Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Gwastraff cyffredinol

Gwastraff cyffredinol

Dylech roi unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu yn eich bin gwastraff cyffredinol.

Casgliad bob pythefnos.

Eiddo sy'n defnyddio biniau

Os ydych wedi symud i eiddo newydd ac mae angen bin newydd arnoch, neu os oes angen bin newydd arnoch gan fod eich un chi wedi'i golli neu'i ddwyn, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.

Mae biniau'n costio £25 yr un.

Os nad oes digon o le i roi eich holl wastraff cyffredinol yn eich bin, efallai y gallwch gael bin ychwanegol neu fwy o faint.

Dim ond os oes gennych wastraff cyffredinol ychwanegol yn rheolaidd a bod hyn y tu hwnt i'ch rheolaeth y byddwch yn gallu cael bin ychwanegol neu fwy o faint. Er enghraifft, gwastraff meddygol. Bydd angen i chi hefyd brofi eich bod yn gwneud defnydd llawn o gasgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol.

Os ydych yn credu eich bod yn bodloni'r meini prawf hyn, cysylltwch â ni i drefnu asesiad.

Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o fag i roi'r gwastraff yn eich bin. Rhaid i chi allu cau'r caead yn iawn.

Os byddwch yn rhoi bagiau ychwanegol o wastraff wrth ymyl eich bin i'w gasglu, ni fyddwn yn eu casglu, a gallech gael dirwy.

Eiddo sy'n defnyddio sachau atal gwylanod

Dylai fod gan eich eiddo 2 sach atal gwylanod.

Dylech:

  • Roi eich holl wastraff cyffredinol mewn bag sbwriel o ansawdd da.
  • Rhoi'r bag sbwriel y tu mewn i sach.
  • Gwneud yn siŵr bod y sachau wedi'u cau a'u diogelu gyda'r stribedi Velcro.

Gallwch roi 2 fag sbwriel y tu mewn i bob sach. Rhaid cau'r bagiau sbwriel yn iawn.

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Defnyddio bagiau plastig.
  • Rhoi sbwriel rhydd yn syth i mewn i'r sachau.

Ni fyddwn yn casglu unrhyw fagiau gwastraff cyffredinol sydd ddim yn y sachau.

Dysgu mwy am sachau atal gwylanod.