Rydym yn gweithio gyda Podback i ddarparu gwasanaeth ailgylchu am ddim ar gyfer eich podiau coffi, te a siocled poeth.
Cofrestru ar gyfer Podback
Gallwch gofrestru ar wefan Podback. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i sefydlu eich cyfrif Podback.
Cael gwared ar eich podiau
Gwahanwch bodiau alwminiwm a phlastig.
Dewch o hyd i'ch man gollwng agosaf ar wefan Podback. Gallwch hefyd fynd â'ch podiau i'ch canolfan ailgylchu leol.
Os ydych chi'n dewis defnyddio mannau gollwng mewn archfarchnadoedd, bydd angen i chi ddefnyddio bagiau Podback. Archebwch fagiau Podback ar eu gwefan.
Y mathau o bodiau coffi y gallwch eu hailgylchu
Gallwch ailgylchu podiau plastig ac alwminiwm ar gyfer coffi, te, siocled poeth a llaeth.
Pan fyddwch yn cofrestru ar wefan Podback, gofynnir i chi pa frand o bodiau rydych yn ei ddefnyddio fel eich bod yn cael y bag cywir.
Sut mae'r podiau'n cael eu hailgylchu
Mae'r podiau yn mynd i safleoedd ailbrosesu alwminiwm a phlastig arbenigol yn y DU.
Mae'r gwaddodion coffi'n cael eu tynnu, ac yna mae'r plastig a'r alwminiwm yn cael eu trawsnewid yn gynnyrch newydd, gan gynnwys:
- caniau diodydd,
- cydrannau ceir,
- dodrefn gardd plastig, a
- chynhyrchion adeiladu.
Mae'r gwaddodion coffi yn cael eu defnyddio i wella ansawdd pridd ac i greu ynni adnewyddadwy (bio-nwy).
Mwy o wybodaeth am sut mae eich podiau'n cael eu hailgylchu.
