Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Casgliadau eitemau swmpus

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer eiddo preswyl yn unig. Ewch i Gwastraff Masnach Caerdydd ar gyfer ymholiadau masnachol.

Os oes gennych eitem yn y cartref sy'n rhy fawr i chi ei chyflwyno i ganolfan ailgylchu, gallwch drefnu i ni ei chasglu o'ch eiddo.

Codir ffi archebu o £5 ar gyfer pob casgliad eitemau swmpus. Nid oes modd ad-dalu'r ffi hon.

Er mwyn i ni gasglu eich eitem, rhaid iddi fod:

  • yn rhy fawr a lletchwith i ffitio yn eich car, neu
  • ddim yn ddiogel i un person ei chario.
     

Darllenwch delerau ac amodau casgliadau eitemau swmpus.


Costau casgliadau

  • 1 i 2 eitem £15
  • 3 i 4 eitem £30
  • 5 i 6 eitem £45

Eitemau rydym yn eu casglu

  • offer trydanol mawr,
  • fframiau a ffenestri UPVC,
  • eitemau metel,
  • nwyddau gwyn,
  • eitemau wedi eu gwneud o bren, MDF neu laminiad,
  • carpedi,
  • eitemau ceramig, teils neu garreg,
  • gwaelod gwelyau difán,
  • soffas a chadeiriau breichiau,
  • matresi 'memory foam' neu rai â sbrings,
  • dodrefn wedi eu gwneud o gymysgedd o ddeunyddiau megis cwpwrdd pren gyda drysau gwydr, a
  • phlastigau caled.

Eitemau na allwn eu casglu

Ymhlith yr eitemau na allwn eu casglu mae:

  • drysau gwydr,
  • offer trydanol bach,
  • pianos,
  • asbestos,
  • gwastraff gardd,
  • pridd a rwbel, a
  • beiciau.
     

Ewch i'n A i Y o ailgylchu i ddysgu sut i gael gwared ar eitemau nad ydym yn eu casglu.

Trefnu casgliad

Gallwch archebu uchafswm o 6 eitem.

Gwnewch yn siŵr bod casglu'r eitem hon yn gwbl angenrheidiol, a'ch bod yn ei roi yn y lleoliad a nodir yn eich archeb.

 

 

Hefyd gallwch drefnu casglu eitem swmpus:

Gallwch hefyd trefnu ymweliad â chanolfan ailgylchu ar-lein.

Os ydych chi eisiau defnyddio cwmni allanol, gwnewch hynny o'n cyflenwr cludo gwastraff cofrestredig i sicrhau eu bod yn ei waredu'n gyfreithlon.

Newidiadau i'ch archeb

Os hoffech newid neu ganslo eich archeb, mae angen i chi gysylltu â C2C ar 029 2087 2088.


Newid eich archeb

Gallwch gyfnewid eitemau tebyg hyd at 2pm, 1 diwrnod gwaith cyn eich casgliad.

Ar ôl i chi dalu am eich archeb, ni fydd modd i chi ychwanegu eitemau ychwanegol. Bydd angen i chi ddechrau archeb arall ar gyfer unrhyw eitemau ychwanegol.​


Canslo eich archeb

Rhaid i archebion gael eu canslo 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y casgliad i gael ad-daliad.

Ni ellir ad-dalu'r ffi archebu o £5 am bob casgliad.