Papur a chardfwrdd
Mae papur a chardfwrdd yn mynd yn eich sach las.
Casgliad bob wythnos.
Gallwch gasglu sachau o'ch stocwyr lleol.
Defnyddiwch hwn ar gyfer
- Cerdyn a blychau cardfwrdd
- Cartonau wyau
- Tiwbiau papur tŷ bach
- Blychau grawnfwyd
- Blychau past dannedd
- Papur
- Papurau newydd a chylchgronau
- Amlenni a llythyrau
- Papur argraffydd a charpion papur
Gellir rhoi symiau bach o garpion papur, megis derbynebau a biliau, mewn cynhwysydd wedi'i wneud o gerdyn neu bapur, megis bag papur, yna ei roi yn eich sach.
Os ydym yn disgwyl tywydd sych, gallwch roi llawer iawn o garpion papur mewn blwch cardfwrdd wrth ymyl eich cynwysyddion ailgylchu i'w gasglu.
Peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer
- Cartonau bwyd a diod, megis Tetra Pak
- Polystyren
- Ffilm neu becynnu plastig
- Papur wal
- Papur lapio
- Hancesi papur, tywelion papur a phapur cegin
- Cynhyrchion hylendid
- Bagiau siopa neu fin plastig
