Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Uwchlwythwch dystiolaeth

Efallai bod angen i chi darparu tystiolaeth i gefnogi eich cais am Fudd-dal Tai, Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Daliad Tai yn ôl Disgresiwn, neu cyn gallwn weithredu newid yn eich amgylchiadau. Byddwn yn cynghori unrhyw beth fydd angen i chi ei ddarparu.

Credyd Cynhwysol

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol ni fydd angen unrhyw dystiolaeth bellach arnom o'ch incwm, cyfalaf na threuliau, ond bydd angen i ni weld copi o'ch datganiad Credyd Cynhwysol sy'n cynnwys:

  • dadansoddiad llawn o'ch lwfans personol a thai
  • manylion unrhyw enillion a didyniadau, a
  • manylion talu

I lawrlwytho eich dyfarniad Credyd Cynhwysol fel ffeil PDF:

  • Mewngofnodwch i'ch Cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein
  • Cliciwch ar y tab cartref
  • Agorwch yr adran daliadau
  • Cliciwch ar y dyddiad ar gyfer y datganiad Credyd Cynhwysol gofynnol
  • Yna cliciwch argraffu
  • Cliciwch y gwymplen a dewis 'cadw fel PDF' a bydd hynny'n creu ffeil
  • Uwch-lwythwch ffeil gan ddefnyddio'r ddolen uchod neu anfonwch e-bost atom [email protected]

 

Ffurflen O Rent

Os ydyn wedi gofyn i chi am dystiolaeth o'ch atebolrwydd rhent mae ffurflen 'Tystiolaeth O Rent' ar gael yma i'ch landlord i gwblhau.

Ffurflen Tystiolaeth O Rent (PDF, 167 KB)

Os ydych chi'n defnyddio Ffôn Clyfar, efallau bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi.

Ffurflen Atebolrwydd i Dalu Rhent a Masnachadwyedd Tenantiaeth

Os ydym wedi gofyn am ragor o wybodaeth am eich tenantiaeth, eich eiddo, a'ch perthynas â'ch landlord, llenwch y ffurflen Atebolrwydd i Dalu Rhent a Masnachadwyedd Tenantiaeth. Mae dwy ffurflen y mae'n rhaid i chi ei gwblhau, un i chi ac un ar gyfer eich landlord:

 

Tystiolaeth O Incwm

Os ydyn wedi gofyn i chi am dystiolaeth o'ch incwm mae ffurflen 'Tystiolaeth O Incwm' ar gael yma i'ch cyflogwr i gwblhau.

Tystysgrif o Incwm (PDF, 203 KB)

Os ydych chi'n defnyddio Ffôn Clyfar, efallau bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi.

Tystiolaeth incwm hunangyflogedig

Os ydyn wedi gofyn i chi am dystiolaeth o'ch incwm hunangyflogedig a rydych wedi bod yn masnachu am o leiaf mis mae ffurflen 'Datganiad o Enillion Hunangyflogedig' ar gael yma i chi ei gwblhau

Tystiolaeth incwm hunangyflogedig (PDF, 264 KB)

Os ydych chi'n defnyddio Ffôn Clyfar, efallau bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi.

Yn anabl ac yn methu rhannu ystafell wely

Os nad ydych chi, eich partner neu'ch plant yn gallu rhannu ystafell wely oherwydd anabledd, cwblhewch y ffurflen berthnasol.

Os ydych yn cyrchu'r ffurflenni hyn gan ddefnyddio ffôn clyfar efallai y bydd angen i chi gadw'r ffurflen i'ch dyfais cyn ei chwblhau.

Uwchlwythwch eich tystiolaeth

Os gofynnwyd i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich hawliad newydd neu newid mewn amgylchiadau, gallwch ei huwchlwytho neu eich cais ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ddolen hon i uwchlwytho eich cais wedi'i gwblhau ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn.

I lanlwytho eich tystiolaeth neu'ch cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn bydd angen y canlynol arnoch:

  • Eich enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif yswiriant gwladol
  • Dyddiad geni

Uwchlwythwch dystiolaeth am Fudd-dal Tai a / neu Ostyngiad Treth Gyngor

Nid oes angen i chi wybod rhif eich hawliad felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych un eto. Os na allwch uwchlwytho'ch tystiolaeth e-bostiwch: [email protected]

Gallwch hefyd gyflwyno tystiolaeth yn eich Hyb lleol neu drwy ei phostio drwy Rhadbost i: Rhadbost budd-dal tai Cyngor Caerdydd.