Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Mannau cynnes a chymorth bwyd

Dewch o hyd i fannau cynnes, cwmni, prydau bwyd am ddim a bwyd i'ch cadw chi a'ch teulu yn gynnes ac yn ddiogel.

Mannau cynnes

Mae ein Hybiau a phartneriaid eraill ar agor i chi.

Cymorth bywd

Gallwch ddefnyddio ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i bantrïoedd, banciau bwyd, ac oergelloedd cymunedol​ yn eich ardal.

Cymorth brys am fwyd

Os oes angen bwyd arnoch ar frys, gall ein Tîm Cyngor Ariannol, Hybiau a Llinell Gynghori roi talebau am fwyd brys.

Ffoniwch 029 2087 1071 neu ewch i'ch Hyb lleol.

Taliad DAF Cymorth Brys

Grant yw'r taliad Cymorth Brys i helpu i dalu costau hanfodol, fel bwyd, os ydych:

  • yn profi caledi ariannol eithafol
  • wedi colli'ch swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Gallwch wneud cais am y Gronfa Cymorth Brys ar-lein neu drwy ffonio 029 2087 1071.

Prydau Ysgol Am Ddim

Bydd disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu'n derbyn budd-daliadau penodol.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a sut i wneud cais am brydau ysgol am ddim.