Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Casgliadau a Chyfleusterau Storio Gwastraff yn helpu cynllunwyr, datblygwyr a phenseiri i gynllunio systemau storio a chasglu priodol ar gyfer ailgylchu a gwastraff mewn datblygiadau masnachol a domestig.
Prynu'r cynwysyddion gwastraff cywir ar gyfer eich datblygiad
Rhaid i chi brynu biniau olwynion 140 litr a 240 litr gennym ni.
Gallwch brynu biniau swmp 660 a 1100 litr gan unrhyw gyflenwr ar yr amod eu bod yn bodloni ein manyleb. Diben hyn yw sicrhau bod biniau'n gydnaws â'n cerbydau casglu ac yn cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch.
Os nad yw cynwysyddion gwastraff yn ddiogel i'w casglu, rydym yn cadw'r hawl i wrthod casglu nes bod y manylebau biniau wedi'u bodloni.
Prisiau Biniau
| Math y bin | Pris |
|---|---|
| Bin olwynion gwastraff cyffredinol 140 litr | £25 (+ TAW) |
| Bin olwynion gwastraff gardd 140 litr | £35 (+ TAW) |
| Bin olwynion gwastraff cyffredinol 240 litr | £25 (+ TAW) |
| Bin olwynion gwastraff gardd 240 litr | £35 (+ TAW) |
| Bin mawr 660 litr | £412.50 (+ TAW) |
| Bin mawr 1100 litr | £517 (+ TAW) |
Ni chodir tâl am gadis bwyd 7 litr a 25 litr.
Manyleb Biniau
Manylebau cadis bwyd
Cadi cegin 7 litr
- Maint - uchder 234mm, lled 271mm, dyfnder 229mm
- Deunydd - Plastig
- Lliw ffrwd gwastraff - Brown (compost)
Cadi ymyl y ffordd 25 litr
- Maint - uchder 405mm, lled 400mm, dyfnder 345mm
- Deunydd - Plastig
- Lliw ffrwd gwastraff - Brown (compost)
Manylebau biniau olwynion
Bin olwynion 140 litr
- Uchder 950mm, lled 500mm, dyfnder 535mm
- Deunydd - Plastig
- Olwynion - 2
- Lliw ffrwd gwastraff - Du (cyffredinol) neu wyrdd (compost)
Bin olwynion 240 litr
- Uchder 1100mm, lled 580mm, dyfnder 740mm
- Deunydd - Plastig
- Olwynion - 2
- Lliw ffrwd gwastraff - Du (cyffredinol) neu wyrdd (compost)
Manylebau biniau swmp
Bin swmp 660 litr
- Uchder 1330mm, lled 1250mm, dyfnder 720mm
- Deunydd - Dur
- Olwynion - 4
- Lliw ffrwd gwastraff - Arian (cyffredinol) neu wyrdd llachar (ailgylchu)
Bin swmp 1100 litr
- Uchder 1475mm, lled 1250mm, dyfnder 980mm
- Deunydd - Dur
- Olwynion - 4
- Lliw ffrwd gwastraff - Arian (cyffredinol) neu wyrdd llachar (ailgylchu)
Paratoi eich safle ar gyfer casgliadau
Os ydych wedi cael caniatâd cynllunio ar y sail y darperir storfa finiau neu y bydd y datblygiad yn defnyddio biniau swmp 1100 neu 660 litr, bydd angen i ni gynnal asesiad storfa finiau cyn y gellir dosbarthu biniau neu ddechrau casglu gwastraff.
Diben hyn yw sicrhau y gellir casglu gwastraff yn ddiogel, a bod eich datblygiad wedi'i adeiladu yn unol â'r amodau cynllunio.
Bydd angen i chi ganiatáu o leiaf 8 wythnos ar gyfer cwblhau'r broses hon, o'r cyswllt cychwynnol hyd nes dosbarthu'r biniau. Rhaid i chi gysylltu â ni cyn i breswylwyr symud i mewn.
Os yw hyn yn berthnasol i'ch datblygiad chi, cysylltwch â Rheoli Gwastraff [email protected] i drefnu ymweliad safle gyda'n tîm gweithrediadau. Gallwch ofyn am gyngor yn ystod unrhyw gam o'r broses adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno cais cynllunio, darllenwch y Canllawiau Cynllunio Atodol.
Dyraniadau biniau ar gyfer tai a fflatiau
Darpariaethau biniau ar gyfer tai amlfeddiannaeth
| Nifer y Preswylwyr | Ailgylchu | Cyffredinol | Gardd | Bwyd |
|---|---|---|---|---|
| 1-5 | Bags (140L) | 1 x 140L | 240L | 1 x 25L |
| 6-8 | Bags (240L) | 1 x 240L | 240L | 2 x 25L |
| 9-10 | Bags (380L) | 1 x 240L a 1 x 140L | 240L | 3 x 25L |
| 11+ | Bags (480L) | 2 x 240L | 240L | 3 x 25L |
Lle y bo'n bosibl, dylid adeiladu storfa finiau i storio'r biniau ar gyfer tai.
Darpariaeth biniau ar gyfer tai sy'n cael eu haddasu'n fflatiau
| Nifer y fflatiau | Ailgylchu | Cyffredinol | Gardd | Bwyd |
|---|---|---|---|---|
| 3 | dd/b | 1 x 240L a 1 x 140L | 240L | 1 x 25L |
| 4 | dd/b | 2 x 240L | 240L | 2 x 25L |
| 5 | dd/b | 3 x 240L | 240L | 2 x 25L |
| 6 | dd/b | 3 x 240L a 1 x 140L | 240L | 240L |
| 7 | dd/b | 4 x 240L | 240L | 240L |
| 8 | dd/b | 4 x 240L a 1 x 140L | 240L | 240L |
| 9 | dd/b | 5 x 240L | 240L | 240L |
Ar gyfer tai sy'n cael eu haddasu'n fflatiau, y dewis a ffefrir yw dyrannu biniau unigol.
Darpariaeth biniau ar gyfer datblygiadau mawr o fflatiau pwrpasol
| Nifer y Fflatiau (hyd at 3 Ystafell Wely) | Ailgylchu | Cyffredinol | Bwyd* | Ailddefnyddio/Storio Swmpus |
|---|---|---|---|---|
| 5 | 660L | 660L | 240L | dd/b |
| 10 | 1100L | 1100L | 240L | 5m2 |
| 15 | 2200L | 2200L | 240L | 5m2 |
| 20 | 2200L | 2200L | 240L | 5m2 |
| 25 | 3300L | 3300L | 480L | 5m2 |
| 30 | 4400L | 4400L | 480L | 5m2 |
| 35 | 4400L | 4400L | 480L | 5m2 |
| 40 | 5500L | 5500L | 480L | 5m2 |
| 45 | 6600L | 6600L | 720L | 10m2 |
| 50 | 6600L | 6600L | 720L | 10m2 |
Ni ddarperir biniau gwastraff gardd gan y rhagdybir nad oes gan y fflatiau erddi nac ardaloedd amwynder unigol. Os oes gan y datblygiad arfaethedig erddi unigol, gellir darparu biniau 240L ar gais.
*Ni chaiff cynwysyddion olwynion ar gyfer gwastraff bwyd fod yn fwy na 240L, oherwydd y pwysau a'r goblygiadau iechyd a diogelwch ar weithredwyr casgliadau.
Darpariaeth biniau ar gyfer datblygiadau mawr o fflatiau stiwdio neu fflatiau clwstwr
| Nifer yr Ystafelloedd Gwely | Ailgylchu | Cyffredinol | Bwyd* | Ailddefnyddio/Storio Swmpus |
|---|---|---|---|---|
| 10 | 1100L | 1100L | 240L | 5m2 |
| 20 | 2200L | 2200L | 240L | 5m2 |
| 30 | 2200L | 2200L | 240L | 5m2 |
| 40 | 3300L | 3300L | 480L | 5m2 |
| 50 | 3300L | 3300L | 480L | 5m2 |
| 60 | 4400L | 4400L | 480L | 10m2 |
| 70 | 4400L | 4400L | 480L | 10m2 |
| 80 | 5500L | 5500L | 720L | 10m2 |
| 90 | 5500L | 5500L | 720L | 10m2 |
| 100 | 6600L | 6600L | 720L | 10m2 |
Ni ddarperir biniau gwastraff gardd gan y rhagdybir nad oes gan y fflatiau erddi nac ardaloedd amwynder unigol. Os oes gan y datblygiad arfaethedig erddi unigol, gellir darparu biniau 240L ar gais.
*Ni chaiff cynwysyddion olwynion ar gyfer gwastraff bwyd fod yn fwy na 240L, oherwydd y pwysau a'r goblygiadau iechyd a diogelwch ar weithredwyr casgliadau.
Gorfodi Gwastraff, Depo Ffordd Lamby, Ffordd Lamby, Tredelerch, Caerdydd CF3 2HP
