Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cymorth i deuluoedd yn ystod y gwyliau

Mae'r cynllun 'Bwyd a Hwyl' yn cynnig help i deuluoedd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn ystod gwyliau'r haf i ysgolion. Cyngor Caerdydd, ei bartneriaid a grwpiau cymunedol ledled y ddinas sy'n gyfrifol am y cynllun.

Mae'r cynllun yn darparu prydau am ddim ochr yn ochr â rhestr gyffrous o weithgareddau, sgiliau a chwaraeon hwyliog i blant. Gellir tywys rhieni a theuluoedd tuag at ffyrdd y gall pobl ifanc ymysgwyd a chael eu diddanu, yn ogystal â sut i ddod o hyd i ffyrdd rhad - ac am ddim - o fwydo teuluoedd.

Gweithgareddau am ddim neu am gost bychan

Cymorth i Deuluoedd

Anogir rhieni a theuluoedd i gysylltu â Cyngor Ariannol Caerdydd 029 2087 1071, os ydynt yn teimlo eu bod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd neu os hoffent gael help i gael gafael ar fudd-daliadau. Ymhlith y cynlluniau y gallant helpu gyda nhw mae:

Talebau Cychwyn Iach
I brynu bwydydd iach a llaeth i blant ifanc ac yn ystod beichiogrwydd.

Grant Hanfodion Ysgol
Help i brynu gwisg ysgol ac ati.

Cludiant rheilffordd
Mae plant dan 11 oed yn teithio am ddim (os oes oedolyn gyda nhw sy'n talu am docyn) ac mae plant 11 i 16 yn teithio am ddim oddi ar yr oriau brig.

Cynhyrchion tlodi mislif
Ar draws yr Hybiau, gofynnwch yn y dderbynfa.

Bwyd am ddim neu am bris isel

Pantri bwyd
Bwyd ffres, ffrwythau a llysiau ar gyfer tanysgrifiad wythnosol bach, fel arfer tua £5.

Oergell Gymunedol
Brechdanau, bwyd wedi'i goginio, cig, llaeth, llysiau ac ati. Talu beth allwch ei fforddio. Bob dydd, 9.30am i 11pm yng Nghanolfan Gymunedol Cathays, Teras Cathays.

Banc bwyd Al-Ikhlas
Dydd Mawrth, 10am i ganol dydd Canolfan Al-Ikhlas, Heol Lydan, Adamsdown.

Canolfan Rainbow of Hope
Te a choffi am ddim i'r rhai mewn angen, dydd Llun i ddydd Iau, 10.30am i 1pm. Dydd Sadwrn hanner dydd tan 1pm. 23-25 Heol Lydan.

Fforwm Tredelerch
Banc Bwyd (cofrestrwch yn wythnosol ar gyfer apwyntiadau dydd Mawrth). Brachdy House, Heol y Brachdy Tredelerch.

Clwb Bwyd Dydd Gwener
Pantri i bobl yn Llanedern neu Bentwyn, £3 am 16 eitem, Dydd Gwener. Eglwys Gymunedol Glenwood, Ffordd Gylchol y Gorllewin, Llanedern. Cofrestrwch yn gyntaf.

FoodCycle Caerdydd
Pryd poeth am ddim, croeso i deuluoedd,

  • Trelái: Pob ddydd Llun 6:30pm, Yr Efail Ddwst, Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái.
  • Glan-yr-afon: Pob ddydd Mercher 6:30pm, Canolfan Wyndham Street, Glan-yr-afon.

Splo-Down
Grŵp Bwyd Cymunedol. Dydd Mercher, 5 i 7pm, Cwrt Canolfan Oasis, Heol y Sblot, Y Sblot.