Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwiriwch a allwch gael bathodyn glas

Gallech gael bathodyn glas os ydych chi neu'r person rydych yn gwneud cais ar ei ran yn cael budd-daliadau penodol, neu os yw unrhyw amgylchiadau eraill yn berthnasol.

Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel (ASPRh)

Os ydych yn cael y rhan Atodiad Symudedd o'r taliad Pensiynwyr Rhyfel, gallech gael bathodyn glas.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi roi copi o'ch llythyr dyfarnu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ni.

Elfen Symudedd Cyfradd Uwch - Lwfans Byw i'r Anabl (LBA)

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn cael elfen Cyfradd Uwch y LBA, ac
  • mae gennych o leiaf 12 mis ar ôl ar eich dyfarniad LBA.

Os oes gennych lai na 12 mis ar ôl ar eich dyfarniad, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol.

Bydd eich bathodyn yn dod i ben ar ôl 3 blynedd, neu pan fydd eich dyfarniad LBA yn dod i ben (pa un bynnag sy'n dod gyntaf).

Ni fydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais. Byddwn yn defnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau i gadarnhau a ydych yn gymwys.

Ni fyddwch yn gymwys yn awtomatig i gael bathodyn glas os ydych yn cael y canlynol:

  • yr Elfen Symudedd Cyfradd Is,
  • yr Elfen Gofal yn unig (ar unrhyw gyfradd)
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Pensiwn

Efallai y byddwch yn gallu cael bathodyn glas os ydych yn gwneud cais trwy'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol neu'r llwybr anabl dros dro a sylweddol.

Sgorio o leiaf 8 pwynt ar gyfer 'Symud o Gwmpas' - Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB)

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn sgorio o leiaf 8 pwynt ar y rhan 'Symud o Gwmpas' o'r TAB, ac
  • mae gennych o leiaf 12 mis ar ôl ar eich dyfarniad.

Os oes gennych lai na 12 mis ar ôl ar eich dyfarniad, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol.

Bydd eich bathodyn yn dod i ben ar ôl 3 blynedd, neu pan fydd eich dyfarniad TAB yn dod i ben (pa un bynnag sy'n dod gyntaf).

Ni fydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais. Byddwn yn defnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau i gadarnhau a ydych yn gymwys.

Sgorio o leiaf 12 pwynt ar gyfer 'Cynllunio a Dilyn Taith' - Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB)

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • Rydych yn sgorio o leiaf 12 pwynt ar gyfer y rhan 'Cynllunio a Dilyn Taith' o'r TAB, ac
  • Mae gennych o leiaf 12 mis ar ôl ar eich dyfarniad.

Os oes gennych lai na 12 mis ar ôl ar eich dyfarniad, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol.

Bydd eich bathodyn yn dod i ben ar ôl 3 blynedd, neu pan fydd eich dyfarniad TAB yn dod i ben (pa un bynnag sy'n dod gyntaf).

Ni fydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais. Byddwn yn defnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau i gadarnhau a ydych yn gymwys.

Cael tariff 1 i 8 - Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Os ydych yn cael tariff 1 i 8 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, gallech gael bathodyn glas.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi roi copi o'ch llythyr dyfarnu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ni.

Cael tariff 6 - Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Os ydych yn cael tariff 6 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, gallech gael bathodyn glas.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi roi copi o'ch llythyr dyfarnu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ni.

Wedi cofrestru'n ddall neu ag amhariad difrifol ar y golwg

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • rydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu
  • mae gennych amhariad difrifol ar y golwg.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth. Anfonwch un o'r dogfennau hyn atom:

  • eich Cerdyn Cofrestru Awdurdod Lleol,
  • adroddiad gan eich offthalmolegydd, neu
  • eich Tystysgrif Amhariad ar y Golwg (TAG).

 

Rhannol Ddall

Os ydych yn rhannol ddall, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fathodyn glas trwy gyflwyno cais meddygol. Pan fyddwch yn gwneud cais, rhowch gymaint o wybodaeth â phosib i ni am sut yr effeithir ar eich symudedd.

Gwneud cais gan ddefnyddio'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol

Anabledd yn y ddwy fraich a gyrru cerbyd

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • mae gennych anabledd parhaol a difrifol yn y ddwy fraich, ac ni allwch weithredu unrhyw offer parcio neu rai mathau o offer parcio, ac
  • rydych yn gyrru cerbyd.

Ni allwch gael bathodyn glas os oes gennych anabledd:

  • yn y ddwy fraich ond nad ydych yn gyrru cerbyd
  • mewn un fraich, neu
  • nad yw'n barhaol.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno:

  • copi o'ch trwydded yrru (blaen a chefn). Rhaid i'ch trwydded yrru fod â chod 40 (ar gyfer llywio wedi'i addasu) neu god 79 (ar gyfer cerbyd gyda chyfyngiadau), a
  • thystiolaeth feddygol bod gennych anabledd yn y ddwy fraich. Gallai hyn fod yn adroddiadau, yn grynodebau neu'n llythyr gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

 

Plentyn o dan 3 oed sydd angen offer meddygol swmpus

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • mae eich plentyn o dan 3 oed ac mae angen offer meddygol swmpus arno, ac
  • mae'n rhy anodd cario'r offer o gwmpas.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno llythyr cadarnhau gan bediatregydd.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y bathodyn glas yn ddilys tan y diwrnod ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais arall trwy'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol

Plentyn o dan 3 oed sydd angen bod yn agos at gerbyd

Gallech gael bathodyn glas os yw'ch plentyn o dan 3 oed ac mae angen ei gadw'n agos at gerbyd. Mae hyn fel y gall:

  • gael mynediad at offer neu driniaeth achub bywyd yn y cerbyd, neu
  • gael ei gludo i leoliad lle gall gael triniaeth achub bywyd. 

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno llythyr cadarnhau gan bediatregydd. 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y bathodyn glas yn ddilys tan y diwrnod ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais arall trwy'r llwybr anabledd parhaol a sylweddol​. ​
 

Salwch angheuol

Gallech gael bathodyn glas os oes gennych salwch angheuol sy'n cyfyngu ar eich symudedd yn sylweddol.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno:

  • ffurflen SR1, neu
  • gadarnhad o'ch salwch.

Gallwch gael y dystiolaeth hon gan nyrs MacMillan neu Tenovous, gweithiwr hosbis, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arbenigol.

Anabledd parhaol a sylweddol

Mae eich cymhwysedd ar gyfer bathodyn glas yn seiliedig ar eich symudedd, ac nid ar eich cyflyrau meddygol.

Gallech gael bathodyn glas yn yr achosion canlynol:

  • mae gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anhawster wrth gerdded pellteroedd byr iawn, neu
  • nid ydych yn gallu cerdded o gwbl.

Byddwn yn penderfynu a ydych yn gymwys yn seiliedig ar y canlynol:

  • Os oes gennych boen gormodol wrth gerdded
  • Pa mor ddi-anadl ydych chi wrth gerdded
  • Y cyflymder, y pellter, a'r hyd o amser y gallwch gerdded
  • Sut rydych yn symud wrth i chi gerdded (eich cerddediad)
  • Os ydych yn defnyddio unrhyw gymhorthion cerdded
  • Eich gallu i gerdded dan do ac yn yr awyr agored.

Os oes gennych un o'r cyflyrau hyn, ni allwch gael bathodyn glas fel arfer. Fodd bynnag, mewn achosion prin, gellir eu hystyried os yw'n effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i symud:

  • Clefyd Crohn neu Golitis
  • Beichiogrwydd
  • Salwch neu anaf nad yw'n effeithio'n ddifrifol ar eich symudedd.

​Sut i wneud cais

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch yn eich cais. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi'ch cais hyd yn oed os ydych wedi cael bathodyn glas yn y gorffennol.​

Os nad ydych yn cyflwyno digon o dystiolaeth, gallai eich cais gael ei ohirio neu ei wrthod.

​Er enghraifft, gallech gyflwyno prawf o'r canlynol:

  • Eich cyflwr meddygol a sut mae'n effeithio ar eich symudedd. Gallai hyn fod yn adroddiad, yn llythyr, neu'n grynodeb gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a rhaid iddo fod â dyddiad o fewn y 12 mis diwethaf,
  • Unrhyw bresgripsiynau ailadroddus ar gyfer meddyginiaeth,
  • Presgripsiwn ar gyfer ocsigen,
  • Unrhyw driniaeth rydych wedi'i derbyn yn ystod y 5 mlynedd diwethaf (er enghraifft, ffisiotherapi neu glinigau)
  • Bod angen help arnoch gan ofalwr (er enghraifft, copi o'ch cynllun gofal)
  • Eich bod yn defnyddio gwasanaeth Pryd ar Glud,
  • Eich bod yn defnyddio Teleofal,
  • Eich bod yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol,
  • Eich bod yn defnyddio cymhorthion symudedd (gallai hyn fod yn dderbynneb am y cymhorthion, neu gopi o'ch cynllun gofal sy'n nodi pa gymhorthion sydd eu hangen arnoch).  

​Enghreifftiau yw'r rhain. Nid oes rhaid i chi gyflwyno'r holl ddogfennau hyn.

Rydym yn derbyn tystiolaeth gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn:

  • Ymgynghorwyr allanol
  • Therapyddion galwedigaethol 
  • Ffisiotherapyddion   
  • Nyrsys clinig poen
  • Nyrsys ardal 
  • Gweithwyr cymorth
  • Gofalwyr
  • Gweithwyr gwasanaethau Cymdeithasol
     

Nid yw llythyrau apwyntiad, cardiau apwyntiad na phresgripsiynau yn cyfrif fel tystiolaeth ar eu pennau eu hunain, gan nad ydynt yn disgrifio sut yr effeithir ar eich symudedd. Fodd bynnag, gallwch eu defnyddio i gefnogi eich cais. 

Os nad ydych yn gallu cyflwyno tystiolaeth ategol gyda'ch cais, gallwn dderbyn copi o nodiadau cryno eich meddyg teulu. Fodd bynnag, gan efallai na fydd y nodiadau hyn yn disgrifio sut yr effeithir ar eich symudedd, gellid atgyfeirio eich cais i'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer asesiad pellach. 

Asesiad

Fel rhan o'ch cais, efallai y cewch eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer asesiad meddygol pellach. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn anfon ffurflen atoch i'w llenwi. 

Bydd yn ceisio gwneud asesiadau wrth ddesg lle y bo hynny'n bosib, fodd bynnag, efallai y bydd yn gofyn am asesiadau pellach dros y ffôn neu'n bersonol. ​
 

Anabledd dros dro a sylweddol am o leiaf 12 mis

Gallech gael bathodyn glas 12 mis dros dro os ydych yn gwella o'r canlynol:

  • toriad coes cymhleth sy'n para am o leiaf flwyddyn (fel toriad sydd angen sefydlogyddion allanol),
  • strôc neu anaf i'r pen sy'n effeithio ar eich symudedd,
  • cymal newydd sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar symudedd (fel clun neu ben-glin), neu
  • drawma i asgwrn y cefn. 

Gallech hefyd gael bathodyn glas os ydych yn derbyn triniaeth ar gyfer salwch sy'n effeithio ar eich symudedd. Er enghraifft, canser. 

Sut i wneud cais

​Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno:

  • tystiolaeth o'ch cyflwr a sut mae'n effeithio ar eich symudedd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Gallai hyn fod yn llythyr, yn adroddiad, neu'n grynodeb, a'r
  • dyddiadau y cawsoch neu y disgwylir i chi gael eich llawdriniaeth. 

Rydym yn derbyn tystiolaeth gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn:

  • Llawfeddyg
  • Meddyg Ymgynghorol
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Tîm Adsefydlu Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Ffisiotherapydd

Bydd eich cais yn cael ei atgyfeirio i dîm o therapyddion galwedigaethol annibynnol i'w asesu ymhellach.

Asesiad

Fel rhan o'ch cais, byddwch yn cael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer asesiad meddygol pellach. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn anfon ffurflen atoch i'w llenwi.

Bydd yn ceisio gwneud asesiadau wrth ddesg lle y bo hynny'n bosib, fodd bynnag, efallai y bydd yn gofyn am asesiadau pellach dros y ffôn neu'n bersonol. 

Amhariad gwybyddol difrifol​

Gallech gael bathodyn glas os na allwch ddilyn cynllun neu daith heb gymorth rhywun arall.​

Sut i wneud cais​

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno:

  • prawf o'ch amhariad gwybyddol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Gallai hyn fod yn llythyr, yn adroddiad, yn grynodeb, neu'n gopi o'ch cynllun gofal,
  • yn llythyr cadarnhau gan y Tîm Cof yn Ysbyty Llandochau, neu'n
  • ddatganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), neu'n gynllun datblygu unigol. Rhaid i'r rhain fod â dyddiad o fewn y 12 mis diwethaf. 

Rydym yn derbyn tystiolaeth gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn:

  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)
  • Paediatregwyr
  • Seiciatryddion
  • Seicolegwyr
  • Clinig Cof

Asesiad

Fel rhan o'ch cais, efallai y cewch eich atgyfeirio hefyd i'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer asesiad meddygol pellach. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn anfon ffurflen atoch i'w llenwi.

Bydd yn ceisio gwneud asesiadau wrth ddesg lle y bo hynny'n bosib, fodd bynnag, efallai y bydd yn gofyn am asesiadau pellach dros y ffôn neu'n bersonol.

Sefydliadau sy'n cludo pobl anabl

Gallech gael bathodyn glas os ydych yn gweithio i sefydliad sy'n gofalu am bobl anabl ac yn eu cludo.

Gwneud cais am fathodyn glas fel sefydliad​. ​