Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn cael eich atgyfeirio atom gan y GIG mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae NERS yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolwr Data at ddibenion y data a gesglir. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Pa ddata ydym yn ei gasglu?
Mae NERS yn casglu'r data canlynol:
- Gwybodaeth adnabod bersonol (Enw, Cyfeiriad, Rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, hanes meddygol, rhywedd, ethnigrwydd)
- Pwysedd Gwaed, Taldra, pwysau, cylchedd y canol
Cesglir hyn er mwyn cynnal asesiad cychwynnol, gwiriadau iechyd parhaus a rhaglen ymarfer corff drwy gydol y cynllun, caiff y wybodaeth hon wedyn ei chasglu a'i bwydo'n ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.
Deddfwriaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae NERS yn casglu'r data categori arbennig canlynol:
- Iechyd Corfforol
- Tras Ethnig
Mae NERS yn prosesu categori arbennig o dan Erthygl 9 (2): (g) Rhesymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol) o dan Atodlen 1 amod 6: Dibenion statudol a llywodraethol.
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych chi'n darparu'r rhan fwyaf o'r data i NERS yn uniongyrchol pan fyddwch chi'n ymweld â'ch meddyg teulu neu'n cael eich ymweliad ysbyty. Rydym yn casglu ac yn prosesu data pan fyddwch yn mynychu ar gyfer eich ymgynghoriad cychwynnol.
Efallai y bydd NERS hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:
- Y GIG
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae NERS yn casglu eich data fel y gallwn:
- Gynnal eich ymgynghoriad cychwynnol a
- Phrosesu eich gwybodaeth a rheoli eich manylion
- Adrodd am wybodaeth wedi'i chofnodi i Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sut ydym yn storio eich data?
Mae NERS yn storio'ch data yn ddiogel mewn cronfa ddata ddiogel, Theseus sy'n cael ei rheoli gan ICC.
Bydd NERS yn cadw eich data personol am 7 mlynedd. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai NERS wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i ofyn i NERS am gopïau o'ch data personol.
Yr hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn i NERS gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i NERS gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i NERS ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Mae gennych hawl i ofyn i NERS roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthod prosesu
Mae gennych hawl i wrthwynebu i NERS brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data
Mae gennych hawl i ofyn i NERS drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: [email protected]
Neu ysgrifennwch atom:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 27 Mehefin 2024.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni ar e-bost [email protected] neu drwy'r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gwyno neu os ydych yn teimlo nad yw NERS wedi mynd i'r afael yn briodol â'ch cwyn, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.
