Rydym yn cysylltu â chynnwys a ddarperir gan wefannau eraill ac yn ei ddefnyddio, ac nid yw bob amser mor hygyrch. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwneud cais am fudd-daliadau
- Porth y Dreth Gyngor
- E-daliadau
- Rhyddid Gwybodaeth a Setiau Data
- Tai ar-lein
- Map ar-lein i-share
- Safle swyddi Cyngor Caerdydd
- Modern.gov
- Netloan - archebu ar gyfrifiadur personol
- Llyfrgell ar-lein
- Apeliadau parcio
- Porth cynlluio
- System drwyddedau
- Derbyniadau i ysgolion
- Startraq (trwyddedu)
- Startraq (gorfodi)
- Gwe-ddarlledu
- Sgwrs ar-lein
Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda’n cyflenwyr i fynd i’r afael â materion hygyrchedd ar systemau rydym wedi’u prynu ganddynt.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
webdev@caerdydd.gov.ukBydd eich e-bost yn cyrraedd tîm gwe y Cyngor a fydd yn edrych ar y materion rydych yn eu disgrifio ac yn ymateb os bydd angen.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi
Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn,
cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb).Dolen allanol yn agor mewn ffenest newyddRydym yn darparu Gwasanaeth Trosglwyddo Fideo trwy
Video Relay Service gan Sign VideoDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd i bobl sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Dysgwch
sut y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â
Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Rhestrir gweddill y meysydd diffyg cydymffurfio isod:
Nid yw rhai o’n tudalennau’n caniatáu i ddefnyddwyr neidio ymlaen at y cynnwys yn gyflym.
| WCAG A 2.4.1
| 5 (uchel)
| 94.6%
|
Mae angen i nifer fach o ddolenni cyfagos â’r un gyrchfan gael eu cyfuno.
| WCAG A 1.1.1
| 3 (canolig)
| 99.3%
|
Nid oes gan rai o’n delweddau destun amgen.
| WCAG A 1.1.1
| 3 (canolig)
| 99.7%
|
Nid yw llawer o’r priodoleddau adnabod ar ein tudalennau yn unigryw.
| WCAG A 4.1.1
| 3 (canolig)
| 7.9%
|
Nid yw rhai o’r meysydd ar ein safle yn nodi eu diben yn rhaglennol.
| WCAG AA 1.3.5
| 3 (canolig)
| 99.4%
|
Mae rhai o benawdau ein tablau heb gwmpas.
| WCAG A 1.3.1
| 3 (canolig)
| 90.2%
|
Ni all darllenwyr sgrin ddefnyddio rhai o’n dolenni.
| WCAG A 4.1.2
| 3 (canolig)
| 96.8%
|
Nid yw rhai o’n rhestrau wedi’u hysgrifennu’n semantig fel rhestr.
| WCAG A 1.3.1
| 3 (canolig)
| 89%
|
Mae rhai o’n tudalennau’n defnyddio’r un testun dolen ar gyfer cyrchfanau gwahanol.
| WCAG A 2.4.4
| 3 (canolig)
| 30.6%
|
Ychwanegu botwm cyflwyno i bob ffurflen..
| WCAG A 3.2.2
| 3 (canolig)
| 95.8%
|
Ein nod yw gweithio trwy’r materion sy’n weddill a restrir uchod i gyflawni cydymffurfiaeth lawn lle bynnag sy’n bosibl.
Ein nod yw cydymffurfio â’r materion a ddangosir fel rhai blaenoriaeth uchel neu ganolig erbyn Chwefror 2021.
Dogfennau PDF ac eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni ar ffurf Word. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF nac eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio:
- Adroddiadau Cabinet
- Cofrestrau cynllunio
- Cofrestrau trwyddedu
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Rydym yn nodi lle y dylai gwybodaeth a gedwir ar PDF fod ar dudalen ar y wefan. Byddwn yn dod o hyd i’r rhain a’u trwsio erbyn Ebrill 2021.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020.
Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 9 Tachwedd 2020.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 16 Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf o dan y rhaglen Socitm Better Connected + gan eu partner Hygyrchedd Silktide.
Defnyddiom sampl o 1000 o dudalennau i brofi hygyrchedd ar draws ein gwefan. Mae hyn tua 80% o’n holl dudalennau gwe ar y parth www.caerdydd.gov.uk.
Gallwch ddarllen
adroddiad prawf hygyrchedd llawn Cyngor CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar wefan Mynegai Silktide.
Ein nod yw adnabod a thrwsio materion yn yr amserlenni a nodir uchod.
Byddwn yn parhau i siarad â darparwyr trydydd parti i weld pa welliannau y gellir eu gwneud i'w systemau.
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 7 Gorffennaf 2021.