Eich cyfrifoldeb chi yw cadw'ch bathodyn glas yn ddiogel. Ni ddylech adael eich bathodyn yn eich cerbyd pan nad ydych yn ei arddangos, hyd yn oed os ydych yn defnyddio'r cerbyd yn aml.
Dim ond os mai chi yw'r deiliad cofrestredig y gallwch ddefnyddio bathodyn glas, neu os yw'r deiliad cofrestredig yn teithio gyda chi yn y car.
Rhagor o wybodaeth am gamddefnyddio bathodynnau glas.
Rhaid i chi ddweud wrthym os bydd eich manylion neu'ch amgylchiadau'n newid. Mae'n bwysig bod ein cofnodion yn gyfredol fel bod eich bathodyn yn aros yn ddilys.
Dysgwch:
beth i'w wneud os oes gennych fathodyn glas nad oes ei engen arnoch mwyach, neu
beth i'w wneud os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas sy'n newid eich cyfeiriad.
Darllenwch fwy am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel deiliad bathodyn.
