Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cymorth i bobl hŷn

ostyngiadau'r dreth gyngorDysgwch am y cymorth sydd ar gael yn benodol i bobl hŷn a phensiynwyr.

Credyd Pensiwn

Os ydych o oedran pensiwn y wladwriaeth ac ar incwm isel, efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn i helpu tuag at eich costau byw. Mae hyn yn wahanol i bensiwn y wladwriaeth ac nid yw'n effeithio arno.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Pensiwn, gallai fod modd i chi gael cymorth arall i'ch helpu gyda chostau byw, megis:

  • help gyda chostau rhent,
  • help gyda'r dreth gyngor,
  • Gostyngiad Cartrefi Cynnes, a
  • help gyda chostau GIG.

Cewch wybod a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.

Cyfrifiannell budd-daliadau

Bydd ein cyfrifiannell budd-daliadau yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau a grantiau y gallwch eu hawlio.

Lwfans Gweini

Os ydych o oedran pensiwn y wladwriaeth ac mae gennych anghenion gofal, gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini i dalu cost eich gofal.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich anabledd neu anghenion gofal.

Os ydych eisoes yn cael Taliadau Annibyniaeth Bersonol (TAB) neu Lwfans Byw i'r Anabl (LBA), ni allwch hawlio Lwfans Gweini ar yr un pryd. Efallai y byddwch yn well eich byd ar eich budd-daliadau presennol. Gallwch wirio hyn gyda'r Tîm Cynghori Ariannol ar 029 2087 1071.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Lwfans Gweini.

Help gyda'ch rhent

Os ydych o oedran pensiwn y wladwriaeth, neu'n byw mewn llety â chymorth neu dros dro, gallech gael Budd-dal Tai i'ch helpu gyda chost eich rhent.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer budd-dal tai.

Help gyda'ch treth gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio gostyngiad y dreth gyngor.

Cewch wybod a ydych yn gymwys a gwneud cais ar gyfer gostyngiad y dreth gyngor.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar eich treth gyngor. Mae'r gostyngiadau'n cynnwys:

  • gostyngiad person anabl,
  • gostyngiadau i ofalwyr a'r rhai sy'n gadael gofal,
  • eithriad myfyrwyr, a
  • gostyngiad person sengl.

Cewch wybod pa ostyngiadau'r dreth gyngor sydd ar gael a sut i wneud cais.