Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hysbysiad preifatrwydd treialu beta

Bydd gwasanaeth cais am bleidlais absennol ar-lein yn cael ei sefydlu i alluogi etholwyr i wneud cais am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy ar-lein.

Bydd gwiriad hunaniaeth yn cael ei gyflwyno yn achos ceisiadau pleidlais absennol (heblaw yn achos pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng). Bydd hyn yn berthnasol i geisiadau ar-lein a phapur.

Mae gwasanaethau a systemau digidol newydd yn cael eu profi wrth gael eu datblygu - sef 'profi beta'. Mae Cyngor Caerdydd yn cynorthwyo'r Adran Codi'r Gwastad a Chymunedau i brofi'r gwasanaeth pleidlais absennol ar-lein.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i ddylunio i hysbysu'r rhai sy'n cymryd rhan yn y Treial Beta ynghylch sut y bydd eu data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Caerdydd.

Pa fathau o ddata personol rydyn ni'n ei brosesu?

Mae'r mathau o ddata personol rydyn ni'n ei brosesu yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Eich enw
  • Cyfeiriad a chod post
  • Gwybodaeth gyswllt, fel eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dyddiad geni
  • Dull adnabod ffotograffig

Sut rydyn ni'n cael eich data personol?

Mae Cyngor Caerdydd eisoes yn cadw eich data personol ar y gofrestr etholiadol. Casglwyd y wybodaeth hon o ffynonellau gan gynnwys:

  • ffurflen bapur
  • www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  • e-bost
  • ffôn
  • gwefan
  • wyneb yn wyneb (drwy ein gweithwyr)
  • adrannau eraill y Cyngor

Sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol?

Byddwn yn defnyddio eich data personol at ddibenion:

  • Eich rhan yn y treial beta.
  • I'ch galluogi i wneud cais am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy ar-lein trwy wasanaeth GOV.UK newydd.
  • I'ch galluogi i wneud cais am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr.
  • I wirio eich hunaniaeth.

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y sail gyfreithlon rydyn ni'n dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw:

Erthygl 6 (e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus

I brosesu data categori arbennig, rydyn ni'n dibynnu ar:

GDPR y DU Erthygl 9(2) (g) - mae angen prosesu am resymau sydd er budd sylweddol i'r cyhoedd

Y sefydliadau y gallwn ni rannu eich data personol gyda nhw

Efallai y byddwn ni'n rhannu eich data personol gydag adrannau eraill yng Nghyngor Caerdydd a sefydliadau allanol rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Yr Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau.
  • Adran Gwaith a Phensiynau

Eich hawliau diogelu data

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy'n cynnwys:

  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni os ydych eisiau gwneud cais.

E-bost: [email protected]

Ffôn: 029 2087 2034

Gwasanaethau Cyfreithiol
Ystafell 263
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni yn [email protected].

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltu â Diogelu Data

Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

E-bost: [email protected] Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf yn Mehefin 2023.