Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Cynhyrchion mislif am ddim mewn Hybiau

Gallwch gasglu cynhyrchion mislif am ddim yn rhai o'n Hybiau, ac adeiladau cymunedol eraill.

Llenwch ffurflen gais yn y dderbynfa a bydd staff yn darparu'r cynhyrchion yr ydych wedi gofyn amdanynt.

Gallwch gael:

  • padiau mislif amldro,
  • nicers mislif amldro,
  • bocsers mislif amldro,
  • padiau mislif (dydd a nos),
  • cwpanau mislif, a
  • thamponau ecogyfeillgar

Gweler map o leoliadau sy'n cynnig cynhyrchion mislif am ddim.