Darllenwch am y cynllun ailgylchu ar wahân ar gyfer fflatiau gyda biniau cymunedol.
Darllenwch i gael gwybod beth i'w roi yn eich biniau a'ch cynwysyddion yn barod i'w casglu.
Dysgwch am stocwyr lleol a dosbarthu.
Darllenwch i gael gwybod beth i'w wneud os nad ydych ar y cynllun ailgylchu ar wahân.
Cyflwyno eich bagiau ailgylchu a'ch gwastraff er mwyn eu casglu
Rhowch eich bagiau ailgylchu a'ch gwastraff ar y palmant i'w casglu. Gwiriwch eich diwrnod casglu.
Rhaid i'ch holl finiau a chynwysyddion gael eu rhoi allan cyn 6am ar ddiwrnod eich casgliad neu ar ôl 4:30pm y diwrnod cynt.
Os oes angen help arnoch i roi eich bagiau ailgylchu a gwastraff allan i'w casglu, gallwch wneud cais am gasgliad â chymorth.
Byddwn yn casglu eich bagiau ailgylchu a gwastraff rhwng 6am a 3:30pm, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.
Unwaith y byddant yn wag, gwnewch yn siŵr eich bod yn symud eich biniau a'ch cynwysyddion oddi ar y palmant erbyn 9am y diwrnod ar ôl eich casgliad.
Gallwch ddefnyddio ein A-Y ailgylchu i weld sut mae eitemau'n gallu cael eu hailgylchu neu eu gwaredu'n ddiogel.
Rydym hefyd yn darparu casgliad eitemau swmpus a gwasanaeth casglu hylendid.
Os rhowch eitemau anghywir yn eich bagiau ailgylchu, ni fyddwn yn eu casglu. Darllenwch beth sy'n digwydd os ydych chi'n rhoi eitemau anghywir yn eich bagiau ailgylchu.
Os byddwch yn cyflawni trosedd sy'n gysylltiedig â gwastraff, gallech gael dirwy (Hysbysiad Cosb Benodedig Gorfodi Gwastraff).
