Rydym yn rhoi sticeri ar eich cynwysyddion ailgylchu a gwastraff i roi gwybod i chi pam nad ydym wedi eu casglu. Gallwch dderbyn sticer am:
- rhoi eitemau anghywir yn eich cynwysyddion gwastraff neu'ch bin, neu
- os yw eich cynwysyddion neu'ch bin yn rhy drwm i'n criwiau eu symud yn ddiogel a'u gwagio.
Beth i'w wneud os ydych chi'n cael sticer
Os gwelwch chi sticer ar eich cynwysyddion gwastraff neu'ch bin, bydd angen i chi dynnu'r eitemau anghywir cyn eich casgliad nesaf.
Os oes gennych sticer ar eich bin gwastraff gardd ond nad ydych wedi rhoi unrhyw eitemau anghywir ynddo, efallai ei fod yn rhy drwm. Tynnwch ychydig o'r gwastraff os gwelwch yn dda.
Efallai y byddwn yn anfon llythyr a fydd yn rhoi rhywfaint o gymorth a chyngor ychwanegol i chi ar ailgylchu.
Dysgwch beth allwch chi ei roi yn eich gwastraff ailgylchu a gwastraff gardd. Os byddwch yn parhau i roi eitemau anghywir yn eich cynwysyddion neu'ch bin, byddwn yn rhoi hysbysiad ffurfiol i chi.
Os cewch chi dri sticer o fewn cyfnod o 12 wythnos, byddwn yn rhoi rhybudd ffurfiol i chi. Darganfyddwch beth yw Hysbysiad Adran 46 a pham maen nhw'n cael eu cyhoeddi.
Biniau cymunedol
Os ydych yn byw mewn eiddo sydd â biniau cymunedol, bydd y criwiau'n rhoi sticeri ar y bagiau penodol sydd ag eitemau anghywir ynddynt ac yn nodi bod eitemau anghywir mewn bin cymunedol.
Sut i osgoi sticer
Gallwch wneud yn siŵr eich bod yn rhoi'r eitemau cywir yn eich cynwysyddion ailgylchu drwy:
- ddarllen y wybodaeth ailgylchu a gwastraff,
- darllen y canllaw ailgylchu A i Z, neu
- gofyn am daflen ailgylchu yn eich llyfrgell neu Hyb lleol.
Eitemau anghywir cyffredin
Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun sticeri yn eich helpu i adnabod eitemau anghywir yn eich gwastraff ailgylchu a'ch gwastraff gardd.
Trwy gael gwared ar eitemau'n gywir, gallwch ein helpu i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70%.
Gwastraff gardd
Mae tua 6% o'r gwastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cynnwys eitemau anghywir. Mae hyn yn costio £140,000 y flwyddyn i'w lanhau er mwyn sicrhau y gallwn ei droi'n gompost.
Yr eitemau anghywir mwyaf cyffredin yw:
- Asbestos - mae hyn yn dod dan y categori gwastraff peryglus a dylid cael gwared arno mewn modd cyfrifol. Dysgwch sut i gael gwared ar asbestos.
- Eitemau gardd fel caniau dŵr a phibellau dŵr.
- Plastig untro, gan gynnwys bagiau ailgylchu gwyrdd.
- Gwastraff cyffredinol.
- Rwbel.
- Pridd.
- Pren.
Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn yn eich gwastraff gardd.
Ailgylchu
Mae tua 20% o'r eitemau sy'n cael eu rhoi mewn cynwysyddion ailgylchu yn anghywir.
Yr eitemau anghywir mwyaf cyffredin yw:
- Cewynnau. Dysgwch am gasgliadau hylendid.
- Bwyd. Dysgwch am gasgliadau bwyd.
- Tecstilau. Gweler y canllaw ailgylchu A i Y i gael gwybod sut i ailgylchu tecstilau.
Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn yn eich cynwysyddion ailgylchu.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- mae amgylchiadau penodol gennych yr hoffech i ni eu hystyried, neu
- rhoddwyd sticer ar eich bin ond rydych yn credu nad oedd unrhyw eitemau anghywir ynddo.
