Rydym yn cynhyrchu'r cylchlythyr hwn bob blwyddyn i egluro sut mae'r dreth gyngor yn cael ei chyfrifo a sut mae'n cael ei gwario.
Mae'r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth am:
- sut mae biliau'n cael eu cyfrifo
- yr hyn y byddwch yn ei dalu
- bandiau treth gyngor
- cronfeydd ariannol y Cyngor - symiau o arian a roddwyd o'r neilltu at ddibenion penodol a rheoli llif arian
- gwariant refeniw y Cyngor - cost gwariant y Cyngor ar wasanaethau o dydd i ddydd gan gynnwys cynnal ysgolion, gofalu am bobl sy'n agored i niwed, casglu gwastraff, cynnal a chadw priffyrdd a pharciau, a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol
Gweld cylchlythyr Prifnewyddion (PDF, 716 KB).
Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae cyfran o'ch treth gyngor yn mynd tuag at Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am:
- sut maen nhw'n cael eu hariannu
- eu cyllideb flynyddol
