Darganfyddwch pa gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael ar wefan Cyngor Ariannol.
Cyfrifiannell budd-daliadau
Bydd ein cyfrifiannell budd-daliadau yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau a grantiau y gallwch eu hawlio.
Help gyda'ch treth gyngor
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio gostyngiad y dreth gyngor.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwneud cais ar gyfer gostyngiad treth gyngor.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar eich treth gyngor. Mae'r gostyngiadau'n cynnwys:
- gostyngiad person anabl,
- eithriad myfyrwyr,
- gostyngiad person sengl.
Gweler pa ostyngiadau y dreth gyngor sydd ar gael a sut i wneud cais.
Help gyda'ch rhent
Os ydych o oedran gweithio ac ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Gallech fod yn gymwys i gael budd-dal tai os:
- ydych chi a'ch partner o oedran pensiwn, neu
- rydych chi'n aros mewn lloches, hostel neu rai tai â chymorth neu dros dro.
Os oes angen cyngor arnoch ar hawlio cymorth gyda'ch rhent, cysylltwch â ni ar 029 2087 1071 neu dewch draw i'ch canolfan leol.
Cymorth budd-dal anabledd
Gall ein tîm cymorth budd-dal anabledd eich helpu chi a'ch teulu os hoffech wneud cais am fudd-daliadau fel:
- Lwfans Byw i'r Anabl,
- Taliad Annibyniaeth Bersonol,
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh)
- Credyd Cynhwysol (gallu cyfyngedig i gyflawni gwaith),
- Lwfans Gweini, a
- Lwfans Gofalwr.
Os yw eich cais wedi'i wrthod, gallwn hefyd eich cefnogi i ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eich cais a chymryd apeliadau i'r Tribiwnlys, os yw'n briodol.
Gallwn eich helpu dros y ffôn neu gallwn drefnu apwyntiad fel y gallwch ein gweld yn bersonol yn ein Hybiau.
Cysylltwch â ni ar 02920 871 071 neu e-bostiwch [email protected] .
