gwasanaethau Mewnol y Cyngor fel:
- Treth Gyngor - e.e. i gadarnhau preswylfa
- Tîm Adennill - e.e. i gasglu dirwyon sydd heb eu talu
- Gwasanaethau Oedolion - e.e. i wirio gwybodaeth symudedd
- Trwyddedu - e.e. i wirio gwybodaeth trwyddedu tacsi
- C2C - e.e. i allu ateb ymholiadau cwsmeriaid neu gymryd taliad
- Gwasanaethau eraill y Cyngor - i ddilysu gwybodaeth a darparu gwell gwasanaethau ar yr amod bod gennym sail a nodir yn y gyfraith.
Sefydliadau ac asiantaethau'r Llywodraeth fel:
- Chipside - darparwr meddalwedd gwasanaethau parcio, gan gynnwys MiPermit
- Metric - darparwr peiriannau talu ac arddangos, ar gyfer parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd
- SEA (Asesiadau a Pheirianneg Systemau) ac Yunex - cyflenwyr camerâu teledu cylch cyfyng ar gyfer gorfodi traffig sy'n symud a pharcio
- Aceni - darparwyr gwasanaeth post hybrid
- Adran Drafnidiaeth - Rheoli proses y DU cyfan ar gyfer Bathodynnau Glas i Bobl Anabl
- Valtech - Cyhoeddwyr wedi'u penodi gan y Llywodraeth ar gyfer Bathodynnau Glas i Bobl Anabl
- The Occupational Therapy Service (TOTS) - Gweithwyr proffesiynol wedi'u penodi gan y Llywodraeth i gynorthwyo gyda Cheisiadau am Fathodynnau Glas
- Celtic Recovery - Darparwr symud a storio cerbydau
- Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau eraill at ddibenion, gan gynnwys atal a chanfod troseddau, cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu pan fo hynny'n cael ei ganiatáu'n gyfreithiol. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys, efallai ymhlith eraill:
- Adrannau eraill Cyngor Caerdydd,
- Llysoedd a Thribiwnlysoedd,
- Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith, gan gynnwys yr Heddlu, yr Ombwdsmon ac awdurdodau rheoliadol.
Sut rydym yn storio eich data?
Mae data'n cael ei storio gan ddefnyddio gweinyddwyr diogel y Cyngor neu systemau TG yn y cwmwl.
Byddwn dim ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd angen er mwyn cyflawni'r dibenion y cafodd ei gasglu atynt ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hirach i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyflwyno copïau o'ch data personol.
Yr hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu prosesu
Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu
Mae gennych hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data
Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn: [email protected].
Neu ysgrifennwch atom:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Ein sail gyfreithlon
Mae Cyngor Caerdydd yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei waith fel rheolydd data.
Yn gyffredinol, ar un o'r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:
- Rydym yn prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus;
- Rydym yn prosesu eich data lle bo angen i ddiogelu ein buddiannau dilys fel Awdurdod Lleol
- Rydym yn prosesu eich data lle bo angen i gyflawni contract
- Rydym yn prosesu eich data personol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol i ymgymryd â gorfodi parcio sifil a rhoi bathodynnau glas i bobl anabl gyda chefnogaeth y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Rheoli Traffig 2004
- Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apeliadau) (Cymru) 2013.
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Mae tudalen we Gorfodi Parcio Sifil yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.
Wrth gofrestru am drwydded parcio neu docyn parcio rhithwir, caiff eich data ei brosesu trwy MiPermit, cwmni trydydd parti. Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithredu fel Prosesydd Data ar ein rhan ac y cedwir data dros dro ar eu gweinyddion.
Wrth gofrestru apêl am Hysbysiad Tâl Cosb, caiff eich data ei brosesu trwy Chipside, cwmni trydydd parti. Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithredu fel Prosesydd Data ar ein rhan ac y cedwir data dros dro ar eu gweinyddion.
Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithredu'r mesurau diogelwch angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol, gan gynnwys Cytundeb Rhannu Data ac asesiadau effaith perthnasol.
Dim ond yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol a pholisi diogelu data Cyngor Caerdydd y caiff yr holl wybodaeth ei chadw a'i throsglwyddo. I gael mwy o wybodaeth am sut mae MiPermit yn prosesu data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd Trwyddedau Digidol a darllenwch Bolisi Preifatrwydd MiPermit.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae Gorfodi Parcio Sifil yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 10 Hydref 2025.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Gorfodi Parcio Sifil neu'r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
E-bostiwch ni yn: [email protected]
Neu ysgrifennwch atom:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Gorfodi Parcio Sifil wedi mynd i'r afael â'ch pryder yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.
