Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwneud cais am fathodyn glas

Gallech gael bathodyn glas os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy'n effeithio ar eich symudedd. Mae'r bathodyn yn caniatáu i chi barcio mewn rhai mannau cyhoeddus, gan ei gwneud yn haws eu cyrraedd.

Yng Nghymru, mae bathodynnau glas ar gael am ddim ac yn ddilys am hyd at 3 blynedd.

Gallwch wneud cais:

  • Os ydych yn teithio fel gyrrwr neu deithiwr.
  • I chi'ch hun neu ar ran rhywun arall.

Gallai gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu eich cais. Os cewch eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar gyfer asesiad meddygol pellach, yna gall gymryd mwy o amser.

Os oes gennych fathodyn eisoes ac angen un newydd, dylech wneud cais hyd at 12 wythnos cyn i'ch bathodyn presennol ddod i ben. Os byddwch yn gwneud cais cyn hyn, bydd eich cais yn cael ei ganslo. Dysgwch beth i'w wneud os yw'ch bathodyn ar fin dod i ben.

Beth sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno:

  • Llun diweddar ar ffurf pasbort
  • Prawf o hunaniaeth â llun (gallai hyn fod yn llun digidol neu'n sgan o'ch ID)
  • Phrawf o'ch cyfeiriad

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am fwy o dystiolaeth i gefnogi'ch cais. Cyn i chi wneud cais am fathodyn glas, gwiriwch a ydych yn gymwys a dysgwch pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei chyflwyno.

Os na fyddwch yn cyflwyno'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom, gallwn wrthod eich cais.

Gwneud cais am fathodyn glas


Os ydych eisoes wedi gwneud cais

Gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu cais. Peidiwch â chysylltu â ni os ydych wedi gwneud cais o fewn yr amser hwn oherwydd gall hynny ymestyn eich cais.

Os gwnaethoch gais dros 12 wythnos yn ôl ac nad ydych wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau, ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom yn [email protected].

Cyn cysylltu â ni am eich cais presennol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych wrth wneud cais. Byddwn wedi anfon unrhyw ddiweddariadau ynghylch cynnydd y cais i'r cyfeiriad hwn.

Os ydych cais wedi'i wrthod

Mae ein penderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a'r dystiolaeth yn eich cais. Os oes gennych wybodaeth neu dystiolaeth newydd na wnaethoch ei chynnwys y tro cyntaf, gallwch gyflwyno cais newydd.

Os nad oes gennych unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach, rhaid i chi aros o leiaf 6 mis cyn i chi wneud cais eto.

Os oes unrhyw newidiadau sylweddol i'ch symudedd o fewn y cyfnod o 6 mis, gallwch gyflwyno cais newydd. Rhaid i chi gyflwyno'r dystiolaeth newydd hon pan fyddwch yn gwneud cais eto.

Er ein bod yn rhedeg y cynllun bathodynnau glas ar ran Llywodraeth Cymru, ni allwn newid canlyniad eich cais.

Canllawiau lluniau

Pan fyddwch yn gwneud cais, rhaid i chi gyflwyno llun digidol diweddar ar ffurf pasbort. Gallai eich cais gael ei oedi os nad yw'ch llun yn addas.

Rhaid i'ch llun:

  • fod yn glir ac mewn ffocws,
  • cynnwys eich pen a'ch ysgwyddau yn unig,
  • fod mewn lliw,
  • bod â chefndir plaen neu liw golau, a
  • pheidio â bod yn hunlun.

Yn eich llun mae'n rhaid i chi:

  • fod yn wynebu tua'r blaen ac yn edrych yn syth at y camera, a
  • pheidio â chael unrhyw beth yn gorchuddio'ch wyneb.

 

Gwasanaeth cynghori annibynnol

Mae gwasanaeth cynghori annibynnol wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Mae hyn ar gyfer adeg pan fydd angen asesiad meddygol pellach.

Bydd eich cais yn cael ei atgyfeirio i'r gwasanaeth cynghori annibynnol yn yr achosion canlynol:

  • Rydych wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar, neu'n aros i gael llawdriniaeth
  • Mae gennych amhariad gwybyddol
  • Mae gennych gyflwr prin neu anarferol
  • Mae gennych gyflwr sy'n gwaethygu. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael bathodyn heb yr angen am fwy o asesiadau meddygol yn y dyfodol.
  • Nid ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ond credwn y gallai fod angen asesiad meddygol pellach ar gyfer cyngor meddygol (er enghraifft, mae gennych broblemau symudedd ond efallai y byddwch yn gallu cerdded pellteroedd byr)

Yn yr achos hwn, byddwn yn anfon ffurflen gais atoch i'w llenwi.Ar ôl i ni dderbyn eich cais, byddwn yn eich atgyfeirio i'r gwasanaeth. Byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad neu i ofyn am fwy o wybodaeth os bydd angen.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb, a allai ddigwydd yn un o'n clinigau neu yn eich cartref. Byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drafod hyn.

Gwneud cais yn eich Hyb lleol

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch fynd i'ch Hyb lleol, lle gall aelod o staff eich helpu.

Gall staff gymryd copïau o'ch dogfennaeth a thynnu llun i chi. Yna gallant gyflwyno'ch cais yn ddigidol.

Chwilio am Hybiau sy'n cynnig gwasanaethau bathodyn glas.

Cysylltu â ni

Os na allwch fynd ar-lein neu fynd i Hyb, gallwch ofyn am alwad yn ôl i gael help i wneud cais am fathodyn glas.

Ffôn: 029 2087 3209 (dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am i 12pm).

Gallwch hefyd lenwi ein ffurflen gyswllt gydag ymholiad os hoffech i ni gysylltu â chi.

Ffurflen Gyswllt