Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas sy'n newid eich cyfeiriad, gallwch barhau i ddefnyddio'ch bathodyn. Nid oes angen i chi wneud cais am fathodyn newydd nes bod eich un presennol yn dod i ben.
Symud i Gaerdydd
Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas sy'n symud i Gaerdydd o ardal arall, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor blaenorol i roi gwybod iddo am hyn. Bydd yn trosglwyddo manylion eich bathodyn i ni.
Symud allan o Gaerdydd
Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas ac yn symud allan o Gaerdydd, cysylltwch â ni er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion a throsglwyddo eich manylion i'ch awdurdod newydd.
Cysylltu â ni
Rhaid i chi ddweud wrthym os bydd eich manylion neu'ch amgylchiadau'n newid.
Mae'n bwysig bod ein cofnodion yn gyfredol fel bod eich bathodyn yn aros yn ddilys.
Ffôn: 029 2087 2088
