Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Asbestos

​​​​​​​​​​Nid yw asbestos yn beryglus os ydyw mewn cyflwr da ac nad yw’n cael ei symud.

Pan fydd deunyddiau asbestos yn mynd yn hen neu’n cael eu difrodi, er enghraifft wrth eu drilio, llifio, sgrwbio neu sandio, gallant ryddhau ffibrau gwenwynig i’r aer.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn esbonio’r arwyddion i gadw llygad amdanynt.

Peidiwch â rhoi asbestos gyda’ch gwastraff gardd, bwyd, ailgylchu na gwastraff cyffredinol.

Gwaredu asbestos

Casgliadau ymyl y ffordd​

Gallwn gynnig casgliad ymyl y ffordd cyfleus, am ddim ar gyfer symiau bach o asbestos.

Ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd, bydd angen i'ch asbestos ffitio i mewn i un sach asbestos, yn mesur 1150mm x 870mm. Byddwn yn danfon sach asbestos i'ch eiddo. Byddwn hefyd yn darparu bag clir. Bydd angen i chi roi eich sach asbestos yn y bag clir, fel ei fod wedi ei fagio ddwywaith.

Bydd ein contractwr asbestos yn cysylltu â chi ac yn dweud pryd y dylech roi eich sach ar ochr y ffordd i'w gasglu. Os oes angen sach asbestos arnoch defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais​.​

Canolfan Ailgylchu Clos Bessemer

Gallwch fynd â hyd at ddau sach asbestos i ganolfan ailgylchu Clos Bessemer. Mae angen i chi drefnu apwyntiad cyn i chi ymweld. 

Os ydych chi’n cael gwared ar asbestos, ni allwch drefnu apwyntiad ar-lein. Bydd angen i chi ein ffonio ar 029 2087 2088 i drefnu apwyntiad.






Bydd angen i chi ddefnyddio sachau asbestos a ddarperir gennym wrth gael gwared ar asbestos yng nghanolfan ailgylchu Clos Bessemer. Os oes angen sach asbestos arnoch, defnyddiwch y ffurflen gais ar-lein.​


Cael gwared ar asbestos mewn modd trwyddedig

Os oes gennych fwy na dau sach asbestos, bydd angen i chi ddefnyddio cwmni trwyddedig i gael gwared ar yr asbestos. Darllenwch ragor o wybodaeth am waredu asbestos mewn modd trwyddedig.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Tai Cyngor

Rydym yn monitro ac yn rheoli asbestos mewn tai cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel. Bydd pob deunydd sy’n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da yn cael ei adael yn y fan a’r lle, a bydd ei gyflwr yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Os bydd y deunydd wedi’i ddifrodi neu’n hynod beryglus oherwydd ei leoliad byddwn yn gweithredu ar unwaith i gael gwared ohono.

 

Os ydych o’r farn y gallai fod asbestos sydd wedi’i ddifrodi yn eich tŷ cyngor, neu os ydych yn ystyried gwneud gwaith i wella eich cartref a allai effeithio ar ddeunydd sy’n cynnwys asbestos, rhaid i chi gysylltu â ni neu ffoniwch 029 2087 20888.

 

Os ydych yn gwneud unrhyw waith eich hun neu'n caniatáu i rywun arall wneud gwaith a hynny heb ganiatâd ysgrifenedig, chi fydd yn atebol am dalu costau i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau’n gysylltiedig ag asbestos. ​

Cofiwch na chaniateir newidiadau i isadeiledd neu adeiledd yr eiddo dan y cytundeb tenantiaeth heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.​

Cais am sach asbestos​

Rhowch eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yn y ffurflen gais ar-lein. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu defnyddio casgliad wrth ymyl y ffordd, neu os ydych wedi archebu i gael gwared ar asbestos yng nghanolfan ailgylchu Clos Bessemer.​


Cysylltu â ni

​​


​​
© 2022 Cyngor Caerdydd