Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Defnyddio bathodyn glas

Dewch o hyd i wybodaeth am eich cyfrifoldebau, lle gallwch barcio a sut i arddangos eich bathodyn yn gywir.

Darllenwch am eich cyfrifoldebau fel deiliad bathodyn.

Sut i arddangos eich bathodyn

Mae'n rhaid i chi arddangos eich bathodyn ar ddashfwrdd eich car. Rhaid i'r manylion fod yn weladwy drwy'r ffenestr flaen.

Os ydych chi'n parcio yn rhywle sydd â chyfyngiad amser, rhaid i chi arddangos y cloc parcio gyda'r bathodyn i ddangos yr amser gyrhaeddoch chi.

Efallai y cewch docyn parcio os byddwch yn arddangos y rhain yn anghywir.

Ble allwch chi barcio

Gallwch ddefnyddio eich bathodyn glas i barcio mewn:

  • mannau parcio talu ac arddangos ar y stryd,
  • meysydd parcio'r cyngor, a
  • mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn unig.
  • Gallwch barcio am hyd at 3 awr gyda'ch cloc parcio:
  • mannau parcio i breswylwyr,
  • Ar linellau melyn dwbl, a
  • llinellau melyn sengl.

Os ydych yn parcio yn y mannau hyn y tu allan i'r oriau rheoledig, mae am ddim.Rhaid i chi wirio arwyddion y maes parcio i gael gwybodaeth am ffioedd, cyfyngiadau amser a rheolau arbennig ar gyfer deiliaid bathodyn glas, neu waharddiadau llwytho.

Parcio ar gyfer digwyddiadau

Yn ystod digwyddiadau yng nghanol y ddinas, gallwch ddefnyddio'r mannau parcio ar y stryd sydd ar gael.

Codir tâl am barcio yng Ngerddi Sophia neu'r Ganolfan Ddinesig.

Defnyddio eich bathodyn glas dramor

Mae'r rheolau ar gyfer defnyddio eich bathodyn yn wahanol dramor.

Gwiriwch y rheolau mewn gwledydd eraill.

Camddefnyddio bathodyn glas

Os ydych yn camddefnyddio eich bathodyn neu'n defnyddio un nad yw'n perthyn i chi, cewch ddirwy o hyd at £1,000. Gallech hefyd gael eich erlyn.

Gallwch roi gwybod i ni'n gyfrinachol os yw rhywun yn parcio'n anghyfreithlon mewn man parcio bathodyn glas, neu'n camddefnyddio bathodyn glas, drwy ffonio:029 2087 2088.

Gallwch hefyd ddweud wrthym am broblemau parcio eraill.