Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Polisi preifatrwydd Tŷ Canna

Mae Tŷ Canna yn rhan o Wasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd, sef Rheolydd y Data at ddibenion y data a gesglir. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaeth.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae Tŷ Canna yn casglu'r data canlynol:

  • Gwybodaeth adnabod bersonol: Enw

Cesglir hyn at ddibenion cysylltu ag unigolion a gwblhaodd ein harolwg adborth

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn llenwi holiadur defnyddiwr gwasanaeth Tŷ Canna yn wirfoddol.

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Tŷ Canna yn casglu eich data fel y gallwn weithredu adborth defnyddwyr gwasanaeth i wella ein gwasanaeth.

Sut a chyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Mae data yn cael ei storio'n ddiogel yn electronig gyda chyfrinair a dim ond rheolwyr Tŷ Canna sy'n gallu cael mynediad ato.

Bydd Tŷ Canna yn cadw data am 12 mis. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Tŷ Canna wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i Dŷ Canna am gopïau o'ch data personol.

Yr hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn i Dŷ Canna gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Dŷ Canna gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Dŷ Canna ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Dŷ Canna roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthod prosesu

Mae gennych hawl i wrthod Tŷ Canna rhag prosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i Dŷ Canna drosglwyddo'r data rydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:

E-bostio ni: [email protected]

Ein sail gyfreithlon

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu ragor o'r canlynol:

Erthygl 6(1)(e) - Tasg Gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.

Deddfwriaeth - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Tŷ Canna yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd hi.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Mae Tŷ Canna yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 29 Hydref 2025.

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Tŷ Canna neu'r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostio ni: [email protected]

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol

Os ydych chi am wneud cwyn neu'n teimlo nad ydym wedi mynd i'r afael â'ch pryder yn bendant, gallwch gysylltu â Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth trwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.