Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Casgliadau hylendid

​​

​​​​​​​​Os na allwch chi ffitio eich cewynnau neu'ch gwastraff anymataliaeth yn eich bin du neu’ch lwfans bagiau du, gallwch gofrestru ar gyfer casgliadau hylendid.​


Bydd casgliadau hylendid bob pythefnos, bob yn ail wythnos i gasgliadau gwastraff cyffredinol. Dylech roi eich cewynnau neu'ch gwastraff anymataliaeth yn eich bin du neu’ch bagiau du ar yr wythnos casglu gwastraff cyffredinol o hyd.
​​

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth byddwn yn rhoi bagiau hylendid i chi.  Byddwch naill ai'n derbyn bagiau melyn neu borffor.  ​​

Byddwn hefyd yn rhoi cadi melyn i chi i storio eich bagiau hylendid rhwng casgliadau. Dylid defnyddio cadis ar gyfer storio yn unig, peidiwch â rhoi eich cadi allan i'w gasglu. 

Beth sy’n cael ei gasglu?

  • Cewynnau
  • Sbwriel sy'n gysylltiedig â newid cewynnau, megis gwlân cotwm, lleiniau gwlyb, sachau cewynnau
  • Padiau anymataliaeth
  • Cathetrau
  • Bagiau stoma/Colostomi*
  • Plastrai a rhwymynnau
  • Nodwyddau*
  • Gwastraff Glanweithiol
  • Chwyd
  • Ysgarthion anifeiliaid
 

* Gweler eitemau clinigol a meddygol

I gael gwared ar eich bagiau stoma neu golostomi a chathetrau’n ddiogel ac yn lanwaith, rhowch gynnwys y bag yn eich toiled, lapiwch y bag a’i roi yng ngwastraff cyffredinol eich cartref i’w gasglu.


Nodwyddau neu chwistrelli

Bydd angen i chi drefnu casgliad nwyddau miniog gyda’ch bwrdd iechyd lleol. Nid yw Cyngor Caerdydd yn casglu nodwyddau neu chwistrelli.

I
gael rhagor o wybodaeth a chyngor o ran gwastraff meddygol, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol neu Galw Iechyd Cymru.


Cyflwyno eich gwastraff hylendid i’w gasglu


Rhowch eich bagiau hylendid ar y cwrbyn iddynt gael eu casglu. Neu gallwn drefnu gyda chi i gasglu o leoliad cudd.  


Gwiriwch eich diwrnod casglu.

Peidiwch â chadw eich bagiau hylendid yn eich cadi storio wrth eu rhoi allan i'w casglu.  Ni fyddwn yn casglu o'r tu mewn i'ch cadi.​

Gall bagiau gwastraff hylendid fod yn drwm. Rhannwch eich gwastraff hylendid rhwng bagiau i leihau’r pwysau. Gallwch roi cymaint o fagiau allan ag sydd angen.​

Os yw’ch bag yn hollti, rhowch y bag hwnnw y tu mewn i fag arall.​
​​

Gyda phob casgliad, byddwn yn gadael yr un nifer o fagiau a gyflwynwch. 



Os oes angen rhagor o fagiau arnoch, gallwch eu casglu o’ch Hyb lleol. 


Os na fyddwch yn rhoi eich bagiau hylendid allan ar gyfer pedwar casgliad yn olynol, byddwch yn cael eich tynnu o'r gwasanaeth.

Gallwch ailymgeisio am y gwasanaeth eto ar unrhyw adeg.

Llyfrgell Cewynnau Brethyn Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 143 miliwn o gewynnau untro yn cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn. Mae cewynnau brethyn amldro yn ddewis arall sy'n cynnig manteision ariannol ac amgylcheddol hirdymor.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar gewynnau brethyn golchadwy, mae gan Gaerdydd Lyfrgell Cewynnau Brethyn sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar ddefnyddio cewynnau amldro. Gellir llogi set o gewynnau brethyn am ffi fechan, gan roi’r cyfle i chi eu treialu am fis.

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau am sesiynau sydd ar ddod gan y Llyfrgell Cewynnau, dilynwch Llyfrgell Cewynnau Brethyn Caerdydd ar Facebook​ neu cysylltwch â nctnappy@gmail.com.

Gwneud cais am gasgliad hylendid


I wneud cais am gasgliad hylendid cwblhewch y ffurflen gais ar-lein am gasgliad hylendid neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.


 

Gwnewch gais am gasgliad hylendid



Pan fydd eich cais wedi'i brosesu, bydd eich bagiau hylendid yn cael eu danfon o fewn 7 i 10 diwrnod gwaith.
​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd