Hoffem glywed eich barn ar ein cynnig parcio ar gyfer yr ardal o amgylch Sgwâr Loudoun a Stryd Bute (ardal ganol Butetown).
Nod y cynnig yw:
- helpu i sicrhau mannau parcio i breswylwyr,
- atal parcio anystyriol,
- annog cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a
- gwella amodau parcio yn gyffredinol i'r gymuned.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
Rydyn ni'n cynnig cyflwyno parth parcio newydd yn yr ardal hon.
Bydd y parth parcio yn cynnwys yr ardaloedd o gwmpas:
- Stryd Alice,
- Stryd Angelina,
- Stryd Bute (rhwng cyffyrdd Heol Hemingway a Sgwâr Callaghan),
- Stryd Christina,
- Stryd yr Eglwys Roegaidd,
- Stryd Hannah,
- Stryd Hodges,
- Sgwâr Hodges,
- Sgwâr Loudoun,
- Stryd Ogleddol yr Eglwys,
- Plas Deheuol Loudoun,
- Stryd Maria, a
- Clos y Gorllewin.
Ardal lle mae'r holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli yn ystod amseroedd penodol yw parth parcio. Mae ynddo fannau parcio sy'n cael eu hystyried yn fannau diogel i barcio, a llinellau melyn lle gallai parcio yno fod yn beryglus.
Er mwyn cyflwyno'r parth, byddwn yn:
- cynyddu nifer y mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig,
- sicrhau bod yr holl barcio yn yr ardal yn cael ei reoli mewn rhyw ffordd,
- cyflwyno parcio talu ac arddangos ar Stryd Bute,
- cyflwyno llinellau melyn newydd lle bo angen i atal parcio sy'n beryglus neu'n achosi rhwystr.
Bydd y mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig yn berthnasol 24 awr y dydd, bob dydd. Gall deiliaid trwydded barcio ar eu stryd neu ar y stryd agosaf sydd ar gael o fewn y parth.
Bydd mannau parcio aros cyfyngedig a thalu ac arddangos yn weithredol rhwng 8am ac 8pm. Fodd bynnag, bydd deiliaid trwydded yn gallu parcio yn y mannau hyn ar unrhyw adeg, heb dalu am docyn.
Bydd yr ardal o amgylch y parc ar Glos y Gorllewin yn dod yn ardal parcio â thrwydded. Mae hon yn ardal lle nad oes mannau parcio wedi'u paentio ar y ffordd, ond bydd angen trwydded ar unrhyw gerbyd i barcio ar y briffordd. Rhoddir gwybod i yrwyr am hyn drwy arwyddion wrth fynd i mewn a gadael y parth. Fodd bynnag, ni fydd angen trwydded ar gerbydau sydd wedi parcio ar ddreifiau preifat.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Mehefin 2025.
Rydyn ni wrthi'n adolygu adborth cyn i ni benderfynu p'un a fyddwn yn parhau â'r cynllun ai peidio.
Gwiriwch eto am unrhyw ddiweddariadau ar ein penderfyniad.
