Gwastraff gardd
Gweler yr wybodaeth ddiweddaraf am gasgliadau gwastraff gardd.
Mae deunydd organig megis toriadau gwair, dail a chwyn yn mynd yn eich gwastraff gardd.
Efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd. I gofrestru, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.
Defnyddiwch hwn ar gyfer
- Toriadau gwair
- Dail
- Chwyn
- Canghennau bach a brigau
- Planhigion bach
- Blodau
Peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer
- Blawd llif
- Sglodion pren a rhisgl
- Gwellt
- Carpion papur
- Gwastraff anifeiliaid anwes (megis baw anifeiliaid)
- Cewynnau
- Pridd neu rwbel
- Pren neu ddecin
- Cardfwrdd
- Potiau blodau
- Hen offer gardd (megis tryweli, rhawiau a chaniau dyfrio)
- Gwastraff bwyd
- Offer trydanol
Eiddo sy'n defnyddio biniau
Os ydych wedi symud i eiddo newydd ac mae angen bin newydd arnoch, neu os oes angen bin newydd arnoch gan fod eich un chi wedi'i golli neu'i ddwyn, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.
Gallwch gael hyd at 2 fin gwyrdd.
Mae biniau'n costio £35 yr un. Gall dosbarthiadau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith.
Eiddo sy'n defnyddio sachau
Gallwch archebu bagiau y gellir eu hailddefnyddio trwy ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.
Gallwch roi uchafswm o 5 sach allan i'w casglu.
Mae sachau'n costio £3.50 yr un. Gall dosbarthiadau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith.
Os ydych chi eisiau talu gydag arian parod, gallwch fynd i:
- Hyb y Llyfrgell Ganolog
- Hyb Grangetown
- Hyb Ystum Taf a Gabalfa
- Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan
- Hyb Powerhouse
- Hyb Rhydypennau
- Hyb Llaneirwg
