Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

App Caerdydd Gov

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Ap Caerdydd Gov

Mae ein ap yn eich galluogi i gysylltu â gwasanaethau'r cyngor mewn ffordd gyflym a chyfleus.

Gwiriwch eich casgliadau biniau, trefnwch ymweliad â chanolfan ailgylchu, cymerwch olwg ar eich biliau treth gyngor, rhowch wybod am dipio anghyfreithlon a llawer mwy.

Pan fyddwch chi'n defnyddio'r ap, mae eich adroddiadau yn cael eu hanfon yn awtomatig at y tîm cywir, fel y gallwn ddatrys problemau yn yr amser byrraf posibl.

Cymerwch olwg ar yr holl wasanaethau sydd ar gael ar ein ap. Mae'r gwasanaethau hyn hefyd ar gael ar ein gwefan.


Gwasanaethau ailgylchu a gwastraff

  • Gwiriwch ddyddiadau eich casgliadau ailgylchu a gwastraff a gosodwch negeseuon atgoffa.
  • Rhowch wybod am gasgliad ailgylchu neu wastraff sydd wedi’i fethu.
  • Trefnwch gasgliad eitem swmpus.
  • Trefnwch ymweliad â chanolfan ailgylchu.
  • Dewch o hyd i'ch stociwr agosaf neu trefnwch i fagiau, sachau neu gadi gael eu hanfon atoch.
  • Chwiliwch ein A-Y ailgylchu am gyngor ar sut i gael gwared ar eitemau’r tŷ.

Gwasanaethau treth gyngor

  • Gwiriwch eich cyfrif Treth Gyngor.
  • Cofrestru ar gyfer biliau Treth Gyngor electronig a hysbysiadau.
  • Trefnwch neu newidiwch Ddebyd Uniongyrchol.
  • Gwiriwch eich balans.
  • Cymerwch olwg ar y swm sy’n ddyledus yn eich taliad nesaf.
  • Cymerwch olwg ar y taliad diweddaraf neu'r taliadau blaenorol rydych wedi'u gwneud.
  • Gwnewch daliad.
  • Rhybudd am unrhyw orchmynion dyled neu wŷs llys.
  • Rhowch wybod am daliad a gollwyd.

Gwasanaethau parcio

  • Ffeindiwch eich parth parcio preswylwyr chi.
  • Rhowch wybod am broblem parcio.

Rhoi gwybod am broblem

Gallwch ddewis lleoliad ar y map neu nodi cod post. I roi pin ar leoliad, defnyddiwch eich bys i lusgo'r map nes bod y pin yn pwyntio i'r man cywir, yna cliciwch nesaf. Gallwch hefyd ychwanegu hyd at 3 llun ac unrhyw wybodaeth ychwanegol i'n helpu i ddod o hyd i'r broblem. Rhowch wybod i ni am broblem gyda:

  • Goleuadau stryd.
  • Tipio anghyfreithlon.
  • Parcio.
  • Sbwriel yn casglu.
  • Bin sbwriel sydd angen ei wagio neu fin sbwriel sydd wedi'i ddifrodi.
  • Dail ar y palmant neu’r ffordd.
  • Baw cŵn.
  • Cyffuriau neu nodwyddau.
  • Gwydr.
  • Gwastraff dynol.
  • Anifail marw.
  • Graffiti.
  • Tyllau ar y ffordd neu balmant.
  • Arwynebau wedi suddo ar y ffordd neu balmant.
  • Marciau ffordd wedi pylu.
  • Twmpathau cyflymder ac ynysoedd traffig.
  • Draeniau.
  • Cyfleustodau a chaeadau tyllau archwilio.
  • Difrod i wreiddiau coed.
  • Cyrbau a phalmentydd.
  • Celfi stryd – fel bolardiau, standiau beic neu feinciau.
  • Biniau graean.
  • Chwyn.
 

Anfonwch adborth atom

Os cewch broblem dechnegol, gallwch roi gwybod amdani i ni drwy’r ap. I'n helpu ni, bydd yr ap yn cofnodi gwybodaeth ddienw yn awtomatig am eich dyfais a'ch system weithredu. Gallwch ddweud wrthym ble a sut digwyddodd y broblem a rhoi manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu â chi.

Os oes gennych awgrym ar sut y gallwn wella'r ap, cysylltwch gyda’ch syniadau. Rydym yn ychwanegu gwasanaethau newydd ac yn gwneud gwelliannau i'n ap yn barhaus, felly mae croeso i chi roi adborth. Mae'r ddau opsiwn ar gael trwy'r pennawd Anfon Adborth ar y brif ddewislen yn yr ap.

Gallwch hefyd anfon adborth atom am yr ap Cardiff Gov drwy ein gwefan.​

Gosodiadau personol

Os byddwch chi’n nodi’ch manylion personol, cânt eu cadw ar eich dyfais a byddant yn rhoi mynediad cyflymach i chi i’r holl wasanaethau yn yr ap. Gallwch nodi'r manylion hyn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Rhif treth gyngor

Nid oes rhaid i chi roi’r manylion hyn yn yr adran gosodiadau i ddefnyddio'r ap.

Gosodiadau’r Ap

Gallwch ddewis:

  • I ddefnyddio'r ap yn Gymraeg neu Saesneg.
  • A ydych chi am rannu data dienw am sut rydych chi'n defnyddio'r ap. Ni fydd hyn yn cynnwys eich manylion personol.
  • Thema olau neu dywyll yn dibynnu ar eich ffafriaeth.

Sut rydym yn storio eich data

Rydym yn ymrwymedig i gadw’ch gwybodaeth a’ch manylion​​​ yn ddiogel ac i gydymffurfio â’r gyfraith. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd am fwy o wybodaeth www.caerdydd.gov.uk/hysbysiadpreifatrwydd​

Hygyrchedd​

Rydym yn parhau i weithio tuag at safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Gallwch ddarllen am y gwaith hwn yn ein datganiad hygyrchedd www.caerdydd.gov.uk/hygyrcheddeinap​



Lawrlwytho'r ap

I lawrlwytho'r ap, ewch i'r Google Play Store neu siop App Apple a chwiliwch 'Cardiff Gov'.

Os ydych chi wedi lawrlwytho ap ​​Caerdydd Gov ac a hoffech roi rhywfaint o adborth, llenwch y ffurflen adborth am ap Caerdydd Gov ​ar ein wefan neu drwy'r ap​ ei hun.
 
 
​​​​​​​Download from Apple app store  Download from Google play store
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd