Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Babanod a phlant ifanc

Cymorth gyda chostau teulu ifanc, gan gynnwys cymorth gofal plant.

Budd-dal Plant

Gallwch gael taliadau budd-dal plant os ydych yn gyfrifol am yr isod:

  • plentyn dan 16 oed
  • plentyn o dan 20 oed sy'n dal i fod mewn addysg

Nid oes cyfyngiad ar faint o blant y cewch hawlio amdanynt, ond dim ond un rhiant sy'n cael hawlio.

Dysgwch fwy a gwneud cais ar gyfer Budd-dal Plant.

Lwfans Gwarcheidwad

Gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os ydych yn magu plentyn y mae ei rieni wedi marw. Gallech chi hefyd fod yn gymwys os oes 1 rhiant wedi goroesi. Mae hyn ar ben taliadau budd-dal plant.

Cewch wybod a ydych yn gymwys i gael Lwfans Gwarcheidwad.

Dechrau Iach

Gallech gael cymorth i brynu bwyd a llaeth iach i'ch plentyn os:

  • ydych yn cael budd-daliadau penodol,
  • oes gennych blentyn o dan 4 oed,
  • ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 10 wythnos.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Iach.

Lwfans Mamolaeth

Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 26 wythnos, efallai y gallwch hawlio Lwfans Mamolaeth.

Mae hyn yn wahanol i Dâl Mamolaeth Statudol. Ni allwch hawlio'r ddau fudd-dal gyda'i gilydd.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych chi neu'ch partner yn cael budd-daliadau penodol, efallai y gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Gofal Plant Di-reth

Os ydych yn gweithio, efallai y gallwch gael hyd at £2000 y flwyddyn i helpu i dalu costau gofal plant. Gallwch wneud cais dim ond os yw'ch plentyn yn 11 oed neu iau.

Os yw'ch plentyn yn anabl, efallai y byddwch yn gymwys i gael hyd at £4,000 y flwyddyn hyd nes ei fod yn 16 oed. Ni fyddwch yn gallu hawlio hyn ar yr un pryd â chymorth gofal plant arall.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant Di-dreth.

30 Awr o Fal Plant Am Ddim

Os yw eich plentyn yn 3 i 4 oed, gallech gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim os ydych chi neu eich partner yn gweithio neu'n astudio.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant am ddim.

Dechrau'n Deg

Os yw eich plentyn o dan 4 oed, efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant rhan-amser am ddim.

Dim ond os yw Dechrau'n Deg yn gwasanaethu'ch ardal y byddwch yn gallu cael hyn.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg.

Cyfrifiannell gofal plant

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell gofal plant GOV UK i weld pa help sy'n iawn i chi a'ch teulu.