Gallwch archebu hyd at 26 o ymweliadau â chanolfan ailgylchu y flwyddyn. Bydd angen i chi archebu slot bob tro y byddwch yn ymweld.
Os ydych yn ymweld mewn car, gallwch ddefnyddio eich lwfans yn hyblyg ond ni allwch ymweld fwy na thair gwaith mewn diwrnod.
Os ydych yn ymweld mewn fan, neu gar â threlar, cewch drefnu dim ond un ymweliad y mis.
Cerbydau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu
Mae canolfannau ailgylchu yn
Ffordd Lamby a
Chlos Bessemer.
Dydyn ni ddim yn derbyn bagiau cymysg o wastraff cyffredinol yn ein canolfannau ailgylchu. Dylech roi'r math hwn o wastraff allan yn eich bin du neu fagiau streipiau coch i'w casglu o ymyl y ffordd.
Os defnyddiwch chi'r holl
wasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd sydd ar gael a'n
gwasanaeth casglu hylendid ar gyfer cewynnau a gwastraff anymataliaeth, bydd hyn yn lleihau faint o wastraff cyffredinol rydych chi'n ei gynhyrchu.
Ceisiwch ailgylchu cymaint ag y gallwch yn eich cadi bwyd a'ch bagiau ailgylchu. Os na allwch ymdopi â'ch lwfans gwastraff cyffredinol, rydym yn cynnig
casgliad ychwanegol â thâl, neu gallwch ddefnyddio contractwr gwastraff preifat. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredigDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Gallwch fynd â'r mwyafrif o eitemau i'r ddwy ganolfan. Gwiriwch cyn ymweld.
- Batris
- Beiciau
- Batris ceir
- Cardfwrdd
- Carpedi
- Deunyddiau ceramig
- Cyfrifiaduron
- Oergelloedd neu Rhewgelloedd
- Cemegau gardd a'r cartref - rhaid labelu'r rhain yn glir
- Gwastraff gardd
- Poteli nwy
- Plastigau Caled
- Eitemau trydanol mawr, fel peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi ac ati
- Mattresi
- Cyfryngau (llyfrau a CDs)
- Ffonau symudol
- Paent
- Bwrdd plastr (rhaid ei dorri i fyny)
- Rwbel (gan gynnwys pridd) - uchafswm o 6 o fagiau 20KG yr ymweliad. Rhaid tipio bagiau i'r sgip, ac yna mynd â nhw adref.
- Metel sgrap
- Dalennau gwydr
- Offer trydanol bach, fel tegellau, tostwyr, consolau gema
- Teledu a Sgrinau
- Tetra Pak (gan gynnwys cartonau a chynwysyddion plastig â phen metel)
- Tecstilau a sgidiau
- Teiars (Ffordd Lamby yn unig)
- Ffenestri UPVC (Ffordd Lamby yn unig)
-
Hen olew ceir
- Olew llysiau/coginio
Gwastraff na ellir ei ailgylchu
Os oes gennych eitemau na allwn eu hailgylchu gallwch ddod â nhw i'r safle.
Cyn eu rhoi yn y sgip bydd angen i wasanaethwyr y safle gadarnhau nad oes modd ailgylchu eich eitemau. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio bagiau clir neu gynhwysydd i helpu gyda'r broses hon. Os oes angen i chi ddefnyddio bagiau i gludo'r eitemau, bydd angen i chi eu hagor i ddangos i'n staff. Ni chewch ddefnyddio bagiau gwyrdd y Cyngor.
Mae enghreifftiau o'r deunydd y gellir ei roi yn ein sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cynnwys:
- Gwastraff anifeiliaid anwes gormodol e.e. gwasarn cathod, sarn anifeiliaid
- Bleindiau
- Gwely difan
- Celfi gardd
- Polystyren
- Pecynnu ffilm plastig tenau
- Drychau
- Soffas a chadeiriau breichiau
- Papur Wal
- Eitemau babi e.e. seddau car, cadeiriau uchel, pramiau neu cadeiriau gwthio
- Tapiau fideo neu casét
Holwch ein staff os nad ydych chi’n siŵr. Os na fyddwn yn cynnig gwasanaeth ailgylchu i waredu eitem, byddwch yn gallu ei roi yn y sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Asbestos
Gallwch fynd â hyd at ddau sach asbestos i ganolfan ailgylchu Clos Bessemer. Mae angen i chi drefnu apwyntiad cyn i chi ymweld. Os ydych chi’n cael gwared ar asbestos, ni allwch drefnu apwyntiad ar-lein. Bydd angen i chi ein ffonio ar 029 2087 2088 i drefnu apwyntiad.
Sut i gael gwared ar Asbestos.